Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009
5.0 Cyflwyno
Bydd y Strategaeth e-Ddysgu hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfres o gynlluniau gweithredu blynyddol wedi’u dyfeisio a’u monitro gan y Grwp Cyflwyno Strategaeth Dysgu ac Addysgu yn gyfochrog â’i adolygiad blynyddol o Strategaeth Dysgu ac Addysgu PCA. Bydd blaenoriaethau yn cael eu gosod ar gyfer pob blwyddyn academaidd o fewn y cyfnod cynllunio a bydd amserlen gweithredu yn cael ei pharatoi a’i chylchredeg i’r rhai hynny a ddynodir fel y rhai sydd â chyfrifoldeb am gyflwyno. Bydd adroddiadau blynyddol gan fuddddeiliaid allweddol yn cael eu defnyddio i fonitro’r cynnydd a mesur yr effaith a byddant yn goleuo’r broses o benderfynu ynglŷn â thargedau a blaenoriaethau’r flwyddyn ganlynol.