O'r Coleg ger y lli i'r Coleg ar y bryn

1950

Prynu Plas Gogerddan, cartref hynafol y teulu Pryse, a daw'n gartref parhaol i'r Orsaf Bridio Planhigion.

1951

Neuadd Pantycelyn yn agor.

1955

Ar 8 Awst, mae'r Frenhines Elisabeth II yn agor yr Orsaf Bridio Planhigion yn swyddogol ym Mhlas Gogerddan.

1958-1969

Y Prifathro Thomas Parry yw'r dylanwad sy'n arwain y gwaith o drosglwyddo'r "Coleg ger y lli" i fod yn "Goleg ar y bryn".

1963

Sefydlu yr Adran Economeg.

1965

Nifer y myfyrwyr yn fwy na 2000.

1960au

Grantiau'r Llywodraeth a chymynroddion hael gan fuddiolwyr yn caniatáu i'r Brifysgol godi adeiladau newydd ar gyfer Bioleg, y Gwyddorau Ffisegol, y Gyfadran Economeg ac Astudiaethau Cymdeithasol, Cyfadran y Gyfraith, Daearyddiaeth, Daeareg ac Astudiaethau Gwledig, yn ogystal â neuaddau preswyl.

1968

Adeilad eiconig y gwyddorau ffisegol gyda'i wyneb ceugrwm yn ymddangos Neuadd Fawr.

1968

Ceredigion yn dod yn neuadd Gymraeg i fyfyrwyr gwrywaidd, a Neuadd Davies Bryan yn dod yn neuadd Gymraeg i fyfyrwragedd.

1970

Sefydlu Coleg Amaethyddol Cymru gyda David Morris yn Bennaeth. Mewn trefniant anarferol, cyllidwyd y Coleg drwy gydbwyllgor a gyfansoddwyd o gynrychiolwyr o holl awdurdodau lleol Cymru. Ei genhadaeth wreiddiol oedd cynnig addysg alwedigaethol mewn amaethyddiaeth ac am nifer o flynyddoedd roedd yn darparu cyrsiau diploma cenedlaethol a chenedlaethol uwch cyn amrywio ei ddarpariaeth i gynnwys cyrsiau mewn rheolaeth cefn gwlad ac astudiaethau ceffylau. Yna ym 1982 datblygwyd cynllun gradd mewn amaethyddiaeth, i gynnwys blwyddyn waith, a ddarparwyd ar y cyd ag Adran Gwyddorau Amaethyddol y Brifysgol.

1970

Sefydlu yr Adran Gwyddorau Cyfrifiadurol.

1970

Y Neuadd Fawr yn cael ei chwblhau.

1971

Dyfarnu Cadair Bersonol i Gwendolen Rees yn yr Adran Swoleg a'i hethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Yr Athro Rees oedd y fenyw gyntaf yn gweithio yng Nghymru i gael ei hethol yn gymrawd o'r gymdeithas nodedig hon. A hithau'n aelod sylfaen o Gymdeithas Parasitoleg Prydain, roedd Rees yn arbenigwr cydnabyddedig mewn trematodau a cestodau.

1971

“Daeth y fuddugoliaeth orau erioed i'w chyflawni gan rygbi Aberystwyth ymhell o gartref yn Seland Newydd”. Dysgodd y capten, S. J. Dawes a'r hyfforddwr Carwyn James (Cymraeg 1950), lawer am rygbi ar gaeau'r Ficerdy.

1971

Penodi J. Gareth Morris, a fu cyn hyn yn gymrawd ymchwil yn Rhydychen ac yn gymrawd Rockerfeller yng Nghaliffornia, yn Athro Microbioleg. Mewn cydnabyddiaeth o'i ymchwil mewn biocemeg a ffisioleg microbaidd, etholwyd Morris yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1988. Gwasanaethodd fel aelod o'r Cyngor Cyllido Prifysgolion a'r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol ym 1991.

1972

Y Neuadd Fawr, y Clochdy a'r Cyntedd yn cael gwobrau amrywiol, gan gynnwys Medal Aur R.I.B.A. am Bensaernïaeth yng Nghymru.

1973

Sefydlu yr Adran Celf. Yr unig adran o'i math ym Mhrifysgol Cymru.

1973

Sefydlu yr Adran Drama. Yr unig adran o'i math yng Nghymru.

1974

Yr Adran Botaneg a Microbioleg yn cael ei sefydlu gan gymeryd lle yr Adran Botaneg a oedd yn bodoli am 44 blynedd cynt.

1976

Llyfrgell Hugh Owen yn cael ei chwblhau.

1977

Ceir wyth Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ar staff academaidd Aberystwyth.

1978

Sefydlu'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn yr Hen Goleg.

1979

Canmoliaeth RIBA a Gwobr Dylunio SCONUL i Llyfrgell Hugh Owen.

1980

Sefydlu'r Radd Allanol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn seiliedig ar y fanyleb fewnol, mae'r cynllun yn cynnig graddau yn y Gymraeg. Hanes Cymru, astudiaethau theatr, ffilm a theledu ac astudiaethau Celtaidd, i fyfyrwyr aeddfed sy'n astudio'n rhan amser.

1986

Cyfrifoldeb am Orsaf Fridio Planhigion Cymru yn cael ei drosglwyddo o'r Brifysgol i Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid yr AFRC.

1988

Sefydlu y Sefydliad Gwyddorau Biolegol.

1989

Fe ddaeth Coleg Llyfrgellwyr Cymru (CLlC) yn rhan o'r Brifysgol a ffurfiwyd Adran Astudiaethau Gwybodaeth.

1995

Coleg Amaethyddol Cymru yn ymuno â'r Brifysgol ac yn uno â'r Adran Gwyddorau Amgylcheddol i greu Sefydliad Astudiaethau Gwledig Cymru a phenodi Michael Haines yn Gyfarwyddwr cyntaf. Yn ddiweddarach caiff y Sefydliad ei ail-enwi'n Sefydliad Gwyddorau Gwledig.

1995

Sefydlu yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

1997

Sefydlu y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

2002

Sefydlu yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

2007

Y Cyfrin Gyngor yn dyfarnu statws annibynnol i Brifysgol Aberystwyth ynghyd â'r hawl i ddyfarnu ei graddau
ei hun.

2008

Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol yn uno â'r Brifysgol, ac ynghyd â'r Sefydliadau Gwyddorau Biolegol a Gwyddorau Gwledig, yn ffurfio'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

2008

Sefydlu Adran Seicoleg newydd.

2010

Aberystwyth yn dod yn bedwerydd yn y DU am Ddysgu ac Addysgu, yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education. Mae'r arolwg barn hefyd yn dangos mai Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnig y profiad cyffredinol gorau i fyfyrwyr yng Nghymru, gyda safle cyffredinol o 6ed ledled y Deyrnas Unedig.

Dyddiau Cynnar

Esgyniad y Brifysgol