Myfyrwyr Israddedig Presennol

Newyddion da! Bydd Ceisiadau Llety ar gyfer 2024/25 yn agor am 10.00yb ar 5  Ionawr 2024.

Sut i wneud cais

 

Llety Blwyddyn Nesaf

Yn draddodiadol, bydd y cyfnod o chwilio am dŷ yn dechrau o fis Tachwedd er mwyn paratoi ar gyfer y mis Medi dilynol, gan roi digon o gyfle i chi benderfynu ble yr hoffech fyw a gyda phwy.

Ar ôl ichi lofnodi cytundeb llety (a thalu’r blaendal os oes angen), gall fod yn anodd iawn, ac weithiau’n amhosibl, i newid y penderfyniad felly gwnewch yn sicr eich bod chi wedi ystyried pob dim cyn penderfynu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y penderfyniad sy'n iawn i chi ac nid i unrhyw un arall.

I ddarganfod pa lety sydd ar gael i chi, pam ddim cael golwg ar ein a Chymharu ein Llety.

Pam aros gydd ni? 

  • Yr holl filiau ynni yn gynwysedig 
  • Rhyngrwyd grifredig a di-wifr cyflymder uchel yn gynwysedig 
  • Aelodaeth blatinwm rad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon er budd eich iechyd a'ch lles
  • Dewis i fyw gyda'ch ffrindiau mewn fflatiau/tai sydd â rhwng 5 a 10 o ystafelloedd gwely 
  • Myfyrwyr Presennol yn cael eu clustnodi i fflatiau gyda'i gilydd- ddim wedi'u cymysgu â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf!
  • Lleoliad cyfleus yn agos i'r adnoddau academaidd ac adnoddau'r campws, yn ogystal â chanol y dref- Opsiynau llety
  • Adnoddau golchi dillad ar y safle 
  • Help a chymorth 24/7- gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio
  • Canolfannau dysgu 24/7 o fewn cyrraedd yn hawdd i'ch llety 
  • Yswiriant yn gynwysedig 
  • Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety 
  • Cytundebau Contract Sengl - nid cyd ac unigol (felly nid ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent pobl eraill) ac nid oes angen 'Gwarantwyr'
  • Amrywiaeth o hydoedd contract a llety haf y Brifysgol ar gael

Cymryd Blwyddyn Allan

Mae myfyrwyr sy’n gwneud lleoliad rhyngosod fel rhan annatod o’u gradd yn gymwys i wneud cais am lety Prifysgol yn yr un modd â myfyrwyr presennol eraill.

Nid yw myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) yn fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly, nid ydynt yn gymwys i wneud cais am lety Prifysgol yn ystod eu blwyddyn mewn cyflogaeth.  Gweler yr adran isod ar y dewisiadau arall sydd ar gael.

Pa ddewisiadau sydd ar gael i mi?

Bydd gennych nifer o ddewisiadau megis byw yn llety'r Brifysgol byw mewn tai myfyrwyr yn y sector breifat, gan ddefnyddio asiantwyr gosod amrywiol yn Aberystwyth i ddod o hyd i dŷ neu fflat i fyfyrwyr, neu rentu ystafell gyda phrif ddarparwyr eraill i fyfyrwyr.