Canllawiau Defnyddio Offer

Mae cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr i’r holl declynnau trydanol sydd yn eich fflat/tŷ i’w cael drwy Manuals Online.

I gael canllawiau cam-wrth-gam ynghylch sut i weithio unrhyw beiriant yn eich fflat / tŷ:

Cwrt Mawr, Rosser, Trefloyne, Pantycelyn, Pentre Jane Morgan.

Tegell

Sut i’w ddefnyddio:

  • Gwasgwch glo’r caead i agor y tegell.
  • Rhowch o leiaf 2 gwpanaid o ddŵr yn y tegell (ond peidiwch â’i lenwi’n uwch na’r nod MAX).
  • Caewch y caead trwy wasgu’r clo i lawr.
  • Rhowch y plwg yn y soced yn y wal a rhoi’r tegell ar y stand.
  • Symudwch y switsh i’r safle ‘ymlaen’ – bydd y golau’n dangos a’r tegell yn dechrau twymo.
  • Pan fydd y dŵr yn berwi, bydd y tegell yn diffodd yn awtomatig. I ddiffodd y tegell cyn hyn; symudwch y switsh i’r safle ‘i ffwrdd’ neu codwch y tegell oddi ar y stand.

Gofal a chynnal a chadw:

  • Cadwch y cysylltwyr a’r socedi’n sych bob amser.
  • Sychwch y tu mewn a’r tu allan â chadach gwlyb.
  • Tynnwch y cen yn rheolaidd gan ddefnyddio sylwedd tynnu cen sy’n addas i’w ddefnyddio mewn teclynnau plastig.
  • I olchi’r hidlydd – gwthiwch ben yr hidlydd i lawr ac yn ôl (i mewn i’r tegell), rhyddhewch y bachau ar ben yr hidlydd wrth y gosodiadau ar y pig, codwch yr hidlydd allan o’r tegell a brwsio’r hidlydd o dan y tap. Rhowch yr hidlydd yn ôl i mewn i’r tegell trwy slotio gwaelod yr hidlydd i mewn i waelod y pig. Gwasgwch yr hidlydd i lawr a thuag atoch fel bod y bachau yn mynd o dan y gosodiadau ar y naill ochr a’r llall.

Diogelwch:

  • Rhaid cadw llygad ar y tegell wrth ei ddefnyddio.
  • Peidiwch â rhoi’r tegell, y stand, y cebl na’r plwg mewn unrhyw hylif.
  • Peidiwch â rhoi’r tegell ar ymyl arwynebau/wynebau gweithio.
  • Dim ond dŵr y dylid ei roi yn y tegell.
  • Peidiwch â llenwi’r tegell yn uwch na’r nod MAX - bydd gorlenwi’r tegell yn peri i’r tegell boeri dŵr berw.
  • Os yw tegell wedi’i ddifrodi mewn unrhyw ffordd dychwelwch y tegell i Dderbynfa’r Campws lle y cewch un arall yn ei le.

Tostiwr

Sut i’w ddefnyddio:

  • Rhowch y tostiwr ar i fyny ar arwyneb sefydlog a rhoi’r plwg yn y soced yn y wal.
  • Rhowch y bara yn y tostiwr a throi’r bwlyn brownio i ddewis y rhif priodol (1 = golau, 6 = tywyll).
  • Gwasgwch y bwlyn i lawr yn llwyr i ddechrau tostio.
  • Pan fydd y broses ar ben bydd y tost yn codi yn awtomatig a’r tostiwr yn diffodd.

Gofal a chynnal a chadw:

  • Glanhewch unrhyw friwsion o’r tostiwr yn aml er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn cronni: nid yw hynny’n lân iawn a gallai fod yn berygl tân.
  • I lanhau’r briwsion, tynnwch y byrddau briwsion o waelod y tostiwr a’u gwagio. Rhowch gadach gwlyb drostynt, eu sychu a’u rhoi yn ôl.
  • I lanhau’r tu allan i’r tostiwr, rhowch gadach gwlyb drosto. Os oes angen, defnyddiwch hylif golchi llestri.
  • Peidiwch â rhoi’r tostiwr mewn dŵr nac unrhyw hylif arall.
  • Peidiwch â defnyddio deunydd na sylweddau glanhau garw sy’n crafu.

Diogelwch:

  • Cadwch lygad ar y tostiwr wrth ei ddefnyddio.
  • Peidiwch â rhoi eich tostiwr mewn hylif neu’n agos at hylif.
  • Cadwch eich tostiwr ar arwyneb gwastad sy’n gwrthsefyll gwres.
  • Os aiff bara’n sownd yn y tostiwr, peidiwch â cheisio’i ryddhau. Diffoddwch y tostiwr a thynnu’r plwg allan. Gadewch iddo oeri cyn tynnu’r bara allan yn ofalus.
  • Tynnwch y plwg allan a gadewch iddo oeri cyn ei lanhau.

Popty Ping

Sut i’w ddefnyddio:

  • Rhowch y bwyd mewn cynhwysydd addas a rhowch y cynhwysydd ar y plât gwydr; caewch ddrws y popty ping.
  • Gosodwch y bwlyn rheoli pŵer i’r lefel briodol.
  • Gosodwch yr amser drwy droi’r amserydd – bydd y popty ping yn dechrau’n awtomatig ar ôl i chi osod yr amser.
  • Bydd y popty ping yn diffodd yn awtomatig pan fydd yr amserydd yn cyrraedd 0.

Gofal a chynnal a chadw:

  • Diffoddwch y popty ping cyn ei lanhau.
  • Rhif 1 yw’r plât gwydr – wedi’i wneud o wydr arbennig sy’n gwrthsefyll gwres. Rhaid sicrhau bod y plât yn y lle cywir cyn cychwyn y popty ping. Peidiwch â choginio bwyd yn uniongyrchol ar y plât. Golchwch y plât gwydr mewn dŵr cynnes sebonllyd neu mewn peiriant golchi llestri.
  • Rhif 2 yw’r canllaw rholio – rhaid defnyddio hwn bob amser wrth goginio, ynghyd â’r plât coginio gwydr. Dylid glanhau’r canllaw rholio a llawr y popty ping yn rheolaidd gyda glanhawr ysgafn neu hylif glanhau ffenestri.
  • Rhif 3 yw’r bwlyn amseru.
  • Rhif 4 yw’r bwlyn i reoli’r pŵer.
  • Sychwch unrhyw dasgiadau â chadach gwlyb yn syth ar ôl iddynt ddigwydd er mwyn eu hatal rhag caledu – gallwch ddefnyddio glanhawr ysgafn.
  • Dylid glanhau wyneb allanol y popty ping â dŵr cynnes a sebon a’i sychu â chadach meddal. Ni ddylid gadael i ddŵr dreiddio i’r tyllau awyru.

Diogelwch:

  • Dim ond i baratoi bwyd y dylid defnyddio’r popty ping - peidiwch â’i ddefnyddio i wneud pethau eraill fel sychu dillad, papur neu eitemau eraill nad ydynt yn fwyd nac i sterileiddio.
  • Peidiwch â defnyddio’r popty ping yn wag, oherwydd gallai hynny ei ddifrodi.
  • Peidiwch â rhoi pethau ar ben y popty ping.
  • Os gwelwch fwg, diffoddwch y popty ping, tynnwch y plwg allan a chadwch y drws ar gau.
  • Mae’r popty ping yn defnyddio ynni p’un a yw’n cael ei ddefnyddio ai peidio – tynnwch y plwg allan er mwyn arbed ynni.

Haearn Smwddio

Sut i’w ddefnyddio:

  • Tynnwch blwg yr haearn o’r wal cyn llenwi’r tanc â dŵr – peidiwch â’i lenwi uwchlaw’r llinell MAX.
  • Trowch y switsh dewis tymheredd i’r safle isaf a rhowch yr haearn i orffwys.
  • Rhowch blwg yr haearn i mewn a throi’r deial i’r gosodiad priodol – bydd y lamp beilot yn goleuo. Yn y gosodiad hwn, gellir defnyddio’r haearn fel haearn stêm pan fydd y lamp beilot wedi diffodd. Bydd y lamp yn goleuo ac yn diffodd o dro i dro wrth i chi smwddio ac mae hynny’n dangos bod y tymheredd yn cael ei reoli’n iawn.
  • Llithrwch y rheolydd stêm i’r safle iawn i greu digon o stêm – bydd y stêm yn peidio pan roddir yr haearn yn ôl i orffwys.
  • Botwm Stêm – gan ddefnyddio’r haearn yn wastad, codwch yr haearn a gwasgu’r botwm stêm (mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi wasgu’r botwm fwy nag unwaith i weithio’r pwmp). Dim ond pan fyddwch yn smwddio ar dymheredd uchel y gallwch ddefnyddio’r botwm stêm. Gallwch ddefnyddio’r botwm stêm ar i fyny i gael gwared ar grychau o ddillad sy’n hongian, llenni ac ati.
  • Defnyddio’r botwm chwistrellu – gallwch ddefnyddio’r botwm chwistrellu ar unrhyw dymheredd gyda’r haearn sych a’r haearn stêm cyhyd ag y bo dŵr yn y tanc. I’w weithio, gwasgwch y botwm dro ar ôl tro.
  • Defnyddio’r haearn sych – trowch fwlyn rheoli’r stêm i MIN a throi’r deial i’r tymheredd priodol. Pan fydd y lamp beilot yn diffodd, bydd yr haearn wedi cyrraedd ei dymheredd.
  • Rheolydd tymheredd;

Ο Deunyddiau synthetig

ΟΟ Sidan/Gwlân

ΟΟΟ Lliain/Cotwm

Gofal a chynnal a chadw:

  • Bydd gan wahanol ddillad wahanol gyfarwyddiadau smwddio – maent i’w cael y tu mewn i’r dilledyn.
  • Peidiwch â smwddio dros sipiau, rhybedi neu jîns oherwydd byddant yn crafu’r gwadn haearn.
  • Os ydych yn byw mewn ardal lle mae’r dŵr yn galed, argymhellir eich bod yn defnyddio dŵr wedi’i ddistyllu neu wedi’i ddad-ïoneiddio.
  • I storio’r haearn – gwagiwch y dŵr o’r tanc, a gadewch i’r haearn oeri’n llwyr cyn ei roi i gadw.
    Diogelwch:
  • Peidiwch â defnyddio’r haearn at unrhyw ddiben heblaw’r hyn y’i bwriadwyd ar ei gyfer.
  • Peidiwch â’i ddefnyddio os yw’r haearn neu’r cordyn wedi’u difrodi – rhowch wybod i’r Swyddfa Llety.
  • Dylech bob amser droi’r haearn i OFF cyn rhoi’r plwg i mewn neu dynnu’r plwg o’r soced.
  • Cadwch lygad ar yr haearn bob amser tra bydd wedi ei gysylltu neu ar y bwrdd smwddio.

Popty, Hob a Gril

Sut i ddefnyddio’r popty:

  • Trowch y popty ymlaen drwy droi’r bwlyn rheoli yn groes i’r cloc.
  • Dewiswch dymheredd y popty drwy ddewis y tymheredd sydd wedi’i nodi ar y bwlyn.
  • Gosodwch yr amser (dewisol).
  • Sefwch yn ôl wrth agor drws y popty er mwyn gadael i unrhyw stêm neu wres ddianc.

Sut i ddefnyddio’r gril:

  • Agorwch y drws a rhowch y silff ar uchder addas.
  • Trowch y gril ymlaen drwy droi’r bwlyn rheoli yn groes i’r cloc nes cyrraedd symbol y gril. Bydd y golau oren ynghynn i ddangos bod y gril wedi’i droi ymlaen. Gadewch iddo gynhesu am 5 munud cyn ei ddefnyddio.
  • Rhowch y bwyd i mewn ac arhoswch iddo goginio.

Sut i ddefnyddio’r hob:

  • Trowch y bwlyn rheoli i amrywio’r gwres fel y mynnwch.
  • Pan fydd unrhyw un o’r platiau poeth ymlaen, bydd yn goleuo’n goch.
  • I ddiffodd y plât poeth, trowch y bwlyn perthnasol i ‘OFF’.

Diogelwch:

  • Peidiwch â defnyddio ffoil ym mhadell y gril.
  • Defnyddiwch fenig popty bob tro i ddiogelu’ch dwylo.
  • Peidiwch â gadael yr handlen ar y badell wrth grilio.
  • Diffoddwch y popty pan na fyddwch yn ei ddefnyddio.
  • Gosodwch y sosbenni ar ganol y plât poeth gan sicrhau bod yr handlenni’n cael eu cadw oddi wrth ymyl yr hob ac na allant gael eu gwresogi.
  • Gwnewch yn siŵr bod y silffoedd yn y lle cywir cyn troi’r popty neu’r gril ymlaen.
  • Sychwch unrhyw fwyd a gollwyd ar unwaith er mwyn osgoi’r risg o dân.

Lwfer y ffwrn

Sut i’w ddefnyddio:

Yn gyntaf, gwasgwch y switsh ar y wal.

A – botwm cychwyn/diffodd.
B – botymau dewis cyflymder
C – botwm cynna’r golau/diffodd y golau.

Gofal a chynnal a chadw:

  • Cyn glanhau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd lwfer eich ffwrn.
  • Glanhewch lwfer eich ffwrn â hylif glanhau ysgafn a chadach gwlyb; peidiwch byth â defnyddio powdwr sy’n crafu, toddyddion cyrydol na brwshys.
  • Hidlyddion saim - tynnwch yr hidlyddion o waelod lwfer y ffwrn a’u socian mewn dŵr poeth a hylif golchi llestri. Golchwch y sebon i ffwrdd yn iawn â dŵr poeth. Rhowch yr hidlyddion yn ôl yn eu lle pan fyddant yn hollol sych.

Oergell / Rhewgell

Sut i’w ddefnyddio:

  • Dewiswch eich tymheredd ar gyfer yr oergell (1 = MIN, 6 = MAX – MAX yw’r oeraf).
  • Mae’r rhewgell yn un di-rew ac mae’r tymheredd yn aros yn gyson.
  • Peidiwch byth â rhwystro ffender gwyntyll y rhewgell er mwyn sicrhau ei bod yn perfformio ar ei gorau.

Gofal a chynnal a chadw:

  • Argymhellir eich bod yn defnyddio cadach meddal neu sbwng wrth lanhau.
  • Peidiwch byth â defnyddio offeryn siarp sy’n crafu wrth lanhau.
  • Defnyddiwch hylif glanhau i lanhau’r tu mewn i’r oergell ond peidiwch â defnyddio glanhawyr cemegol ag arogl cryf oherwydd gall y bwyd amsugno’r arogl.
  • Cadwch gig a chig dofednod amrwd islaw bwyd wedi’i goginio a chynnyrch llaeth.
  • Lapiwch gig a chig dofednod amrwd yn llac mewn polythen neu bapur arian fel na fydd yn sychu.
  • Lapiwch gaws mewn papur saim ac yna mewn bag polythen gan gau allan gymaint o aer â phosib.
  • Tynnwch unrhyw ddail na allwch eu defnyddio oddi ar lysiau a sychwch y pridd oddi arnynt.
  • Peidiwch â gorlenwi’r oergell gan y bydd hyn yn ei rwystro rhag cylchdroi aer yn effeithiol.

Peiriant golchi llestri

Sut i’w ddefnyddio:

  • Llenwi’r peiriant golchi llestri – peidiwch â gorlenwi’r peiriant, sicrhewch nad yw eitemau’n rhy agos at ei gilydd, golchwch â llaw unrhyw eitemau pren, plastig a deunyddiau nad ydynt yn gwrthsefyll tymheredd uchel.
  • Llenwi â glanhawr a hylif strelio – dim ond glanhawyr a hylif strelio penodol ar gyfer peiriannau golchi llestri domestig y dylid eu defnyddio. Dilynwch y cyfarwyddiadau ynglŷn â faint o lanhawr i’w ddefnyddio. Defnyddir hylif strelio er mwyn peidio â gadael marciau dŵr.
  • Gwasgwch y botwm ON/OFF ar y panel rheoli, dewiswch eich rhaglen.
  • Caewch ddrws y peiriant a gwasgwch y botwm ‘START’.

Sugnwr llwch

Sut i’w ddefnyddio:

  • Rhowch y plwg yn y wal.
  • Cysylltwch y dolenni’n iawn hyd nes y clywch sŵn clicio. Trowch y biben gyda’r cloc i mewn i’r gwaelod.
  • Gwasgwch y botwm gwyrdd START i ddechrau glanhau.
  • I ddefnyddio mwy o bŵer, gwasgwch y botwm coch HI-POWER.
  • Gwasgwch y lifer ar ben y sugnwr i gychwyn neu ddiffodd mecanwaith y brwsh.

Gofal a chynnal a chadw:

  • Diffoddwch y sugnwr cyn ei lanhau.
  • I newid yr hidlydd, tynnwch gaead y sugnwr a thynnu uned yr hidlydd. Caewch gaead yr hidlydd a thaflu’r bag hidlo. Rhowch fag hidlo newydd yn sownd wrth y biben. Rhowch uned yr hidlydd yn ôl yn ei lle a rhoi’r caed yn ôl ar yr hidlydd.
  • Mae bagiau hidlo ar gael o’r Swyddfa Llety.

Diogelwch:

  • Dim ond i sugno llwch neu fudreddi sych arferol yn y cartref y dylid defnyddio’r sugnwr llwch.
  • Peidiwch â sugno llwch mewn mannau lle mae lleithder, dŵr neu eitemau bach miniog.
  • Wrth weindio’r cordyn pŵer yn ôl, cydiwch yn y plwg cyn gwasgu’r botwm weindio.

Fferm Penglais

Er mwyn gweld gwybodaeth gyffredinol ddefnyddiol a llawlyfrau defnyddwyr y gweithgynhyrchwyr ar gyfer yr offer yn eich llety, ewch i’r ddolen isod -  http://balfourbeattyfm.swgasp.com/QFMUILV/login.aspx

Pan gyrhaeddwch y dudalen hon, nid oes angen i chi nodi unrhyw fanylion mewngyfnodi – cliciwch ‘Start’ a chewch mynediad i’ch system canllaw defnyddwyr ar-lein!