Canllawiau I Bwyllgorau Ymgynghorol Staff A Myfyrwyr

3.0 Aelodau'r Pwyllgorau

3.1  Cynrychiolwyr y Staff

  • Dylent ymateb i bryderon y myfyrwyr. Dylai'r cynrychiolwyr fod yn bobl sy'n ennyn cryn barch o fewn yr adran ac yn gallu siarad ag awdurdod am y materion sy'n debyg o gael eu trafod.
  • Dylent weithredu'n ymatebol ac adeiladol yn y Pwyllgorau.
  • Mae'n egwyddor bwysig na ddylai nifer cynrychiolwyr y staff fod yn fwy na nifer cynrychiolwyr y myfyrwyr.
  • Er gwaethaf yr angen am staff sy'n ennyn parch o fewn yr adran, ni ddisgwylir y bydd Penaethiaid Adrannau yn aelodau'r Pwyllgorau: dylent gael eu gweld yn ymdrin â materion a godwyd yn y Pwyllgorau yn ddiduedd ac o hyd braich.

3.2  Cynrychiolwyr y Myfyrwyr

  • Fel arfer dylent gael eu penodi gan gorff myfyrwyr yr adran;
  • Dylent gynrychioli'r holl fyfyrwyr sy'n dilyn modiwlau neu gyrsiau yn yr adran, gan gynnwys graddedigion;
  • Dylent fod yn ymatebol i farn myfyrwyr yr adran, ac yn fodlon cyflwyno sylwadau nad ydynt, o anghenraid, yn cyd-fynd â'u safbwyntiau hwythau.
  • Dylent weithredu yn gyfrifol ac adeiladol yn y Pwyllgorau.

3.3  Nifer y Pwyllgorau

Disgwylir y bydd o leiaf un Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr ym mhob adran. Mewn adrannau mwy efallai y bydd yn briodol cynnal Pwyllgorau ar wahân i bob cynllun gradd ac un arall i raddedigion, os bydd hynny'n briodol. Os oes nifer sylweddol o fyfyrwyr ar gynlluniau rhan-amser neu ddysgu-o-bell efallai y byddai Pwyllgor ar wahân i'r ddau yn ddefnyddiol iawn wrth ymdrin â phryderon penodol y myfyrwyr hynny.