BA

Daearyddiaeth Ddynol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw'r adran fwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i astudio daearyddiaeth yn un o leoliadau harddaf Ewrop.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), yn eich paratoi gyda'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG).


Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a dynamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol:

  • tueddiadau cyfredol o ran geoberyglon
  • cynaliadwyedd dinesig
  • datblygu rhanbarthol
  • daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
  • cyfleoedd gwaith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd ac Iwerddon
  • dyfarniadau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400)
  • cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysg
  • labordai â stoc llawn, gyda gwledd o offer dadansoddi e.e. sbectromedrau màs a sganwyr craidd, y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudiaeth annibynnol.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol DA10520 20
Byw mewn Byd Peryglus DA10020 20
Place and Identity GS14220 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
How to Build a Planet GS11520 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts for Geographers GS20410 10
Placing Culture GS22920 20
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
Ymchwilio i bobl a lle DA20510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Geographical Information Systems GS23710 10
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Quantitative Data Analysis GS23810 10
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Human Geography and Sociology Research Design and Fieldwork Skills GS21520 20
Understanding (in)equality and (in)justice GS24220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig Daearyddiaeth DA34040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cenedlaetholdeb a chymdeithas DA32220 20
Contemporary Global Migration GS39120 20
Everyday Social Worlds GS33320 20
Memory Cultures: heritage, identity and power GS37920 20
Modern British Landscapes GS36220 20
Rheoli'r Amgylchedd Gymreig DA31720 20
The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives GS36820 20
The psychosocial century GS30020 20
Urban Risk and Environmental Resilience GS37520 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth Ddynol?

Mae ein graddedigion wedi canfod gwaith, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, ymhlith llawer o feysydd eraill.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Cyfleoedd pellach

Cyfleoedd Gwaith:

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflawni profiad gwaith gwerthfawr yn ystod eich gradd, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer gwrs (L703) o ddiddordeb i chi. Mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â L700, ond byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn. 

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Os hoffech astudio dramor yn ystod eich gradd, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer gwrs (L704) yn addas ar eich cyfer. Bydd gennych gyfle i astudio yn unrhyw un o'n Prifysgolion partner ledled y byd rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu Rhaglen Gyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • cysyniadau allweddol wrth astudio daearyddiaeth
  • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
  • newid hinsawdd
  • datblygu economaidd
  • globaleiddio
  • newid amgylcheddol byd-eang.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu'r canlynol ymhellach:

  • sgiliau ymchwil cyfrifiadurol i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
  • dadansoddi setiau data ansoddol
  • cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol.

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn taith maes breswyl ym Mhrydain neu dramor, a gallwch ddewis modiwlau opsiynol i arbenigo ynddynt neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn:

  • byddwch yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
  • bydd ymgynghorydd personol yn cael ei ddynodi ar eich cyfer, a fydd yn rhoi arweiniad i chi
  • bydd modiwlau opsiynol amrywiol megis trefoli, newid gwledig, a pholisi rhanbarthol yn eich galluogi i deilwra eich astudiaeth i weddu i'ch diddordebau.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron, tiwtorialau mewn grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i wrth fy modd! Dw i wedi cael blas ar amrywiaeth o feysydd gwahanol ac mae wedi caniatáu i fi ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd â fy niddordebau. Mae'r tiwtoriaid yn wych - maen nhw'n gyfeillgar ac yn hawdd mynd atyn nhw. Byswn i'n argymell y cwrs a Phrifysgol Aberystwyth i unrhyw un sy'n ystyried astudio daearyddiaeth ddynol. Ashley Wilding

Dw i'n dwlu ar fy nghwrs Daearyddiaeth Ddynol am ei fod wedi gwneud i fi edrych ar y byd o fy nghwmpas mewn ffordd wahanol a mwy diddorol. Dw i'n gallu deall pam ei fod e fel mae e, a sut olwg fydd arno yn y dyfodol o bosib. Mae wedi agor fy llygaid i'r gwahanol brosesau sy'n llywio ein cymdeithas fodern. Rebecca Priest

Mae fy nghwrs - L700 Daearyddiaeth Ddynol - yn caniatáu i chi edrych ar y byd o safbwynt gwahanol, a gwerthfawrogi'r syniad o le a'r ffordd mae ymdeimlad o le yn siapio bywyd bob dydd. Dw i nawr yn gallu eistedd ar fainc mewn parc a gwylio pobl; dadansoddi sut mae pobl yn gweithredu mewn mannau cyhoeddus, ond o dan deitl ethnograffeg. Mae daearyddiaeth ddynol yn ystyried cysylltiadau gofodol yr ardaloedd sydd heb gael eu hystyried o'r blaen, neu sy'n cael eu cymryd yn ganiataol. Mae fel edrych drwy bâr o sbectol epistemolegol. Florence Genis

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|