Rhestr Wirio Cyn Cyrraedd

Rhestr Wirio Cyn Cyrraedd - PDF

Efallai y bydd lle storio yn gyfyngedig felly peidiwch â dod â gormod. Gellir prynu cyflenwadau yn lleol. Cofiwch - mae lle oergell a rhewgell yn gyfyng felly trefnwch eich siopa yn unol â hynny, efallai arhoswch tan eich bod yn cyrraedd.

 

Beth i dodd a:

  • Dillad gwely - Edrychwch ar eich tudalen breswylio i ddarganfad pa faint o ddillad gwely sydd angen arnoch chi. Mae pecynnau hanfodion i fyfyrwyr ar gael i'w prynu gan Unpacked 
  • Cynnyrch glanhau ar gyfer eich ystafell wely, ystafell ymolchi a'r gegin.
  • Pennau hongian cotiau.
  • Cyfrifiadur/gliniadur.
  • Ffurflen rhyddhau'r allwedd.
  • Offer cegin (sosbanau, offer pobi, llestri, cyllyll). Mae pecynnau hanfodion i fyfyrwyr ar gael i'w prynu gan Unpacked                         *Mae yna hobiau anwytho yn Fferm Penglais, felly dim ond potiau a phadellau metel sydd wedi’i magneteiddio, sy'n addas ar gyfer hobiau anwytho y gallwch eu defnyddio.
  • Basged ddillad.
  • Eiddo personol (dillad, pethau ymolchi ac ati).
  • Cod post ar gyfer y man i ddod o hyd i'ch allwedd.
  • Tyweli a lleiniau sychu llestri.
  • Papur ty bach.
  • Powdwr Golchi.
  • Dodrefn - ar yr amod ei bed yn cydymffurffio'n llawn a'r Rheoliadau Dodrefn a Dodrefnu (Diogelwch Tan) a'ch bod chi'n cwblahu ffurflen eitemau uchwanegol. 

 Bydd angen prawf PAT ar unrhyw eitemau trydanol dros 12 mis oed. Ni chewch ddefnyddio eitemau nad ydynt wedi cael prawf PAT felly, os ydych chi'n dod ag eitemau trydanol gyda chi, rydym yn awgrymu eich bod yn trefnu prawf PAT ar eu cyfer cyn i chi gyrraed. Gweler ein gweddalen prawf PAT i gael rhagor o wybodaeth. 

Beth sy'n cael ei ddarparu?

Rydym yn darparu holl offer dodrefn a chegin hanfodol o fewn y llety. Fodd bynnag, os oes angen oergell arnoch am resymau meddygol, rhowch y wybodaeth hon ar eich cais am lety neu cysylltwch a'r Ymgynghorydd Hygyrchedd yn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr - disability@aber.ac.uk / 01970 621761. Bydd y Tim Rheoli Preswylfeydd yn darparu'r offer hwm i chi os cymeradwyir eich cais. 

Gallwch dod a dodrefn ychwanegol (gan gynnws oergell/rhewgell) i'ch llety ar yr amod ei bod yn cydymffurfio'n llwyr a'r Rheoliadau Dodfren (Diogelwch Tan) a'ch bod chi'n cwblhau ffurflen eitemau ychwanegol, sydd ar gael o'r Swyddfa Llety.

Bydd angen prawf PAT ar unrhyw eitemau trydanol dros 12 mis oed. I gael rhagor o wybodaeth am brofion PAT ewch i'n gweddalen Profion PAT.

Am wybodaeth am yr hyn a ddarparwn, gweler y llawlyfr preswyl.

Beth i adael gartref?

I gael gwybodaeth am beth i adael adref ac unrhyw eitemau gawharddedig, gweler y Llawlyfr Preswylwyr