Strategaeth E-ddysgu 2005-2009
4.0 Amcanion Strategol
4.1 Mae PCA yn ystyried y gall e-ddysgu wella ansawdd profiad dysgu’r myfyriwr, gwella effeithiolrwydd ei addysg ac yn fwy cyffredinol gyfrannu at gyflawni amcanion strategol y Brifysgol, gan gynnwys ehangu mynediad i ddysgu a chynyddu cyfranogiad. Drwy gyfrwng y strategaeth e-ddysgu hon mae’n gwneud ymdrech weithredol i gefnogi ac annog y defnydd priodol o dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) wrth ddysgu ac addysgu ar bob lefel mewn amgylchedd ble mae staff a myfyrwyr yn elwa ar gyfuniad o ddulliau dysgu ac addysgu traddodiadol a newydd sydd yn gweddu orau i’w hanghenion dysgu ac addysgu penodol hwy. Mae’r amcanion strategol eang a’r camau gweithredu cysylltiedig sydd wedi’u nodi isod yn adlewyrchu’r materion sydd wedi’u dynodi fel rhai sy’n hanfodol wrth gyflwyno ac ymgymryd ag e-ddysgu yn llwyddiannus ar draws y Brifysgol gyfan.
AMCAN 1: annog ac awdurdodi staff academaidd i fanteisio ar y ffyrdd y gall technoleg fywiogi a gwella effeithiolrwydd eu haddysgu a chyfrannu at ganlyniadau dysgu
a. codi lefelau dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth cyffredinol y gymuned academaidd mewn perthynas â photensial e-ddysgu a’r ffyrdd y gall ddarparu cyfleoedd dysgu newydd i fyfyrwyr
b. sicrhau bod y trefniadau ar gyfer darparu cefnogaeth i’r defnydd o e-ddysgu yn ddigonol i gynnig y sgiliau, yr hyfforddiant a’r arweiniad angenrheidiol i staff academaidd ar lefel sefydliadol ac adrannol er mwyn galluogi iddynt fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd y mae eddysgu yn eu cynnig
c. adnabod a gwobrwyo rhagoriaeth yn y defnydd o dechnolegau dysgu yn yr amgylchedd dysgu ac addysgu
AMCAN 2: sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y ddealltwriaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus ynglyn ag e-ddysgu a’r sgiliau sy’n ofynnol i’w galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’n eu cynnig
a. sicrhau bod myfyrwyr yn gwbl ymwybodol o’r technolegau, yr arfau a’r dulliau asesu sy’n gysylltiedig ag e-ddysgu a hefyd o’r gefnogaeth bedagogig a thechnegol y gallant ddisgwyl ei derbyn
b. sicrhau bod hyfforddiant a chefnogaeth e-sgiliau generig a disgyblaeth-ddibynnol ar gael i fyfyrwyr sydd ar y campws ac i fyfyrwyr sy’n astudio o bell a bod gofynion myfyrwyr sydd ag anghenion arbennig yn cael eu hystyried yn llawn
c. sicrhau bod e-ddysgu yn cael ei ddefnyddio i ehangu dewis i fyfyrwyr, drwy, er enghraifft, ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
d. sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n dilyn dulliau dysgu hyblyg neu wasgaredig (gan gynnwys dysgu o bell) ac sy’n cynnwys rhai elfennau e-ddysgu, gydraddoldeb mynediad i wybodaeth, adborth a chefnogaeth fel bo’n briodol i’w hanghenion dysgu, o’i gymharu â myfyrwyr sydd ar y campws
AMCAN 3: sicrhau bod yr isadeiledd technegol a’r adnoddau eraill sy’n cael eu darparu’n ganolog yn addas i’r pwrpas ac yn gallu cynnal lefelau cyfredol a disgwyliedig y galw am e-ddysgu
a. darparu i staff a myfyrwyr yr adnoddau ystafell ddysgu, isadeiledd rhwydwaith a systemau arbenigol, arfau a ffynonellau gwybodaeth sydd yn rhagofynion ar gyfer y defnydd eang o ddarpariaeth e-ddysgu
b. mynd i’r afael ag amrediad o broblemau sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth a’r defnydd o wybodaeth electronig, gan gynnwys cyflwyno gwaith yn electronig, hawlfraint, trwyddedu, llên-ladrad, cefnogi, dargadw a diogelu data diogelwch
AMCAN 4: sicrhau bod e-ddysgu yn cael ei integreiddio’n llawn i mewn i’r prosesau cynllunio strategol ar lefel sefydliadol ac drannol a bod datblygiadau e-ddysgu, fel mater o drefn, yn ddarostyngedig i weithdrefnau a mecanweithiau sicrhau ansawdd
a. sicrhau bod datblygiad e-ddysgu yn cael ei ystyried ar lefel strategol o fewn y fframwaith ehangach a ddarperir gan Strategaeth Dysgu ac Addysgu’r sefydliad a bod adrannau academaidd yn cynnwys e-ddysgu yn eu strategaethau dysgu ac addysgu hwythau
b. ystyried pa gymhellion a modelau cryfhau cefnogaeth y gellid eu defnyddio i annog mentrau e-ddysgu a hwyluso datblygiad a’r defnydd o raglenni a modiwlau e-ddysgu
c. sicrhau mewn perthynas â chynllunio, cyflwyno ac asesu, bod e-ddysgu yn cwrdd â’r safonau academaidd gofynnol, ei fod yn ddarostyngedig i weithdrefnau sicrhau ansawdd grymus a’i fod yn cydweithio’n llawn â’r argymhellion a geir yng Nghod Ymarfer yr ASA
d. sicrhau bod y ddarpariaeth e-ddysgu yn cynorthwyo’r Brifysgol i weithredu ei pholisi ar gefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion Cynllun Iaith Gymraeg PCA