Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd ein gradd BSc Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth wyddonol o'r prosesau sy'n caniatáu i ni ddysgu, meddwl, teimlo ac addasu i'n hamodau cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, mae ein gradd BSc Seicoleg yn ymchwilio i ymddygiad pobl, o fabandod i henaint, gan ymdrin â'r ffactorau biolegol, cymdeithasol ac unigol sy'n effeithio ar seicoleg ddynol. Ar y cwrs hwn, byddwch yn gweithio ac yn ymgysylltu â darlithwyr sy'n defnyddio eu hymchwil i greu amgylchedd dysgu ysbrydoledig lle y gallwch ddatblygu eich syniadau eich hun mewn adran ddiogel a chefnogol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Qualitative Research Methods PS21410 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Evolutionary Psychology PS21020 20
Forensic Psychology PS21220 20
Health Psychology PS20720 20
Issues in Clinical Psychology PS21720 20
Psychology in Practice PS20620 20
Seicoleg Iechyd SC20720 20
The Psychology of Language PS20420 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Ein hethos yw addysgu mewn ffordd sy'n caniatáu i chi ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol y gallwch ei chymhwyso i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Yn ystod y cwrs tair blynedd, byddwch yn archwilio ac yn dysgu am ddatblygiad dynol ac am gymhlethdodau’r hyn sy’n gyrru bodau dynol a sut rydym yn llywio amgylchedd mewnol ac allanol mor gymhleth, yn ogystal â mecaneg ac effeithiau'r hyn sy'n digwydd pan fydd y systemau hyn yn diffygio.

Yn Aberystwyth, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n caniatáu i chi archwilio agweddau amrywiol ar Seicoleg. Gall myfyrwyr ar ein graddau Seicoleg fanteisio ar offer ymchwil cyffrous i ddeall yr ymennydd a gweithgarwch gwybyddol yn ogystal a chyfarpar mesur ymddygiadol.

Bydd ein gradd Seicoleg yn rhoi sylfaen eang i chi mewn seicoleg y gallwch ei theilwra i’ch diddordebau eich hun, gan ddarparu llwyfan cadarn ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa.

Bydd myfyrwyr ar ein cwrs Seicoleg yn ymuno ag un o'r adrannau mwyaf yn y brifysgol. Mae'r Adran Seicoleg yn cael ei chydnabod yn gyson ymhlith y 10 uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr ac ansawdd yr addysgu. Mae'r Adran yn ymfalchïo yn y gefnogaeth academaidd a bugeiliol o ansawdd uchel a ddarperir dan arweiniad y tîm academaidd i sicrhau eich bod yn llwyddo yn eich astudiaethau ac yn cael y profiad gorau yn y brifysgol.

Gyrfaoedd

Bydd gradd Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd. Bydd ein gradd BSc Seicoleg yn galluogi graddedigion i ddilyn gyrfa yn y proffesiynau seicolegol craidd gan gynnwys seicoleg glinigol, seicoleg addysg, seicoleg gwnsela, seicoleg iechyd, niwrowyddoniaeth, seicoleg datblygiad ac ymddygiad cymhwysol, ymhlith eraill.

Rydym wedi ymgorffori cyflogadwyedd ym mhob elfen o’r cwrs hwn, ac mae gennym nifer fawr o gyfleoedd sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i adeiladu CV ar gyfer gyrfa bosibl ym maes seicoleg neu faes arall cysylltiedig.

Mae'r adran Seicoleg yn cynnig tri amrywiad o’i chyrsiau gradd anrhydedd sengl a chyfun. Gall pob un fod yn radd sengl tair blynedd, neu gellir astudio pob un gyda blwyddyn mewn diwydiant (WF7F) neu flwyddyn yn astudio dramor (N1FW) gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd.

Mae graddedigion ar ein gradd BSc Seicoleg wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd seicoleg glinigol a seicoleg addysg, gofal iechyd, adnoddau dynol a marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Bydd eich gradd Seicoleg yn rhoi i chi'r sgiliau mwyaf trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys: ymchwil effeithiol a dadansoddi data; datrys problemau’n effeithiol; y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm; y gallu i gyfathrebu'n effeithiol a chryno a sgiliau technoleg gwybodaeth.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae Seicoleg yn ddisgyblaeth amlochrog ac mae strwythur ein cwrs gradd a sut y cewch eich addysgu yn adlewyrchu hyn. Ein hethos yw addysgu mewn ffordd sy'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol y gallwch ei chymhwyso i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. I'ch cefnogi yn hyn o beth, mae eich gradd, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, wedi'i seilio ar bynciau craidd hanfodol ym maes seicoleg, sy'n sylfaen ar gyfer y modiwlau dewisol amrywiol ac arbenigol a gynigiwn yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch:

  • Yn dechrau troi’n Seicolegydd drwy ddatblygu gwybodaeth graidd mewn meysydd fel ymddygiad cymdeithasol ac unigol, yr Ymennydd a gwybyddiaeth a materion hanesyddol ym maes seicoleg.
  • Yn dechrau datblygu ystod eang o sgiliau drwy ddefnyddio dulliau a thechnegau a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i ffenomenau seicolegol. 

Yn eich ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, byddwch:

  • Yn siapio eich cwrs gradd drwy ddewis o blith ein hystod unigryw o fodiwlau dewisol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi greu'ch llwybr personol eich hun drwy eich cwrs gradd.
  • Yn cymhwyso sgiliau a ddysgir drwy gydol eich gradd drwy lunio eich traethawd ymchwil eich hun, yn seiliedig ar eich syniadau a’ch diddordebau personol mewn cyd-destun seicolegol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth wraidd eich profiad o’r cwrs Seicoleg yn Aberystwyth. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddull addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan wneud eich anghenion dysgu yn flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgir a sut rydym yn eich addysgu. Pan fyddwch yn ymuno â ni, bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich cwrs gradd ac a fydd yno i’ch cynghori a’ch arwain ar ystod o faterion academaidd a phersonol.

Rydym yn darparu addysgu ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, o ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bach. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn gweithdai ac ymarferion labordy, lle byddwch yn gallu manteisio ar ein hamrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol. Bydd eich datblygiad yn cael ei asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd gan gynnwys: arholiadau traddodiadol, traethodau, wicis, blogiau, arsylwadau a chyflwyniadau.

Yn Aberystwyth gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael y profiad dysgu gorau mewn adran sydd ar flaen y gad yn y maes.

 

 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r darlithwyr yn dda ac mae'r pynciau'n amrywiol a diddorol. Rydych chi hefyd yn dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy. Drwy astudio seicoleg, rydw i wedi cwrdd â phobl neis iawn sydd wedi dod yn ffrindiau agos. Mae'n bwnc diddorol y gellir ei gymhwyso i bob agwedd ar fywyd, ac mae ei astudio wedi newid y ffordd rwy'n gweld y byd. Faith Mathews

 Rwy'n caru fy nhiwtoriaid - maen nhw'n anhygoel, yn angerddol am eu meysydd seicoleg penodol ac yn garedig iawn, iawn! Rydw i hefyd yn caru fy adran - newydd, modern a hygyrch! Rydw i'n caru sut gwnaeth y cwrs i mi feddwl yn ddyfnach, edrych ar ddamcaniaethau newydd a meddwl am syniadau newydd. Mae'r cwrs C800 hefyd yn agored iawn i bobl ddwyieithog o wledydd eraill! Maryna Chwaszczewska

Rydw i wrth fy modd yn gallu dysgu mwy am bobl, drwy ofyn iddyn nhw gymryd rhan yn fy astudiaethau, ac yn aml yn creu ffrindiau newydd o'i herwydd. Rydw i wrth fy modd yn dysgu sut mae'r ymennydd yn gweithio ac yn ymateb i wahanol ysgogiadau. Rydw i wrth fy modd yn datblygu fy ngwybodaeth am wahaniaethau mewn diwylliannau, yn enwedig o ran triniaeth. Ond yn fwy na dim, rydw i'n hoff iawn o fod yn fyfyrwraig, o gael y rhyddid i reoli fy mywyd, cael mynediad at gymaint o wybodaeth nad o'n i'n gwybod am ei bodolaeth, a gallu egluro'r pethau rhyfeddaf. Yvette Lavelle

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
{ "category":"EntryRequirement","message":"English or Welsh \and Mathematics","language":"" }

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|