Cymeradwyaeth
Rydym yn croesawu pobl o bedwar ban i Aberystwyth ac rydym yn falch iawn fod gymaint yn uchel iawn eu parch o’r Brifysgol a’r Dre.
Byddwn yn ychwanegu negeseuon o gymeradwyaeth i’n tudalen wrth i ni gofnodi barn a sylwadau ein hymwelwyr. Yn y cyfamser, mwynhewch y darnau byrion yma a gofnodwyd yn ddiweddar.
Robert Peston
Golygydd Economeg y BBC yw Robert Peston a chafodd ei urddo yn Gymrawd y Brifysgol yn 2011. Ymwelodd â’r Brifysgol yn ddiweddar i draddodi darlith gyhoeddus, a nododd pam ei fod wrth ei fodd yma yn Aber.
Y Llysgennad Richard Butler
Mae’r Llysgennad Butler wedi dal nifer o swyddi uchel yn Awstralia, gan gynnwys Dirprwy Gynrychiolydd yr Atomic Energy Agency (IAEA) a’r OECD; Llysgennad Diarfogi (Genefa); Llysgennad yng Ngwlad Thai a Cambodia; Llysgennad a Chynrychiolydd Parhaol i’r Cenhedloedd Unedig (Efrog Newydd); a Llywodraethwr Tasmania. Yn 1997, fe’i penodwyd gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan, yn Gadeirydd Gweithredol Comisiwn Arbennig y Cenhedloedd Unedig i ddiarfogi Irac (UNSCOM).
Bu’n darlithio yn Aberystwyth yn ddiweddar a gwnaeth y sylwadau cadarnhaol canlynol am yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Bellach yn eu trydedd flwyddyn, mae’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n nodi cydnabyddiaeth myfyrwyr o gyfraniad staff y Brifysgol. Derbyniwyd 439 o enwebiadau mewn wyth categori:
- Gwobr Addysgu Ragorol
- Staff Cynorthwyol o Flwyddyn
- Gwobr Rhagoriaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Gwobr Athro Ol-raddedig
- Aelod Staff Newydd y Flwyddyn
- Tiwtor Personol y Flwyddyn
- Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn
- Adran y Flwyddyn
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 2 Mai 2104, a bydd manylion am ein henillwyr yn cael eu cyhoeddi drwy ein cyfri twitter @prifysgol_aber a’n tudalennau newyddion.
Ymwelwch â’n tudalen Anrhydeddau a Llwyddiannau i gael gwybod mwy am lwyddiannau’n Prifysgol