Canllawiau i Bwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrywr

5.0 Egwyddorion Sylfaenol

5.1  Dylai'r Pwyllgorau gyfarfod o leiaf ddwywaith y sesiwn, a dylai fod modd i gyfarfodydd gael eu cynnal yn amlach os dymunir hynny.

5.2  Mae'n bwysig bod cynrychiolwyr y myfyrwyr yn gallu mynegi eu safbwyntiau hwy a rhai'r myfyrwyr eraill yn y Pwyllgorau heb ofni cael eu cosbi gan yr adran. Felly mae'n ddyletswydd ar yr adran a chynrychiolwyr ei staff i hyrwyddo hinsawdd gydweithredol ac ymgynghorol yn y cyfarfodydd, er budd y staff a'r myfyrwyr. Mae atborth da yn elfen hanfodol mewn Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr effeithiol, a dylai pob cynrychiolydd weithio tua'r nod hwnnw.