BSc

Daearyddiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i astudio daearyddiaeth yn un o leoliadau harddaf Ewrop.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), yn eich paratoi gyda'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

ACCA Accredited Programme


Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG).ACCA Accredited Programme

Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a dynamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddiaeth:

  • prosesau dalgylch afonydd
  • rhewlifeg
  • bioddaearyddiaeth
  • newid amgylcheddol cwaternaidd
  • tueddiadau cyfredol o ran Geoberyglon
  • cynaliadwyedd dinesig
  • datblygu rhanbarthol
  • daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
  • cyfleoedd gwaith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd ac Iwerddon
  • dyfarniadau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400)
  • cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysg
  • labordai â stoc llawn, gyda gwledd o offer dadansoddi e.e. sbectromedrau màs a sganwyr craidd, y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudiaeth annibynnol.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Earth Surface Environments GS10520 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Place and Identity GS14220 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts for Geographers GS20410 10
Geographical Information Systems GS23710 10
Physical Analysis of Natural Materials GS22010 10
Quantitative Data Analysis GS23810 10
Ymchwilio i bobl a lle DA20510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Geography Research Design and Fieldwork Skills GS20020 20
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Catchment Systems GS25210 10
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Geomorffoleg Afonol DA22510 10
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
Placing Culture GS22920 20
Placing Politics GS23020 20
Reconstructing Past Environments GS21910 10
The Frozen Planet GS23510 10

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth?

Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, i enwi dim ond rhai.

Cyfleoedd gwaith:

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflawni profiad gwaith gwerthfawr yn ystod eich gradd, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer-gwrs (F803) o ddiddordeb i chi. Mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â F800, ond byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn. 

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Os hoffech astudio dramor yn ystod eich gradd, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer-gwrs (F802) yn addas ar eich cyfer. Bydd gennych gyfle i astudio yn unrhyw un o'n Prifysgolion partner ledled y byd rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu Rhaglen Gyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • cysyniadau allweddol mewn astudiaeth ddaearyddol
  • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
  • newid hinsawdd
  • prosesau tirwedd
  • datblygu economaidd
  • globaleiddio

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu ymhellach ym meysydd:

  • sgiliau ymchwil cyfrifiadurol a labordy, i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
  • dadansoddi setiau data ansoddol a meintiol
  • cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol
  • cymryd rhan mewn taith maes breswyl ym Mhrydain neu dramor

Gallwch hefyd ddewis modiwlau opsiynol i arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

Yn eich trydedd flwyddyn:

  • byddwch yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
  • bydd ymgynghorydd personol yn cael ei ddynodi i chi, a fydd yn darparu arweiniad arbenigol
  • bydd modiwlau opsiynol amrywiol megis rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd yn y gorffennol, trefoli, a newid gwledig yn eich galluogi i deilwra eich astudiaeth i weddu i'ch diddordebau

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda Daearyddiaeth (F800) yn Aberystwyth oherwydd y cyfleoedd gwych mae wedi'u cynnig i fi, nad oedden nhw'n cael eu cynnig mewn prifysgolion eraill. Yn ystod y tymor diwethaf, ro'n i'n ddigon lwcus i gael fy newis i astudio yn Svalbard am bedwar mis, lle astudiais i Dechnoleg Arctig a dysgu sut i ddefnyddio reiffl i fy niogelu yn erbyn eirth gwynion! Roedd yn brofiad anhygoel na fydda i byth yn ei anghofio. Rydw i hefyd wedi bod ar daith maes i Seland Newydd gyda'r brifysgol, a dysgais lawer am ddaearyddiaeth ffisegol a dynol. Baswn i'n argymell y cwrs yma i unrhyw un! Emily Louise Strub

Rhewlifoedd yn Seland Newydd, mynyddoedd yr Himalayas, adeilad talaf y byd yn Dubai, dinas gynaliadwy Curitiba ym Mrasil, neu adnoddau ynni yng ngwledydd Prydain; mae Daearyddiaeth yn astudiaeth o holl brosesau'r Ddaear, boed yn naturiol neu ddynol, ac mae ganddo i'r gallu i fynd â chi i unrhyw le. Drwy Ddaearyddiaeth, gallwch ddysgu sut mae systemau natur yn rhyngweithio gyda chymdeithas heddiw sy'n newid, a sut gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae fy ngradd wedi caniatáu i fi ehangu fy ngwybodaeth ymhellach drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a theithiau maes ar elfennau megis twristiaeth a demograffeg, ynghyd â systemau afonydd, yr hinsawdd, a geoberyglon. Lynne Potter

Mae Daearyddiaeth ac Aberystwyth yn cyd-fynd yn berffaith. Gyda dwy afon yn rhedeg drwy'r dref, amgylchedd arfordirol a thref dwristaidd, ynghyd â golygfeydd syfrdanol, mae'r posibiliadau ar gyfer ymchwil yn ddi-ben-draw. Mae nifer helaeth o opsiynau y gallwch eu hastudio, ac mae'r cyfan wedi'u haddysgu gan arbenigwyr sy'n adnabyddus yn fyd-eang, sy'n fodlon cynnig pa bynnag gymorth sydd ei angen arnoch chi. Gallech ei ddisgrifio fel y lle perffaith i astudio! Thomas Cottrell

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|