Esgyniad y Brifysgol

1901

Sefydlu Adran y Gyfraith - y gyntaf yng Nghymru.

1901

Sefydlu yr Adran Gwyddor Llaeth.

1901

Agor y neuadd breswyl gyntaf i ddynion.

1901

Penodi T. A. Levi yn Athro Saesneg a Jethro Brown yn Athro Cyfraith Gyfansoddiadol a Chymharol.

1905

Am y tro cyntaf, clywir y floedd ryfedd a chwedlonol, "Bloedd y Coleg", yng Nghwad y Coleg.

1906

Penodi Syr C. Bryner Jones yn Athro Amaethyddiaeth. Daeth Jones yn gymeriad dylanwadol tu hwnt yn natblygiad amaethyddol Cymru, yn enwedig ar ôl iddo gael ei benodi yn Gomisiynydd Amaethyddol i Gymru. Bu'n ymwneud â bron iawn pob mudiad i hybu buddion amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gynnwys datblygu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sefydlu'r Orsaf Fridio Planhigion, Cyfnodolyn Amaethyddiaeth Cymru ac Adran Economeg Amaethyddol y Brifysgol.

1907

Y teulu Davies o Landinam yn parhau â'u haelioni tuag at y Brifysgol trwy roi rhodd o £23,000 tuag at adeiladu adeilad Edward Davies.

 

1908

Tîm rygbi XV cyntaf y Brifysgol yn dechrau ar rediad o 15 mlynedd heb eu trechu. Ymdrechion chwaraeon nodedig eraill yn cynnwys: nofio, rhwyfo, pêl-droed, hoci, tenis, criced, athletau a golff.

1909 Syr John Williams yn cyllido swyddi newydd i ddarlithwyr ym maes Hanes Cymru a Llenyddiaeth Gymraeg. Archifau'r Brifysgol yn cadw casgliad o eitemau
amrywiol o eiddo Syr John Williams. Ceir rhagor o fanylion am y casgliad hwn yma.
1909

Y Llyfrgell Genedlaethol yn agor yn yr Ystafelloedd Ymgynnull.

1909

Sefydlu'r Adrannau Mathemateg Gymhwysol a Mathemateg Bur.

1912

Sefydlu yr Adran Botaneg Amaethyddol.

1912

T. Gwyn Jones yw'r unigolyn cyntaf i'w ddyrchafu i radd a theitl Darllenydd ym Mhrifysgol Cymru.

1914

T. H. Parry-Williams yn ymuno â staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yn dod yn Athro y Gymraeg ym 1920.

1917

Yr Adran Addysg yn darparu cyrsiau dwys am ddim i hyfforddi cyn-filwyr anabl oedd yn dymuno hyfforddi i fod yn athrawon.

1918

R.D. Laurie yn olynu H.F. Fleure fel pennaeth yr Adran Sŵoleg. Trwy haelioni Samuel Vestey, sefydlwyd cadair newydd mewn Sŵoleg ym 1922, gyda Laurie yn ddeiliad cyntaf iddi. Mewn cyfnod o lymder ariannol, profodd Laurie ei fod yn arweinydd ysbrydoledig. Ar ôl methu â pherswadio awdurdodau'r Brifysgol i gyllido adeilad ar gyfer yr adran i gywion bach, fe wnaeth Laurie a'i gydweithwyr adeiladu’r adeilad eu hunain. Roedd Laurie hefyd yn weithgar o ran gwella amodau gwaith staff prifysgolion Prydain. Ef oedd y sylfaenydd, y Llywydd cyntaf ac Ysgrifennydd Anrhydeddus y Gymdeithas i Athrawon Prifysgol.

1918

Ar 29 Mai, Aberystwyth yw'r brifysgol gyntaf ym Mhrydain i ganiatáu i fyfyrwyr astudio ar gyfer graddau cyntaf ac uwch mewn Daearyddiaeth yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau a'r Gwyddorau.

1918

David Davies, ynghyd â'i chwiorydd, Gwendoline a Margaret, yn rhoi £20,000 i sefydlu cadair Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Galluogodd hyn i Aberystwyth
arloesi disgyblaeth academaidd cwbl newydd.

1919

Sefydlu canghennau o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth yn India, Burma a Ceylon.

1919

Laurence Philipps, yr Arglwydd Milford yn ddiweddarach, yn rhoi £10,000 i sefydlu Gorsaf Bridio Planhigion. Ar 25 Ebrill, derbyniodd R.G. Stapledon
ddwy swydd, sef Cyfarwyddwr yr Orsaf Bridio Planhigion ac Athro Botaneg Amaethyddol. O dan ei gyfarwyddyd, daeth yr Orsaf Bridio Planhigion yn enwog yn rhyngwladol, o ganlyniad i'w chyfraniad enfawr i wella tiroedd ym mhob rhan o'r byd.

1919-1939

Ym Mrongoch, fferm y Brifysgol, yn dilyn grantiau gan Fwrdd Marchnata'r Ymerodraeth, datblygwyd amrywiaeth fawr o laswellt (S.23 Rhygwellt, S.48 Rhonwellt y gath, yr amrywiaethau byswellt S.37 ac S.143, a'r meillion S.100 ac S.123), sy'n trawsffurfio glaswelltiroedd y byd.

1920

Aberystwyth yw'r coleg cyntaf yng Nghymru i sefydlu Adran Astudiaethau Allanol.

1923

Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn rhoi Ystafelloedd y Cynulliad i'w defnyddio fel Undeb y Myfyrwyr. Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan Ei Uchelder Brenhinol Edward, Tywysog Cymru  ar 30 Hydref. I nodi'r digwyddiad, gwnaeth y Brifysgol ddadorchuddio'r unig gerflun cyhoeddus o'r Tywysog ym Mhrydain.

1929

 Cynlluniau yn cael eu gwneud i ganolbwyntio datblygiadau adeiladu yn y dyfodol ar safle Penglais.

1929

Sefydlu yr Adran Economeg Amaethyddol.

1930

Penodi Dr Lily Newton yn Athro Botaneg. Dan ei harweiniad hi, ehangodd yr adran a sefydlu enw sylweddol am ragoriaeth ymchwil a'i dysgu. Ym 1952 daeth yr Athro Newton yn Bennaeth Gweithredol y Brifysgol.

1931

Aberystwyth yw'r Brifysgol gyntaf drwy'r byd i sefydlu cadair Hanes Cymru.

1933

Neuadd y Coleg yn cael ei ddinistrio gan dân.

1938

Y Coleg yn cael ei arfbais. Mae'n cynnwys y chwedl: 'Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth'.

1939

E. H. Carr, yr Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn cyhoeddi ‘The Twenty Years Crisis’ testun arloesol am wleidyddiaeth ryngwladol. Mae'r gwaith clasurol hwn yn dal i fod ar gael mewn print, yn ogystal â'i waith 'What is History?'

1939

Alban Davies, marsiandwr llaeth wedi ymddeol, yn rhoi £35,000 i'r Brifysgol i brynu 205 o erwau o dir ar Benglais.

1940

E. J. Williams yn yr adran Ffiseg yn 'cynnal y mwyaf trawiadol o'i gyflawniadau arbrofol ... dangos yn uniongyrchol drwy siambr fwg dadafaeliad mesonau pelydrau cosmig mewn i electron. Yn ddiweddarach gwnaeth Williams gyfraniadau pwysig i'r ymgyrch yn erbyn yr 'U-boat', gan alluogi i'r Cynghreiriaid ymosod ar Ewrop o'r môr'.

1939-1945

Nifer o aelodau o staff yn yr Adrannau Amaethyddiaeth a'r Orsaf Bridio Planhigion, gan gynnwys D. W. Davies, E. T. Jones, Trevor Thomas, Moses Griffith, W. Ellison, T. J. Jenkins, Iorwerth Jones ac eraill, yn cael eu secondio i wasanaeth Pwyllgorau Amaethyddol y Rhyfel. Cafodd gwaith yr adrannau ei ailstrwythuro'n llawn i gefnogi'r Ymgyrch Cynhyrchu Bwyd. Cafodd ymdrechion y llywodraeth i gynyddu cynhyrchaeth tiroedd Prydain eu cyflawni trwy athrylith Syr R. G. Stapledon a'i gydweithwyr. Yn ddiweddarach byddai Syr Reginald Dorman Smith, y Gweinidog Amaethyddiaeth o 1937, yn hawlio y byddai Prydain wedi llwgu a ddim wedi gallu sefydlu unrhyw her filwrol oni bai am gyflawniadau Stapledon.

Dyddiau Cynnar

O'r Coleg ger y lli i'r Coleg ar y bryn