Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Strategaeth E-Ddysgu (PDF).

3.0 Egwyddorion Arweiniol

3.1  Wrth lunio'r strategaeth e-ddysgu hon gwnaed y tybiaethau canlynol mewn perthynas â'r drefn fwyaf priodol i PCA:

  • ein bod yn ffafrio amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol gan sicrhau fod cydraddoldeb mynediad gan fyfyrwyr sydd wedi'u lleoli ar y campws ac oddi arno i ddewis o arddulliau dysgu, gan gynnig cymysgedd o ddulliau dysgu ac ymholi academaidd traddodiadol a newydd
  • bydd y strategaeth e-ddysgu yn cael ei gyrru gan ystyriaethau pedagogig yn hytrach na materion technegol, a'r brif ystyriaeth fydd y dyhead i sicrhau fod y broses ddysgu yn fwy effeithiol, deniadol a hygyrch i fyfyrwyr sydd â gofynion a hoffterau dysgu sy'n gynyddol amrywiol
  • y bwriad fydd hwyluso a chefnogi e-ddysgu fel un o blith amrywiaeth o ymagweddau ac arddulliau dysgu sy'n cael eu mabwysiadu yn PCA. Er bod e-ddysgu yn debygol o fod yn berthnasol i bob disgyblaeth bydd y graddau y bydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan hanfodol o arferion dysgu adrannol yn parhau i fod yn benderfyniad a fydd yn deillio o farn broffesiynol adrannau academaidd a'u staff
  • fel rhan hanfodol a chynyddol anwahaniaethadwy o sbectrwm eang o ddulliau dysgu ac addysgu, rhaid i e-ddysgu gael ei integreiddio'n llawn i weithdrefnau sicrhau ansawdd y prif lif a chyfrannu at yr amcanion cyffredinol sydd wedi'u sefydlu yn Strategaeth Dysgu ac Addysgu PCA