Myfyrwyr Cyfnewid

Bydd penderfynu b'le i fyw yn ystod eich cyfnod astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un o'r pethau cyntaf y byddwch yn ymwneud ag ef wrth gynllunio eich ymweliad cyfnewid. Mae gan Brifysgol Aberystwyth Wasanaeth Llety i gynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i rywle i fyw. Yn Aberystwyth mae tua 48% o’n myfyrwyr yn byw mewn Preswylfeydd. Mae gweddill y myfyrwyr yn byw yn yr ardal o amgylch Aberystwyth neu mewn tai, fflatiau neu mewn llety yn y sector preifat yn y dref y gellir cerdded iddi'n rhwydd o'r prif gampws neu deithio ar y bws rheolaidd sy'n uno'r dref a'r campws.

Tref fechan dwristaidd gyda thua 14,000 o drigolion yw Aberystwyth ac oherwydd y nifer fawr o fyfyrwyr newydd sy'n cyrraedd ym mis Medi bob blwyddyn ni allwn bob amser gynnig llety mewn Neuaddau Preswyl i bob Myfyriwr Cyfnewid ar Ymweliad o Ewrop. Efallai y bydd yn rhaid i rai Myfyrwyr sydd ar Ymweliad o Ewrop fyw mewn llety yn y sector preifat.

Nodwch na fydd modd inni gadarnhau a allwn gynnig llety mewn Neuaddau Preswyl i fyfyrwyr cyfnewid ai peidio nes yn gynnar ym mis Medi bob blwyddyn (neu yn gynnar ym mis Rhagfyr yn achos myfyrwyr Semester 2) pan fydd gennym well syniad o'r nifer o fyfyrwyr a fydd yn dod atom. Ond dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn cwblhau ac yn dychwelyd y ffurflen gais berthnasol sydd ar gael o'r Swyddfa Rhyngwladol. (Gweler enw cyswllt a chyfeiriad isod)

Miss Iona Hopkins
Swyddog Astudio Tramor
Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol
Prifysgol Aberystwyth  
Canolfan Croeso Myfyrwyr
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3FB
Ffôn: +44 (0)1970 622364
Ffacs:+44 (0)1970 622063
E-bost: studyabroad@aber.ac.uk