BSc

Daearyddiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae ein cynllun gradd BSc mewn Daearyddiaeth yn cynnig y cyfle i astudio dwy ran o dair o'r cwrs gyda'n tîm o ddarlithwyr Cymraeg.

Mae Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o’r adrannau mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd Mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sydd o'i chwmpas, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?



Cafodd y rhaglen hon ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth. 

Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol, yn cynnwys:

  • prosesau dalgylch afon
  • rhewlifeg
  • biodaearyddiaeth
  • newid amgylcheddol cwaternaidd
  • tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon
  • cynaliadwyedd trefol
  • datblygu rhanbarthol
  • daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
  • cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill
  • gwobrau teithio sydd ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400)
  • cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu
  • labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts for Geographers GS20410 10
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Geographical Information Systems GS23710 10
Physical Analysis of Natural Materials GS22010 10
Quantitative Data Analysis GS23810 10
Ymchwilio i bobl a lle DA20510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd BG21920 20
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Geomorffoleg Afonol DA22510 10
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
Reconstructing Past Environments GS21910 10
The Frozen Planet GS23510 10

Gyrfaoedd

Beth gallaf ei wneud â gradd Daearyddiaeth?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser.

Ymhlith y setiau sgiliau y mae:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl yn greadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
  • y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • cyfathrebu effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth,

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a Lleoliadau Myfyrwyr 

Mae profiad gwaith yn ystod eich gradd yn ffordd bendant o wella eich siawns o gael swydd ar ôl graddio. I helpu gyda hyn, anogir myfyrwyr yr Adran i gymryd rhan yn y cynllun BMG rhwng ail flwyddyn a blwyddyn derfynol eu gradd, sy’n golygu treulio 12 mis yn gweithio am dâl cyn cwblhau eu gradd.

Mae bwrsariaethau ar gael yn ogystal i gefnogi lleoliadau myfyrwyr byrrach yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn, byddwn yn cynnal cystadleuaeth sy’n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau gwaith trwy adroddiadau a chyflwyniadau llafar, a bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ac adborth gan aelodau o’r gymuned fusnes sydd ar y panel beirniaid.

Cyfleoedd Rhyngwladol 

Yn ogystal â phrofiad o fyd gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu gyda theithiau israddedigion. Ymhlith y lleoliadau diweddar roedd Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.

Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y mae'n bosibl y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd hwn.

Yn eich blwyddyn gyntaf, fe’ch cyflwynir i:

  • gysyniadau allweddol mewn astudiaethau daearyddol
  • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
  • newid hinsawdd
  • prosesau’r tirwedd
  • datblygiad economaidd
  • globaleiddio.

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn datblygu ymhellach yn y meysydd canlynol:

  • eich maes
  • sgiliau labordy ac ymchwilio ar gyfrifiadur wrth baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
  • dadansoddi setiau data meintiol
  • cynhyrchu mapiau a graffiau eraill i gynrychioli data daearyddol
  • cymryd rhan mewn taith faes breswyl yn y DU neu dramor.

Cewch hefyd astudio modiwlau dewisol ar gyfer arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

Yn eich trydedd flwyddyn:

  • byddwch yn gwneud prosiect ymchwil annibynnol fydd yn golygu casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
  • bydd gennych eich cynghorydd personol i’ch arwain
  • byddwch yn astudio modiwlau dewisol amrywiol yn cynnwys rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd y gorffennol, trefoli, a newid yng nghefn gwlad, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau chi. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu dysgu trwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol mewn labordai neu ar gyfrifiaduron, dosbarthiadau tiwtorial i grwpiau bychain, cyrsiau maes a goruchwylio gwaith prosiect unigolion.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Byddwn yn asesu ein myfyrwyr trwy ystod amrywiol o ddulliau. Caiff ambell fodiwl ei asesu’n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond bydd gan eraill elfennau o waith cwrs. Mae gennym hefyd fodiwlau all ofyn i’r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, cynllunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar lein. Bydd rhai modiwlau, sef y tiwtorialau a’r cyrsiau maes yn benodol, yn cael eu hasesu’n llwyr trwy waith cwrs. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn apeliodd ataf am y cwrs oedd y cyfle i wneud modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn grwpiau dysgu bach, enw da’r adran a’r amrywiaeth o bynciau diddorol a ddysgir megis daearyddiaeth wleidyddol, daearyddiaeth economaidd a daearyddiaeth yr Unol Daleithiau. Fe fues i’n ddigon lwcus i deithio i Efrog Newydd ar drip gwaith maes gyda’r adran gan astudio ffactorau trefol a naturiol cymhleth y ddinas wrth brofi’r awyrgylch hollol unigryw sydd yno. Roedd y profiad yn un cyffrous a bythgofiadwy. Teimlaf fy mod wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd, ehangu fy ngorwelion a herio fy hun yn gyson tra fy mod yn yr adran. Dau o fy hoff fodiwlau oedd Adnoddau Dŵr a Hydroleg Fydol a Daearyddiaeth y Wladwriaeth a Chenedlaetholdeb gan eu bod yn canolbwyntio ar faterion cyfoes o bwys a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Angharad Thomas

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|