Strategaeth E-Ddysgy 2005-2009

Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Strategaeth E-Ddysgu 2005-2009. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Strategaeth E-Ddysgu (PDF).

6.0 Canlyniadau

Erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2008/2009 disgwylir y bydd y canlynol wedi’i gyflawni:
  • bydd e-ddysgu wedi’i sefydlu’n gadarn yn y cwricwlwm fel modd o wella ansawdd dysgu, cwrdd â disgwyliadau myfyrwyr ac ymateb i anghenion y gweithle
  • bydd PA yn cynnig portffolio deniadol o gyrsiau a ddysgir ar lefel israddedig ac uwchraddedig a fydd yn cynnig amrediad o ddewisiadau i fyfyrwyr mewn perthynas ag arddulliau addysgu a dulliau cyflwyno ac sy’n gwneud y defnydd gorau o dechnolegau newydd a datblygol
  • bydd gan PA strategaethau buddsoddi fydd yn sicrhau darpariaeth ddigonol ar gyfer yr isadeiledd TG, yr adnoddau digidol a’r gefnogaeth i’r defnyddiwr fydd yn angenrheidiol ar gyfer tanategu’r defnydd o’r technolegau dysgu newydd
  • bydd gan yr holl fyfyrwyr a staff fynediad i’r galluoedd, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sgiliau fydd yn angenrheidiol ar gyfer gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o ddulliau a thechnolegau e-ddysgu