Myfyrwraig PhD Twristiaeth, Olga Garcia, yn ennill gwobr y papur gorau mewn cynhadledd twristiaeth gritigol

Rhannu Aberystwyth University - facebook Aberystwyth University - twitter Aberystwyth University - google+ Aberystwyth University - email

06 July 2017

Enillodd Olga Garcia y wobr am y papur gorau mewn cynhadledd Twristiaeth Gritigol ddiweddar yn Mallorca, Spain. Mae'r gymuned Astudiaethau Twristiaeth Gritigol yn rhwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy'n rhannu gweledigaeth o gynhyrchu a hyrwyddo newid cymdeithasol trwy ymarfer, ymchwil ac addysg twristiaeth. Mae papur Olga "New Dialogues with the Ocean as a Recreational Diver: Case Study: Mallorca, the Balearic Islands" yn cyflwyno ei gwaith sy'n archwilio sut all deifwyr sgwba a gweithredwyr fod yn rhan o symudiad Llythrennedd Cefnforol fwy. Mae'r wobr yn cael ei noddi gan 'Annals of Tourism Research', y newyddiadur 4* blaenllaw yn y maes.



Nôl i'r brig