Trawsgrifiad
Cyflwyniad
Mae’r DVD hwn yn cynnwys llwyth o wybodaeth am Brifysgol Aberystwyth, o fanylion am yr adnoddau a’r cyrsiau sydd ar gael, i’r bywyd cymdeithasol bywiog a’r bywyd diwylliannol y gallwch ei fwynhau yma.
Felly beth sydd mor wych am Brifysgol Aberystwyth, a pham ddylech chi fod eisiau dod yma i astudio?
Mae gan y Brifysgol enw da fel un o brif sefydliadau'r DU. Fe ddechreuodd popeth yn ôl ym 1872 yn yr adeilad ysblennydd hwn ger y môr. Os ydych yn yr Adran Gymraeg neu Addysg, mae eich dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn y lleoliad anhygoel yma, er bod y mwyafrif o’r adrannau erbyn hyn ar Gampws modern Penglais tua 10 munud o gerdded o ganol y dref.
Dyma ganolbwynt y Brifysgol gyda dros 8,000 o fyfyrwyr. Mae popeth yma ! Caffis, tai bwyta, bariau, Undeb y Myfyrwyr gwych a Chanolfan y Celfyddydau werth ei gweld a beth am yr olygfa na ?!
Proffil Myfyriwr “..Wnes i ddewis astudio yn Aberystwyth achos oedd y cwrs yn apelio mwy ataf i. Esi weld colegau eraill ond wnes i benderfynu ar Abersytwyth oherwydd fod y bywyd cymdeithasol hefyd yn gystal a’r cwrs llu.”
Gan ei bod yn brifysgol gampws, mae teimlad cryf o agosatrwydd yn bodoli yma, ac mae pawb sydd yma yn groesawgar, sy’n gwneud i’r lle deimlo yn ddiogel ac yn lle cyfeillgar i astudio.
Mae digon o ddewis o lety yma ac mae gwarant llety gan bob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn un o’n neuaddau preswyl. Mae popeth wedi ei gynllunio i sicrhau fod symud oddi cartref mor hawdd â phosib i chi. Mae’r llety yn amrywio o rannu tŷ Bentre’ Jane Morgan i ystafell en-suite foethus yn Rosser i gyd â chysylltiad cyflym i’r wê.
Mae ein bwytai ar y bryn ar agor i bob myfyriwr i chi gael mwynhau y safon uchaf o fwyd.
Os ydych am fywyd Cymraeg mewn neuadd Gymreig, dewch yma i Bantycelyn sydd a dros 250 o Gymry Cymraeg o bob cwr o Gymru.
Proffil Myfyriwr “..Gyda byw ym Mhantycelyn, mae hynna’n rili rhwydd setlo mewn achos oedd wastad rhywun drws nesa a o’n nhw’n siarad Cymraeg a ti just yn gallu cnoco ar ddrws rhywun a oedd e’n rili hawdd, wedyn, i setlo mewn.”
Mae Undeb y Myfyrwyr Cymraeg yn cydlynu amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau ar gyfer y Cymry Cymraeg. UMCA ydy enw’r Urdd hwn ac maent yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau ar hyd y flwyddyn academaidd.
Mae gennym hefyd Ysgoloriaeth Mynediad gwerth hyd at £3,600 i’ch cynorthwyo gyda chostau astudio. Mae gwobrau a bwrsariaethau arbennig ar gael ar gyfer rhai myfyrwyr sy’n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
A wyddoch chi ?
- Yn Aberystwyth y mae un o’r cyfraddoedd methiant isaf o bob Prifysgol.
- Mae Aberystwyth yn y 10 uchaf am lefel uchel o foddhad myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2009.
- Yn ôl gwefan MSN mae Aberystwyth yn un o 10 o drefi a Prifysgol dinasoedd gorau Prydain.
Felly, pam aros ? rydym yn siŵr na chewch chi mo’ch siomi!
Cyrsiau ac Adnoddau
Mae gan Aber draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, rydym yn cynnig cwrs ym mhob un pwnc y gallwch feddwl amdano bron iawn...a rhai eraill hefyd.
Mae Aberystwyth hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddilyn cwrs gradd Anrhydedd Sengl, Anrhydedd Cyfun neu gynlluniau gradd Prif / Is Bwnc, gan roi hyblygrwydd llwyr i chi ddilyn y cwrs o’ch dewis chi.
Pa bynnag gwrs y byddwch yn ddewis, cewch gefnogaeth y staff a holl adnoddau’ch adran.
Yr ydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg a gwasanaeth dwyieithog er mwyn darparu mwy o gyfleoedd i’n myfyrwyr i ddatblygu eu gyrfa.
Proffil Myfyriwr “Mae’r adran yn ffantastig. Mae’r myfyrwyr sydd gyda fi’n grêt! Mae’r bobl sy’n ein dysgu ni yn grêt. Ma’ nhw’n...barod i’ch helpu chi. Fi’n joio mas draw yma!”
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol drawiadol yn un o 5 llyfgrell mawrion Prydain, ac mae yno gopi o bob llyfr a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig ers canrif. Wrth galon y campws, gall pob myfyriwr ddefnyddio’r 6 miliwn o gyfrolau sydd yno.
Mae llyfrgelloedd y Brifysgol: Hugh Owen, yr Hen Goleg, a Llyfgrell y Gyfraith, yn gyfoes ac ynddynt adnoddau heb eu hail, yn medru eistedd 1,300 o darllenwyr. Mae staff y llyfrgell yn adnabod yr adeiladau yma’n dda a bydd rhywun bob amser ar gael i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i hyd yn oed yr erthygl fwyaf anhysbys.
Proffil Myfyriwr “Mae pob adnodd sydd ei angen ar unrhyw fyfyriwr i wneud...i astudio’n gywir. Mae hyd yn oed yn fantais i rywun, wedyn, ôl-radd sydd yn Aberystwyth, yn enwedig gan fod gennym y Llyfrgell Genedlaethol lawr y rhewl. So, unrhyw ddarn o waith sydd wedi cael ei wneud ym Mhrydain ar gael i ni yn agos iawn. So...da iawn.”
Yn y llyfrgelloedd ac o amgylch y campws, mae gan y brifysgol yr adnoddau cyfrifiadurol diweddaraf. Mae dros 900 o PCs ar gael – y rhan fwyaf ohonynt ar gael 24 awr y dydd am ddim, gan roi’r cyfle i chi i orffen eich gwaith cwrs yn oriau mân y bore ! Mae gwasanaeth di-wifr eang ar gael ar y campws hefyd fel y gallwch weithio ac astudio mewn llefydd llai ffurfiol.
Mae’r Brifysgol yn cynnig darpariaeth dda ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig. Mae ardaloedd arbennig yn y llyfrgelloedd lle mae myfyrwyr sydd â nam ar eu llygaid ac ar eu clyw yn cael mynediad i feddalwedd arbenigol. Mae amser ychwanegol yn cael ei gynnig mewn arholiadau i fyfyrwyr sydd â phroblemau dysgu.
Dyma’r Ganolfan Cymorth Myfyrwyr newydd, y lle i ddod os oes angen cymorth o unrhyw fath arnoch, pa un ai yn gymdeithasol, ariannol, academaidd neu bersonol. Os oes arnoch chi ein hangen bydd ein staff arbennig wastad yn barod i helpu. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, mae’r staff proffesiynol yma i’ch cynorthwyo bob tro.
Fe rown y cyfleuoedd gorau posib i chi gyrraedd eich nôd ar ôl y Brifysgol ac i wneud y mwyaf o’ch cymhwyster. Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yng nghalon y campws yn cynnig ystod eang o adnoddau i chi gael cynllunio eich dyfodol. Gall ein cynorthwywyr profiadol helpu chi i drefnu profiad gwaith, yn ogystal a chyfleoedd i deithio.
Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o wobrau teithio a chynlluniau cyfnewid er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud yn fawr o’ch amser fel myfyrwyr. Rydym yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith gan ddarparu cyfle gwych i gymryd blwyddyn o brofiad gwaith rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn, ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau, i gael profiad o fyd gwaith ac hyd yn oed i ennill ychydig o arian !
Adnoddau gwych, cyrsiau gwych, cefnogaeth wych. Dyna grynhoi bywyd academaidd yma yn Aberystwyth.
Adnoddau Chwaraeon
Mae’r Undeb Athletig yn goruchwylio chwaraeon myfyrwyr ar y campws. Eu prif dasg yw cefnogi ac i drefnu’r 45 o glybiau chwaraeon - nid tasg hawdd pan ydych yn ystyried fod dros 6,000 o fyfyrwyr yn aelodau.
Mae ein timau yn llwyddiannus iawn o ganlyniad i’r cysylltiad sydd gennym ag Undeb Athletig Prifysgolion Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Prifysgolion Prydain. Medrwn ddarparu rhaglenni llawn ar gyfer ein timau.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth rai o’r adnoddau chwaraeon gorau yng Nghymru. O gaeau chwarae mawr 34 acer Blaendolau i’r Ganolfan Chwaraeon ar y campws, gallwn hefyd roi’r cyfle i chi i wneud bron unrhyw chwaraeon neu weithgaredd y gallwch feddwl amdano.
Mae caeau chwaraeon y Ficerdy yn adnabyddus yn genedlaethol ac yn gartref i’n timau cyntaf ym mhêl-droed, rygbi a chriced.
Mae gan y Cymry Cymraeg eu hunain gymdeithas chwaraeon dan enw Y Geltaidd sy’n rhedeg timau rygbi, pêl droed, criced a phêl rhwyd ac yn teithio o amgylch y wlad.
Mae’r neuadd hon, Y Gawell Chwaraeon, yn ddigon mawr i gynnwys 6 chwrt badminton, cyrtiau tennis a sboncen, yn ogystal a saethyddiaeth. Yr unig beth sydd ei arnoch yw aelodaeth i’r clwb chwaraeon a chewch wneud hyn i gyd.
Proffil Myfywriwr “Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn Aberystwyth yn wych i ddweud y gwir. Mae yna ganolfan ar y campws ac hefyd mae yna ganolfan yn y dref. Dwi’n meddwl fod pobl yn tueddi i ddefnyddio’r un sydd ar y campws yn fwy i ddweud y gwir. Mae’n wych...mae popeth yna’n newydd a mae ‘na bwll nofio yna.”
Mae tipyn o chwaraeon i’w gwneud yn y dref hefyd, megis rhwyfo a golffio. Fel y disgwylir o’r Coleg ger y lli, mae syrffio, hwylio a chanŵio ar gael yma i’r rhai mwyaf mentrus ohonoch chi sy’n credu fod codi’n gynnar i fynd mewn i’r dŵr yn hwyl.
Ar gyfer y rheini ohonoch sydd eisiau rhywbeth gwahanol, mae gennym ganolfan geffylau ar gampws Llanbadarn. Mae’r ganolfan chwaraeon yn hybu iechyd drwy ymarfer corff a chwaraeon ac ynghlwm â’r clybiau, mae nifer o ddosbarthiadau a gweithgareddau di-gystadleuol yn bodoli.
Mae’r ganolfan hybu iechyd yn eich galluogi i ymarfer y corff mewn sawl ffordd wahanol er mwyn cwrdd â ffrindiau newydd ac i deimlo’n rhan o’r gymuned. Mae nifer o’n haelodau’n ymuno er mwyn defnyddio’r gampfa a’r pwll nofio ond fe allwch ymuno mewnrhai o’r gweithgareddau eraill megis pilates, ymarfer corff a chodi pwysau.
Beth bynnag sydd yn cymryd eich pryd, mae ein arbenigwyr ar gael i’ch tywys i fywyd iachach. Fe allwch sicrhau fod Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn ac eang i’ch helpu chi gadw’n heini.
Beth bynnag yw eich diddordeb ac ar ba bynnag lefel ydych chi, mae’r Brifysgol yn darparu ar gyfer pawb. Felly, does dim esgus gan neb – dewch yma, mwynhewch a chadwch yn heini !
Bywyd Cymdeithasol
Yn ogystal a chyfleusterau academaidd rhagorol, mae Aberystwyth yn gartref bywiog ac amryliw i gymdeithasu, sy’n rhoi digon o gyfle i chi ymlacio ac i fwynhau.
Gyda dros 100 o fariau, bwytai a chaffi’s yn y dref, a’r celfyddydau amrywiol, credwch chi fi, unwaith i chi gael noson allan yn Aberystwyth, ni fyddwch chi eisiau fynd i unrhywle arall.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yno ar y bryn, ac yn un o’r canolfannau mwyaf o’i math yng Nghymru.
Mae yna neuadd gyngerdd, theatr, galerïau, sinema, stiwdio, gweithdai crochenwaith ac unedau creadigol, yn ogystal a chaffi, siop crefftau a dylunio, siop lyfrau a bariau. Rydym yn cynnal digwyddiadau gan rai o’r grwpiau theatr gorau gorau sydd i’w gael, ynghyd â’r ŵyl gelfyddydol flynyddol a chynyrchiadau mewnol.
Proffil Myfyriwr “Mae’r cyfleusterau diwylliannol yn Aberystwyth yn anhygoel i ddweud y gwir. Mae yna wastad sioeau yn mynd ymlaen yn y dref, yn ogystal ag yng Nghanolfan y Celfyddydau sydd ar y campws.”
Yn ddiweddar mae sinema’r Ganolfan (http://www.aberystwythartscentre.co.uk/whatson/cinema) wedi buddsoddi mewn system daflunio ddigidol sy’n gallu taflunio lluniau byw o’r cynyrchiadau gorau ar draws y byd – o’r ‘New York Met’ i’r Opera Frenhinol a’r Theatr Genedlaethol, ac felly gallwch eu gwylio o’r sinema hon. Y canlyniad yw bod adnodd ardderchog wrth galon y campws ar gael i chi fwynhau bywyd celfyddydol cyfoethog.
Mae Urdd y Myfyrwyr yn trefnu nifer o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau clybio, bandiau byw, comedi ac yn croesawi nifer o enwogion o fri.
Pa bynnag ffordd o ymlacio sydd yn cymryd eich bryd, pa unai trafod llosg bynciau y dydd neu dawnsio tan oriau mân, mae yna ddigon i’w wneud yma.
Proffil Myfyriwr “Mae’r bywyd cymdeithasol yn grêt yma. Chi’n gallu mynd mas a chymdeithasu gyda myfyrwyr eraill, eto, fi’n gwneud yr un pwynt – y myfyrwyr Cymraeg.”
Os yr hoffech gymryd yr amser i ymlacio, mae’r Urdd ar agor o 10 y.b. i chi chwarae pŵl, gwylio un o’r 7 teledu plasma a nifer o gemau fideo mewn cadeiriau cyfforddus. Urdd y Myfyrwyr yw’r lle i fod!
Mae’r Urdd yn edrych ar ôl dros 50 o gymdeithasau o glybiau cerddoriaeth i orsaf radio’r myfyrwyr. Mae rhywbeth yma at ddant pawb. Mae cymaint i wneud yma, bydd angen 3 blynedd arnoch i weld y cyfan.