Trosolwg

Cynlluniwyd Rosser G yn benodol i uwchraddedigion. Saif ar ben uchaf Campws Penglais wrth ymyl blociau eraill Rosser, a neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Threfloyne - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed. 

Llety

Mae Rosser G yn gartref i hyd at 60 o fyfyrwyr o fewn 1 bloc. Mae'r bloc yn cynnwys 6 fflat hunangynhwysol, a 10 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr eu hystafell ymolchi eu hunain, a byddant yn rhannu cegin a man seddi esmwyth. 

Arlwyo

Mae myfyrwyr yn Rosser G yn hunanarlwyo.

Mae Rosser G wedi’i lleoli o fewn 5 munud o gerdded i archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Rosser G:

  • Llety hunanarlwyo.
  • Ystafelloedd gwely en-suite.
  • Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
  • Teledu fflat ar y wal (trwydded teledu yn gynwysiedig).
  • Cyfleusterau Golchdy.
  • Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
  • Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
  • Parcio (cyfyngedig, rhaid cael trwydded)
  • Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.

 

Beth sydd yn eich ystafell?

  • Gwely dwbwl bachl (4 troedfedd) a matres.
  • Cwpwrdd dillad.
  • Desg a chadair cyfrifiadur.
  • Lamp ddesg.
  • Silffoedd llyfrau.
  • Hysbysfwrdd.
  • Bin gwastraff.

Ystafell ymolchi en-suite:

  • Cawod.
  • Toiled.
  • Basn ymlochi (sinc) a drych.
  • Rheilen dyweli boeth.

Beth sydd yn eich ardaloedd cymunedol?

Cegin

  • 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell.
  • 2 ffwrn â gril/hob.
  • Popty ping.
  • Tegell.
  • Tostiwr.
  • Teledu sgrin wastad ar y wal (darperir trwydded).
  • Bar brecwast gyda stolion.
  • 2 Soffa.
  • Bwrdd coffi.
  • Haearn.
  • Bwrdd smwddio.
  • Bwced a mop.
  • Padell lwch a brwsh.
  • Brwsh llawr.
  • Hysbysfwrdd.
  • Hwfer.
  • Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.

Lleoliad

map Cliciwch ar y map i weld union leoliad Rosser G

O fewn pum munud o gerdded o Rosser G gallwch gyrraedd:

Oriel

Sylwer bod rhain yn luniau cynrychiadol o ystafelloedd nodweddiadol yn Rosser G. (Cliciwch i weld llun mwy)

External view
External view
Corridor
Laundry
Kitchen
Bedroom
Shower room

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2024/ 2025

En-suite sengl £153.27
50 wythnos*
£159.40
50 wythnos**

*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 06/09/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00 ar 05/09/2025

 

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety