Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Strategaeth E-Ddysgu (PDF).

1.0 Cyd-Destun

1.1  Mae cenhadaeth a gweledigaeth PCA ar gyfer dysgu ac addysgu wedi'u mynegi'n glir yn Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2004-2009. Gan adeiladu ar lwyddiannau'r strategaeth bum-mlynedd gyntaf, mae'n diweddaru'r amcanion strategol ar gyfer dysgu ac addysgu ac yn dynodi nifer o gamau gweithredu cefnogol sydd wedi'u cynllunio i gynnal rhagoriaeth a hyrwyddo menter mewn amgylchedd academaidd sy'n newid yn gyson. Un o'r ffyrdd y mae PCA yn bwriadu gwella'r isadeiledd dysgu ac addysgu a ddynodir yn y strategaeth yw:

‘Hybu a hyrwyddo defnydd priodol o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (ICT) fel modd i wella mynediad i ddysg ac i wella ansawdd ac effeithlonrwydd y profiad dysgu ac addysgu.

  • Datblygu polisi a strategaeth e-ddysgu sefydliadol
  • Darparu mynediad lleol ac o bell i ddeunydd digidol addas, deunyddiau dysgu ar y we, cynhyrchion meddalwedd ac amgylcheddau dysgu rhithiol
  • Cyfnerthu trefniadaethau ac, os yn bosibl, cynyddu adnoddau i gynorthwyo staff a myfyrwyr i ddefnyddio adnoddau e-ddysgu, technegau sy'n seiliedig ar dechnoleg ac offer ar-lein‘

(Amcan 2.3 Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2004 - 2009)

Er bod e-ddysgu eisoes wedi'i fabwysiadu'n eang gan PCA ac ymhen amser ni fydd angen talu sylw ar wahân iddo, mae angen cynllunio cam nesaf y datblygiad a'r twf yn fwy ymwybodol os yw'r buddion penodol sy'n deillio o ddatblygiadau technolegol am fod ar gael i bawb. Os yw'n dymuno cyrraedd sefyllfa ble mae e-ddysgu yn rhan annatod o weithgaredd academaidd arferol y Brifysgol i fyfyrwyr ar y campws ynghyd â myfyrwyr sy'n astudio o bell, mae PCA yn cydnabod bod rhaid cynnig arweiniad strategol a darpariaeth ganolog briodol. Mae'r ddogfen hon felly yn ceisio darparu fframwaith strategol fydd yn caniatáu i PCA sicrhau darpariaeth o'r safon uchaf yn ogystal â sicrhau bod y niferoedd sy'n ymgymryd ag e-ddysgu yn gyson â nodau ac amcanion cyffredinol y Strategaeth Dysgu ac Addysgu. I bwrpas y ddogfen hon ystyrir bod e-ddysgu yn golygu unrhyw ddefnydd systematig o dechnolegau newydd i gefnogi, gwella neu gyflwyno dysgu ac addysgu.