Cynhadledd Ryngwladol a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Rwydwaith Mercator gyda chefnogaeth y Comisiwn Ewropeaidd
18fed – 19eg Mai 2010 yn Aberystwyth
Galwad am Bapurau: Dyddiad Cau 15 Ionawr 2010
Amcan y Gynhadledd hon yw ceisio dadansoddi’r berthynas rhwng y diwylliant cyfryngol newydd a’r ffordd y mae iaith a ieithoedd yn cael eu defnyddio, eu cynhyrchu a’u hatgynhyrchu oddi mewn i’r tirlun heriol a newidiol yma. Mae’r term ‘cydgyfeiriant cyfryngol’ yn cynrychioli’r prosesau diwylliannol, creadigol, economaidd a chymdeithasol sydd ar waith wrth inni ystyried gwahanol gyfryngau, datblygiadau amlblatfform, cysyniadau a phrosiectau amlgyfryngol a thraws-gyfryngol.
Mae cydgyfeiriant cyfryngol yn creu cynulleidfaoedd newydd ac yn creu cynhyrchwyr newydd ym myd cyfathrebu. Daw hyn nid yn unig drwy fod cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y byd cyfryngol newydd drwy rwydweithio cymdeithasol a newidiadau diwylliannol tebyg ond hefyd drwy i lywodraethau, asiantiaethau cyhoeddus a chorfforaethau greu llwyfannau a sfferau cyfathrebu er mwyn rhyngweithio gyda dinasyddion a defnyddwyr. Mae’r sefyllfaoedd hyn yn cyflwyno heriau sylweddol i ieithoedd ac i systemau cyfathrebu. Ar yr un pryd, mae cynnal a datblygu amrywiaeth ieithyddol, hyrwyddo amlieithrwydd a hybu ieithoedd yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda Ewropeaidd, nid yn unig ar gyfer ieithoedd swyddogol yr UE ond hefyd yng nghyd-destun ieithoedd llai, ieithoedd lleiafrifol/rhanbarthol, a ieithoedd eraill ar draws y byd.
Gwahoddir cyfraniadau i’r Gynhadledd gan ystod eang o bobl o bob rhan o’r byd, sydd â’u gwaith neu eu hymchwil yn y groesffordd hon rhwng ieithoedd a chyfryngau. Croesewir cyfraniadau gan ysgolheigion profiadol a newydd, myfyrwyr prifysgol yn ogystal ag ymarferwyr a phobl sy’n creu a datblygu polisi.
Mae thema’r Gynhadledd yn cynnwys pynciau isod , ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:
Mae’r galwad hwn am bapurau yn gwahodd tri math o gynnig:
Dylid danfon crynodebau a disgrifiadau at: mercator@aber.ac.uk erbyn Ionawr 15fed, 2010 ac fe roddir ymateb erbyn 12fed Chwefror 2010. Dylid danfon papurau llawn erbyn Ebrill 9fed, 2010.
Gellir cyflwyno papurau yn Saesneg neu yn Gymraeg (gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg). Gellir defnyddio ieithoedd eraill drwy drefniant o flaen llaw, gan nodi hyn yn y cynnig papur. Gellir derbyn cynigion yn yr ieithoedd canlynol: Almaeneg, Catalaneg, Cymraeg, Eidaleg, Ffinneg, Ffrangeg, Galisieg, Hwngareg, Iseldireg, Portiwgaleg, Rwseg, Saesneg, Sbaeneg, Swedeg, Tsieceg.
Yn ogystal, gofynnir am y manylion canlynol gyda’r cynnig:Enw Llawn a Theitl; Sefydliad Academaidd neu broffesiynol; Cyfeiriad e-bost; Teitl y papur neu’r cyflwyniad; Unrhyw anghenion technegol ar gyfer y cyflwyniad.
Prif nod Mercator yw casglu, cadw, Gartref | Hygyrchedd | Map y wefan | Cysylltwch â ni
Gyda chefnogaeth y Comisiwn Ewropeaidd a Phrifysgol Cymru Aberystwyth
© 2009 Mercator Cyfryngau