Gwybodaeth Gorfforaethol

Fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn atebol i’n cymunedau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi’n rhagweithiol nifer o ddogfennau allweddol ar y wefan hon.

Er ei bod yn ofynnol i rywfaint o’r wybodaeth gael ei chyhoeddi yn ôl y gyfraith neu reoliadau penodol i'r sector, mae eraill ar gael fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i fod yn agored ac yn dryloyw.

Dros y misoedd nesaf, bydd y dogfennau allweddol a gyhoeddir ar hyn o bryd mewn mannau eraill ar y wefan hon yn cael eu trosglwyddo i’r adran hon. Yn y cyfamser, gellir cael rhagor o wybodaeth am y wybodaeth a gyhoeddir ar hyn o bryd yn y Canllaw i Wybodaeth (https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/foi/infoguide/).