Gwobr ATHE i Fyfyrwyr Twristiaeth YRhB

23 Ionawr 2015

Llongyfarchiadau i Mariya Fileva a Magdalena Bylicka sydd wedi cael eu henwi fel Myfyriwr Gorau Ôl-raddedig a Myfyriwr Gorau Israddedig gan y Gymdeithas Dwristiaeth mewn Addysg Uwch (ATHE). Mae'r wobr yn cael ei gynnig i fyfyrwyr o fewn sefydliadau sydd yn aelodau o’r ATHE sydd ag enw da.

Mae Mariya, a dyfarnwyd yn fyfyriwr Ôl-raddedig y flwyddyn, newydd gwblhau ei MSc mewn Marchnata Twristiaeth tra bod Magdelena ar hyn o bryd yn astudio ei MSc mewn Marchnata yn Aberystwyth, ar ôl cwblhau ei BSc (Anrh) Twristiaeth gyda Ffrangeg.

Cyflwynwyd eu gwobrau yng Nghynhadledd Flynyddol y ATHE yng Nghaeredin.

Dywedodd Yr Athro Brian Garrod, Athro yn Rheoli Twristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rwy'n falch iawn bod Mariya a Magdelena wedi derbyn cydnabyddiaeth am yr holl waith caled maent wedi'i wneud. Dylent fod yn falch o'u cyflawniadau a dymunwn yn dda Mariya wrth iddi yn dilyn ei gyrfa a Magdelena yn dda wrth iddi barhau â'n MSc Marchnata. "