Canllawiau I Bwyllgorau Ymgynghorol Staff A Myfyrwyr

1.0 Datganiad Cyffredinol

1.1  Un o blith sawl ffordd o gael atborth gan fyfyrwyr yw'r Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr. Y gobaith yw y byddant yn gweithredu'n deg, yn gyfrifol ac yn effeithiol, ond fe ddylai'r staff a'r myfyrwyr gadw mewn cof ei bod hi'n bwysig cynnal cysylltiadau drwy gyfryngau eraill, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, gyda'r nod cyffredinol o wella ansawdd y dysgu a'r profiad addysgol yn gyffredinol.