Canllawiau I Bwyllgorau Ymgynghorol Staff A Myfyrwyr

4.0 Sut Mae'r Pwyllgorau Yn Gweithio

4.1  Dylai'r myfyrwyr fod yn gallu cyfranogi yn llawn o bob agwedd ar gyfarfodydd y Pwyllgorau, gan gynnwys llunio'r agendâu.

4.2  Dylai'r myfyrwyr deimlo eu bod yn gallu codi materion sy'n ymwneud â'r adran ac, yn wir, â meysydd gweithredu eraill sy'n effeithio ar eu hastudio (e.e. adnoddau'r Gwasanaethau Gwybodaeth ayyb).

4.3  Dylid cadw cofnodion manwl o bob cyfarfod o'r Pwyllgorau, gan ddangos yn glir y trafod, argymhellion gweithredu a'r camau dilynol. I hyrwyddo datblygiad y myfyrwyr, fe allai hi fod yn briodol i'r myfyrwyr eu hunain fod yn swyddogion y Pwyllgorau, gan fod yn gyfrifol am gynhyrchu agendâu a chofnodion, gydag arweiniad priodol gan aelod o'r staff academaidd.

4.4  Dylai'r cofnodion:

  • peidio, ar dir egwyddor, â chyfeirio at aelodau unigol o'r staff, na myfyrwyr unigol, a grybwyllwyd yn ystod y trafod.
  • cael eu dangos yn amlwg ar hysbysfyrddau'r adran, neu gael eu cylchredeg yn electronig, gydag aelodau'r Pwyllgor yn tynnu sylw'r myfyrwyr atynt yn ôl yr angen i sicrhau bod pob myfyriwr yn yr adran yn gwybod am benderfyniadau Pwyllgor.
  • enwi yn eglur y sawl sy'n gyfrifol am weithredu, cymryd camau dilynol ac adrodd.
  • cael eu trafod a'u cynnwys yng nghyfarfodydd Bwrdd yr Adran; mae cofnodion y Byrddau Adrannol yn cael eu hanfon ymlaen i'r Cyfadrannau. Anogir y Cyfadrannau i drafod materion sy'n dod i'r amlwg yn y modd hwn, ac i wneud eu hargymhellion i'r adrannau a'r Senedd, os yw'n briodol.