Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Strategaeth E-Ddysgu (PDF).

2.0 Amcanion Y Sefydliad

2.1  Mae'r strategaeth a amlinellir yn y ddogfen hon wedi'i chynllunio i hwyluso ac i hyrwyddo'r defnydd o e-ddysgu yn ogystal â chyfrannu i genhadaeth gyffredinol y Brifysgol a nodau sefydliadol ehangach fel y'i hamlinellir yn ei Chynllun Strategol blynyddol a dogfennau cysylltiedig eraill. Yn benodol, mae'n ceisio:

  • cyfoethogi dysgu myfyrwyr
  • cefnogi staff wrth addysgu
  • cynyddu dewis a hyblygrwydd y ddarpariaeth
  • hwyluso cynnydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • ehangu mynediad i ddysgu
  • gwella mynediad i wybodaeth a dysg
  • hwyluso cydweithio o fewn a rhwng sefydliadau