Gweithdrefn Gwynion

Mae Ystadau, Cyfleusterau & Preswylfeydd yn darparu gwasanaethau Glanhau, Porthora a Diogelwch ar draws holl adeiladau'r Brifysgol, mae hefyd yn Rheoli portffolio'r Brifysgol o bron i 4,000 o ystafelloedd gwely ac ardaloedd cyfagos. Mae'r adran yn ymateb i anghenion ein myfyrwyr ac yn croesawu sylwadau a chwynion fel modd o wella'r gwasanaethau.

Trefn Gwyno Preswylfeydd

O bryd i’w gilydd ni fydd pethau’n mynd yn iawn, neu efallai na fydd y gwasanaeth a ddarperir gennym yn bodloni eich disgwyliadau ond byddwn bob amser yn barod i roi eglurhad i chi am bob penderfyniad a wnaed gennym.

Cynlluniwyd y drefn hon i ymdrin â chwynion gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, sy’n byw mewn Llety sy’n Eiddo i’r Brifysgol neu a reolir ganddi, ac mae’n rhoi gwybodaeth am:

  • Sut i wneud cwyn
  • Sut y byddwn ni’n ymdrin â’r gŵyn
  • Beth allwch chi ei wneud os nad ydych chi’n hapus â’n hymateb

Cwynion anffurfiol

Yn y lle cyntaf cysylltwch â Derbynfa Preswylfeydd, naill ai trwy alw heibio (Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3BY) neu trwy e-bostio/ffonio llety@aber.ac.uk / 01970 622984. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau galw heibio i fyfyrwyr allu mynegi unrhyw gwynion neu bryderon.  Os oes gennych chi gŵyn frys, yn arbennig cwyn sy’n ymwneud â materion Iechyd a Diogelwch, cysylltwch â llinell gymorth Prifysgol 24/7 ar 01970 622900.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 72 awr (ac eithrio ar benwythnosau, yn ystod gwyliau cyhoeddus a gwyliau swyddogol y Brifysgol) ac yn ymateb yn llawn iddi o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad y daeth y gŵyn i law. Os nad oes modd i ni roi ymateb llawn, o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol neu anrhagweladwy, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn ac yn rhoi’r diweddaraf i chi am y cynnydd.

Trefn Gwyno Ffurfiol y Brifysgol

Ar ôl y cam o gwyno’n anffurfiol, os nad ydych yn credu bod y gŵyn wedi’i datrys yn foddhaol, gallwch fynd â’r gŵyn ymhellach drwy gyfrwng trefn gwyno ffurfiol y Brifysgol. Caiff hyn ei gydlynu gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ac mae’r manylion llawn ar gael ar eu tudalen Trefn Gwyno.