BA

Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg

BA Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg Cod WR84 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu, a datblygu eich llais, ac os hoffech archwilio, darganfod ac ymgolli yn y geiriau sydd wedi siapio ein byd, yna mae'r radd Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Byddwch yn dysgu'r grefft o farddoni, sgriptio, ysgrifennu ffuglen, ysgrifennu ffeithiol a mwy, yn ogystal â dosbarthiadau iaith wythnosol, lle bydd eich cymhwysedd yn Sbaeneg yn ffynnu. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae arnoch eu hangen er mwyn cael gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol. Dan arweiniad arbenigol tîm o awduron sydd wedi ennill gwobrau, byddwch yn datgelu doniau cudd, ac yn dysgu pa fath o awdur ydych chi. Ar ôl gorffen y radd hon, nid yn unig y bydd gennych bortffolio o ddeunydd creadigol rhagorol, ond bydd gennych sgiliau a nodweddion er mwyn ffynnu mewn unrhyw weithle sy'n gofyn am fedrusrwydd gyda'r gair ysgrifenedig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r cyfuniad o Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg yn cynnig cwricwlwm eang sy'n croesi ffiniau traddodiadol genre, ffurf, swyddogaeth, diwylliant, ieithyddiaeth, ffilm a llenyddiaeth. Fel myfyriwr yn yr Adran Ieithoedd Modern a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn rhan o sîn greadigol ffyniannus sydd â hanes hir a llwyddiannus o fod yn sbringfwrdd ar gyfer doniau newydd.
  • Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cynnig ystod eang o fodiwlau sy'n eich galluogi i archwilio'r cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
  • Yn yr Adran Ieithoedd Modern, mae'r ystod eang o fodiwlau'n amrywio o ieithyddiaeth (fodern a hanesyddol); dialecteg (astudiaeth o wahanol ffurfiau ar Sbaeneg, o'r gorffennol a'r presennol); llenyddiaeth; iaith busnes a materion cyfoes. 
  • Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn treulio eu trydedd flwyddyn yn byw'n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg. Gallech ddewis astudio yn y Brifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith, neu ffurfiau eraill ar leoliadau gwaith. Yn ystadegol, mae graddedigion ieithoedd modern ymhlith y graddedigion mwyaf cyflogadwy. 
  • Yn adroddiad Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2017 a gyhoeddwyd yn 2018, nodwyd bod gradd mewn Ieithoedd Modern yn cynnig llwybr clir tuag at swydd neu astudiaeth bellach. Yn ein hadran ni, roedd 95% o'n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). Yn ogystal, yn ôl y Canllaw Prifysgolion Da a gyhoeddir gan y Times a'r Sunday Times, rydyn ni ymhlith y 15 uchaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer maes pwnc astudiaethau Iberaidd. Mae ein dull pwrpasol o addysgu yn sicrhau y bydd eich cyfnod pontio o'r brifysgol i'r byd gwaith yn un llyfn. 
  • Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr ar lefel uwch. Bydd dechreuwyr yn cyflawni cwrs dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • Ffuglen
  • Ffeithiol
  • Barddoniaeth
  • Sgriptio
  • Radio
  • Theatr.

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus eraill:

  • Cyhoeddi
  • Golygu
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Addysgu.

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.

Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol yn creu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan, a'r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred bendant bod angen bod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol dda, gan gynnig hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau cychwynnol yn dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o lenyddiaeth a chynhyrchu testun eich gwaith creadigol eich hun, gan archwilio'r gydberthynas rhwng arfer creadigol a beirniadol.

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr wythnosol o waith iaith, sy'n cynnwys gwaith:

  • Llafar
  • Ysgrifenedig
  • Clywedol
  • Cyfieithu

 Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn darganfod:

  • Ystod o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
  • Ffyrdd o ysgrifennu'n ddisgrifiadol
  • Pwysigrwydd plot
  • Defnydd o ddeialog
  • Yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Sbaeneg, a chyflwyno ymchwil annibynnol
  • Diwylliant Sbaen
  • Sbaeneg drwy ffilm, iaith a hunaniaeth
  • Ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
  • Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" ac ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • "Sylwebaeth feirniadol" a sgiliau ymchwil i awduron.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • Eich arddull ysgrifennu eich hun, wedi'i llywio gan eich gwaith darllen ac ymchwil
  • Ein modiwlau cynnwys ar lenyddiaeth Sbaeneg, iaith, hanes celf, diwylliannau'r Sbaen gyfoes
  •  Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsddodiad").

Mae gan fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen radd hon hyblygrwydd i ddewis modiwlau opsiynol o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd – dwy adran sy'n cynnig nifer o fodiwlau ysgrifennu creadigol mewn meysydd fel sgriptio, ysgrifennu ar gyfer y radio, ysgrifennu ar gyfer y teledu, a llawer mwy.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch: 

  • Yn dechrau eich Blwyddyn Dramor o astudio neu leoliadau gwaith.

Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn meistroli:

  • Damcaniaeth i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol drwy gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a'i werthuso'n feirniadol
  • Gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect ysgrifennu yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig)
  • Eich cymhwysedd iaith ymhellach ar ôl treulio blwyddyn yn Sbaen neu mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg
  • Dewis o blith ystod o fodiwlau yn amrywio o Lenyddiaeth, Ffilm, Diwylliant a Busnes
  • Creu eich Traethawd Hir, sef uchafbwynt eich blynyddoedd israddedig, yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol estynedig, wedi'i ysgrifennu yn Sbaeneg
  • Eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan awduron yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, ffuglen queer, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol, a llawer mwy.
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir ein cwrs drwy ystod o ffurfiau traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda phwyslais penodol ar weithdai a seminarau disgyrsiol. Nid darlithoedd yw'r norm, ond cânt eu defnyddio pan mae'n hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un i un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio. Rydyn ni'n asesu ein myfyrwyr drwy gyflwyniadau portffolio a thraethodau, ynghyd ag arholiadau a chyflwyniadau traddodiadol mewn rhai modiwlau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Sbaeneg (onibai yr astudir y pwnc fel dechreuwr)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level Spanish (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Spanish at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|