Canllawiau i Rieni

A chithau’n rhiant, yn warcheidwad neu’n rhywun â chyfrifoldebau gofal, mae’r adeg pan fydd eich plentyn neu’ch gward yn dechrau yn y brifysgol yn gallu bod yn gyffrous ond yn un sy’n peri pryder hefyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn pontio’n ddidrafferth i fywyd prifysgol ac i fyw’n annibynnol.

Cofiwch ein bod yn cyfrif eich plentyn/gward yn oedolyn ac felly, oherwydd y rheolau diogelu data, ni allwn drafod rhywbeth amdanynt â chi heb gael eu caniatâd i wneud hynny. Ni allwn drafod unrhyw fanylion penodol megis eu hystafell, eu fflat na’u cyfeiriad postio, nac ychwaith hyd yn oed gadarnhau a ydynt yn fyfyriwr yma ai peidio. Felly os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni; ond cofiwch fod cyfyngiadau arnom o ran yr hyn y cawn ei drafod â chi.

I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen diogelu data.

Egluro ein termau

Dyma restr o’r prif dermau a ddefnyddir yn aml wrth wneud cais am lety, cyn bod eich plentyn/gward yn fyfyriwr, yn ystod eu hastudiaethau, ac wedyn:

  • Cynnig amodol – mae’ch plentyn/gward wedi cael cynnig lle i astudio yn y Brifysgol ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion a roddwyd (sef canlyniadau arholiadau gan amlaf).
  • Cynnig diamod – mae’ch plentyn/gward wedi cael cynnig lle i astudio yn y Brifysgol beth bynnag fydd unrhyw ganlyniadau sydd heb eu cyhoeddi eto.
  • Dewis cadarn – y Brifysgol y mae’ch plentyn/gward wedi ymgeisio amdani ac sydd ar frig eu dewisiadau (eu dewis cyntaf).
  • Dewis wrth gefn – y Brifysgol y mae’ch plentyn/gward wedi dewis ymgeisio amdani rhag ofn na chânt eu derbyn yn y Brifysgol a oedd yn ddewis cadarn (eu hail ddewis).
  • Clirio – os nad oes gan eich plentyn/gward yr un cynnig am le mewn prifysgol ar ôl cael eu canlyniadau, gallant wneud cais drwy’r drefn glirio; bydd UCAS yn rhestru’r prifysgolion a’r cyrsiau lle y mae lleoedd yn dal i fod ar gael. 
  • Porth Llety – y Porth Llety yw’r gwasanaeth ar-lein a ddefnyddir i wneud cais am lety a chadarnhau llety ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Cynnig Llety - anfonir cynnig llety drwy e-bost at eich plentyn/gward a bydd angen iddynt ei dderbyn neu ei wrthod erbyn dyddiad cau penodol.
  • Pecyn Trwydded Llety – ar ôl i chi dderbyn eich cynnig llety, bydd angen i chi gwblhau proses y Pecyn Trwydded Llety erbyn y dyddiad cau a roddir. Mae’r drefn hon yn cynnwys: cytuno i delerau ac amodau eich Cytundeb Trwydded Llety, talu’r ffi dderbyn o £100, trefnu cynllun talu am eich ffioedd llety, gwneud cais i fyw gyda ffrindiau (dewis sydd ar gael os yw eich plentyn/gward yn adnabod rhywun yr hoffent fyw gyda nhw) a chwblhau ein rhaglen ymgynefino cyn cyrraedd.
  • Ymgynefino cyn cyrraedd – mae’r rhaglen ymgynefino cyn cyrraedd yn rhoi cyfle i’ch plentyn/gward i ddewis dyddiad cyrraedd a chael eu ffurflen rhyddhau allwedd, ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am fyw yn y llety.
  • Ffurflen Rhyddhau Allwedd – wrth gwblhau’r rhaglen ymgynefino cyn cyrraedd, bydd Ffurflen Rhyddhau Allwedd yn cael ei chreu. Mae angen cyflwyno’r ffurflen hon wrth gyrraedd er mwyn i’ch plentyn/gward gael allwedd y llety; gellir dangos fersiwn electronig neu fersiwn wedi’i argraffu.
  • Penwythnos Mawr y Croeso – dyma’r penwythnos pan fydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn cyrraedd ac yn symud i fyw yn eu llety; fe welwch yr union amseroedd yn yr adran dyddiadau allweddol.
  • Wythnos ymgartrefu – nod yr wythnos ymgartrefu yw cyflwyno eich plentyn/gward i wasanaethau’r Brifysgol, cael cyfle i gwrdd â’u cyd-fyfyrwyr, dod i adnabod eu hadran academaidd a dod yn gyfarwydd â bywyd prifysgol cyn i’r dysgu ddechrau; fe welwch yr union ddyddiadau yn yr adran dyddiadau allweddol.

Sut mae cael gweld ble bydd fy mhlentyn/gward yn aros?

Y ffordd orau o gael gweld pa lety sydd ar gael i’ch plentyn/gward yw dod i un o’n diwrnodau agored (mae’r dyddiadau ar y dudalen diwrnodau agored i israddedigion). Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnal diwrnodau ymweld rhwng mis Ionawr a mis Mawrth i fyfyrwyr sydd wedi cael cynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Dyma gyfle arall i chi gael gweld y llety sydd ar gael.

Sylwer: efallai na fydd yn bosib i chi weld yr holl opsiynau llety oherwydd bydd myfyrwyr yn byw yno ac mae angen cael caniatâd i fynd i mewn i’w fflatiau/ystafelloedd. Os na allwch ddod i ddiwrnod agored, mae gennym wybodaeth, lluniau a theithiau rhithwir o amgylch ein llety ar ein tudalen Opsiynau Llety.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amryw o wahanol fathau o lety a hyd trwyddedau sy’n addas i ystod eang o fyfyrwyr.

Caiff myfyrwyr ddewis trwydded 39, 40 neu 50 wythnos. Sylwer: i uwchraddedigion yn bennaf y mae’r trwyddedau 50 wythnos. Mae gennym hefyd ystafelloedd safonol, ystafelloedd en-suite a fflatiau stiwdio hunangynhaliol. Llety hunanarlwyo a gynigir yma gan mwyaf. Ond rydym hefyd yn cynnig un neuadd arlwyo (i fyfyrwyr Cymraeg yn unig) ac un neuadd rhan-arlwyo. Mae pob neuadd yn cynnig ‘cynllun prydau bwyd’ lle y gall myfyrwyr ychwanegu pecyn at eu Cerdyn Aber er mwyn cael un pryd y dydd yn un o gaffis, bwytai neu siopau bwyd y Brifysgol yn ogystal â 10% o ostyngiad wrth y til ym mhob un o gaffis a bwytai’r Brifysgol gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau! I gael gwybod mwy am y pecynnau prydau bwyd sydd ar gael, ewch i’n tudalen pecynnau bwyd a diod.

Gwneud Cais am Lety’r Brifysgol

Rydym am ei gwneud mor hawdd a didrafferth â phosib i chi i wneud cais am Lety’r Brifysgol. Fe fydd yn dda gennych glywed ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol, i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf!*

Er mwyn bod yn gymwys i gael lle wedi’i warantu, mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais am lety’n dod i law erbyn 1 Medi yn y flwyddyn pan fyddant yn dechrau eu cwrs, a’u bod yn ymateb i’r cynnig llety erbyn y dyddiad cau a roddir yn y Cynnig Llety. Sylwer ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol, ond nid mewn math arbennig o ystafell neu leoliad.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn gwahodd ymgeiswyr i wneud cais am Lety’r Brifysgol pan fydd ganddynt statws diamod cadarn (UF), diamod wrth gefn (UI), amodol cadarn (CF) neu amodol wrth gefn (CI). Byddwn yn eu gwahodd drwy’r post a hefyd drwy ebost, fel arfer ddechrau mis Ebrill yn y flwyddyn pan fyddant yn dechrau eu cwrs, felly gwnewch yn siŵr eu bod yn darllen eu negeseuon ebost yn rheolaidd.

Sylwer: ni fydd cynnig llety’n cael ei anfon hyd nes y bydd ganddynt le diamod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a hwythau wedi cadarnhau hynny fel dewis cadarn ar UCAS, h.y Cynnig Diamod Cadarn wedi’i Dderbyn.

Clirio:

Byddwn yn dal i warantu lle yn llety’r Brifysgol neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol* ar yr amod eu bod yn gwneud cais cyn 1 Medi yn y flwyddyn pan fyddant yn dechrau eu cwrs a’u bod yn ymateb i’r cynnig llety erbyn y dyddiad cau a roddir yn y Cynnig Llety. Sylwer ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol, ond nid mewn math arbennig o ystafell neu leoliad.

Byddwn yn gwahodd myfyrwyr clirio i wneud cais am Lety’r Brifysgol ar ôl iddynt dderbyn y cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a phan fydd ganddynt statws diamod cadarn. Byddwn yn gwneud hyn drwy ebost, felly gwnewch yn siŵr bod eich plentyn/gward yn darllen eu negeseuon ebost yn rheolaidd.

I gael gwybod mwy, ewch i’r dudalen clirio ar ein gwefan.

*Mae Telerau ac Amodau ynghlwm wrth hyn – gweler ein Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.

Nodir isod y camau syml i wneud cais am Lety’r Brifysgol:

1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r Opsiynau Llety – byddwn yn gofyn i’ch plentyn/gward eu rhoi yn nhrefn blaenoriaeth lle 1 yw’r dewis cyntaf, 2 yw’r ail ddewis ac yn y blaen.

2. Mewngofnodwch i’r porth llety pan fydd y broses ymgeisio’n agor – mae’r union ddyddiadau ar gael ar ein tudalen i fyfyrwyr newydd.

3. Dewiswch y flwyddyn fynediad berthnasol.

4. Dewiswch ffurflen gais.

5. Cwblhewch y broses gan roi cymaint o fanylion â phosib ym mhob adran. Dyma’r adrannau:

a. Eich manylion – bydd angen i’ch plentyn/gward roi cyfeiriad ebost a fydd yn cael ei ddefnyddio i anfon unrhyw ohebiaeth hyd nes y bydd eu cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (o fis Gorffennaf ymlaen fel arfer). Rydym yn eu cynghori i beidio â defnyddio cyfeiriadau ebost ysgol/coleg oherwydd mae’n bosib y bydd y rhain yn mynd yn segur.

b. Opsiynau llety – bydd angen i’ch plentyn/gward roi’r holl opsiynau llety sydd ar gael iddynt yn nhrefn blaenoriaeth lle 1 yw’r dewis cyntaf, 2 yw’r ail ddewis ac yn y blaen. Mae rhagor o wybodaeth am yr Opsiynau Llety gan gynnwys Ffioedd Llety, lluniau a fideos ar gael ar y tudalennau Llety ar ein gwefan.

c. Dewisiadau llety – caiff eich plentyn/gward wneud cais i fyw gyda myfyrwyr o’r un rhywedd. Sylwer: mae hyn yn dibynnu ar y llety sydd ar gael ac ni ellir ei warantu, ond fe wnawn ein gorau glas bob amser i fodloni anghenion ein myfyrwyr.

d. Anableddau ac iechyd – os oes gan eich plentyn/gward unrhyw anableddau neu anawsterau iechyd neu ddysgu hirsefydlog, dylent eu nodi yn yr adran hon er mwyn i ni allu trefnu cymorth priodol iddynt. Bydd yn rhaid i’ch plentyn/gward gyflwyno tystiolaeth i ategu’r cais; os na wneir hynny mae’n bosib y bydd oedi yn y broses ac efallai na fydd eu dewis cyntaf ar gael. I ddarparu tystiolaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Hygyrchedd neu disability@aber.ac.uk neu 01970 621761. Sylwer: mae llety’n cael ei ddyrannu’n unol â’r hyn sydd ar gael, ond fe wnawn ein gorau glas bob amser i fodloni anghenion ein myfyrwyr.

e. Adolygu a chyflwyno – gwnewch yn siŵr bod eich plentyn/gward yn darllen yr holl wybodaeth y maent wedi’i rhoi er mwyn sicrhau ei bod yn gywir oherwydd ni fydd modd iddynt newid dim byd ar ôl cyflwyno’r cais.

6. Cyflwynwch y cais.

I gael gwybod mwy am wneud cais am Lety’r Brifysgol, ewch i’n tudalen sut mae gwneud cais.

Beth fydd yn digwydd ar ôl gwneud cais am lety?

Ar ôl gwneud cais am lety, bydd angen i’ch plentyn/gward aros i gael cynnig llety. Sylwer: dim ond myfyrwyr sydd wedi nodi Prifysgol Aberystwyth yn ddewis cadarn ac sydd wedi cael cynnig diamod (bydd cynnig amodol yn troi’n gynnig diamod pan fyddant wedi bodloni gofynion y cynnig) fydd yn cael cynnig llety.

1. Bydd y Cynnig Llety’n cael ei anfon drwy ebost – felly bydd angen darllen negeseuon ebost yn rheolaidd. O fis Gorffennaf ymlaen, bydd yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yn cysylltu â’ch plentyn/gward, yn eu cyfeiriad ebost preifat, i ofyn iddynt roi eu cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth ar waith. Sylwer: mae’n rhaid gwneud hyn er mwyn derbyn y cynnig llety, felly rydym yn eu cynghori i roi’r cyfrif ar waith cyn gynted ag y gofynnir iddynt wneud hynny. Os yw’r cyfrif wedi ei roi ar waith cyn iddynt gael cynnig llety, byddwn yn anfon y cynnig i’w cyfeiriad ebost Prifysgol Aberystwyth. Er hynny, mae’n werth cadw llygad ar y ddau gyfeiriad ebost rhag ofn. Sylwer: bydd eich plentyn/gward yn cael gwybod beth yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig – bydd yn dibynnu pa adeg o'r flwyddyn yw hi, ac weithiau dim ond 24 awr fydd ganddynt i ymateb.

2. Mewngofnodi i’r porth llety – ar ôl i’ch plentyn/gward gael cynnig llety, bydd angen iddynt dderbyn y cynnig drwy fewngofnodi i’r porth llety. I wneud hyn, bydd angen eu henw defnyddiwr Aberystwyth (e.e. Abc1) ynghyd â’u cyfrinair Aberystwyth.

3. Derbyn y Cynnig Llety – ar ôl mewngofnodi i’r porth llety, bydd angen i’ch plentyn/gward ddewis y flwyddyn fynediad berthnasol ac yna’r botwm cynnig llety. Yna, bydd angen iddynt lenwi’r adrannau hyn:

a. Pecyn Trwydded Llety – ar ôl i’ch plentyn/gward dderbyn y cynnig llety bydd yn rhaid iddynt gwblhau’r Pecyn Trwydded Llety. Dylent ddewis 'Pecyn Trwydded Llety’ a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir. Bydd eich plentyn/gward yn cael gwybod beth yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hyn; mae’n dibynnu pa adeg o'r flwyddyn yw hi, ac weithiau dim ond 24 awr fydd ganddynt i ymateb.

b. Llawlyfr i Breswylwyr – mae’r Llawlyfr i Breswylwyr yn darparu gwybodaeth werthfawr a chyfreithiol ynglŷn â byw mewn neuadd ac mae’n rhaid i’ch plentyn/gward ei ddarllen, ynghyd â Manylion eu Trwydded (sydd ar gael yn y cam hwn) a’r Cytundeb Trwydded Llety (sydd yng nghefn y Llawlyfr i Breswylwyr).

c. Lwfans Arlwyo – mae neuaddau arlwyo a rhan-arlwyo’n cynnwys Cynllun Prydau Bwyd, ond yn yr adran hon hefyd ceir gwybodaeth am y Cynlluniau Prydau Bwyd sydd ar gael yn yr holl lety hunanarlwyo.

d. Ffi Dderbyn – i gadarnhau eu llety bydd yn rhaid i’ch plentyn/gward dalu Ffi Dderbyn o £100 ar-lein gyda cherdyn credyd/debyd. Cânt eu cyfeirio i’n system taliadau ar-lein ddiogel lle y defnyddir manylion y cerdyn a roddir hefyd i dalu’r Ffioedd Llety.

e. Ffioedd Llety – bydd angen i’ch plentyn/gward ddewis ffordd o dalu. Mae modd talu’r Ffioedd Llety mewn un taliad neu mewn hyd at dri rhandaliad (Hydref, Ionawr a Mai). Sylwer: bydd y cerdyn a ddefnyddir i dalu’r Ffi Dderbyn o £100 yn cael ei ddefnyddio’n awtomatig i dalu’r Ffioedd Llety. Ni fydd cyfle i chi i ychwanegu cerdyn arall, felly os mai chi sy’n talu’r Ffi Dderbyn ond nad ydych eisiau talu Ffioedd Llety eich plentyn/gward, dewiswch eich cerdyn yn ofalus. I gael gwybod mwy, neu i newid eich ffordd o dalu, ewch i’n tudalen Ffioedd Llety neu cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd (01970 621583). Sylwer: er efallai mai chi fydd yn talu’r ffioedd llety, ni fyddwn yn gallu datgelu gwybodaeth am eich plentyn/gward – mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalen diogelu data.

f. Gwneud cais i fyw gyda ffrindiau – gall eich plentyn/gward lenwi ffurflen bwrpasol i wneud cais i fyw gyda ffrindiau, os yw am wneud hynny. Sylwer: bydd dyddiad cau ar gyfer gwneud hyn. Bydd angen hefyd iddynt fod wedi cael cynnig yr un math o lety er mwyn gwneud cais i fyw yn yr un fflat/tŷ ac mae’n rhaid i un ohonynt gael ei enwebu’n ‘Arweinydd y Grŵp’ er mwyn sefydlu a rheoli’r trefniant. Mae gennym lety o wahanol feintiau a fydd yn addas i bob grŵp – cymharwch ein neuaddau.

g. Cerdyn Aber – bydd angen i’ch plentyn/gward lwytho ffotograff ar gyfer eu Cerdyn Aber er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn barod iddynt pan gyrhaeddant. Byddant yn defnyddio’r Cerdyn Aber i wneud sawl peth ac mae’n bwysig iawn ei fod yn barod pan gyrhaeddant er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw oedi o ran cael symud i mewn i’w llety.

h. Rhaglen Ymgynefino (Ffurflen Rhyddhau Allwedd) – ar ddiwedd y Pecyn Trwydded Llety bydd angen i’ch plentyn/gward gwblhau ein Rhaglen Ymgynefino cyn cyrraedd ar-lein, a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iddynt ynglŷn â byw yn llety’r Brifysgol. Wrth gwblhau’r rhaglen ymgynefino fe fyddant yn cael dewis dyddiad ac amser cyrraedd ac yna cânt Ffurflen Rhyddhau Allwedd. Yna, bydd angen iddynt sicrhau bod ganddynt gopi o’r ffurflen rhyddhau allwedd (ar bapur neu’n electronig), a dod â’r ffurflen gyda nhw er mwyn cael allwedd eu hystafell. Gall eich plentyn/gward newid y dyddiad/amser drwy fewngofnodi eto i’r porth llety. Wedi gwneud hynny, bydd y system yn mynd â’ch plentyn/gward at y Ffurflen Rhyddhau Allwedd, a bydd angen copi o’r ffurflen hon arnynt er mwyn casglu eu hallwedd.

i. Mae’r Pecyn Trwydded Llety wedi’i gwblhau!

4. Symud i mewn – caiff eich plentyn/gward symud i mewn ar y dyddiad a ddewiswyd yn y Rhaglen Ymgynefino. Peidiwch â phoeni os ydych awr yn gynnar neu’n hwyr, does dim angen rhoi gwybod i ni.

I gael rhagor o fanylion, ewch i’n tudalen beth sy’n digwydd nesaf.

Paratoi i fynd i’r Brifysgol

Cyn i’ch plentyn/gward symud i’r Brifysgol, gwnewch yn siŵr bod popeth wedi’i drefnu, er enghraifft llety, cyllid myfyrwyr a chyfrif banc. Os bydd unrhyw oedi wrth drefnu cyllid myfyrwyr neu gyfrif banc mae’n bosib na fydd eich plentyn/gward yn cael yr arian mewn da bryd neu ddim o gwbl.

Gwnewch yn siŵr bod ganddynt sgiliau sylfaenol fel coginio a defnyddio peiriant golchi. Os nad oes gan eich plentyn/gward fawr o hyder wrth goginio, mae gennym lety arlwyo neu ran-arlwyo yn ogystal â chynllun prydau bwyd yn ein holl neuaddau – ewch i’n tudalen Opsiynau Llety i gael gwybod mwy.

Os nad yw eich plentyn/gward wedi byw oddi cartref o’r blaen, efallai y byddant mewn penbleth ynglŷn â beth i ddod gyda nhw. Mae lle i storio eiddo’n brin felly gwnewch yn siŵr nad ydynt yn dod â gormod o bethau! Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen arnynt a’r hyn i’w adael gartref ar ein tudalen cyn cyrraedd a gallwch hefyd argraffu ein rhestr wirio cyn cyrraedd!

Os nad yw eich plentyn/gward eisiau dod ag offer cegin trwm neu ddillad gwely gyda nhw, mae gwybodaeth ar ein tudalen Uni Kit Out ynglŷn ag archebu eitemau ymlaen llaw a fydd yn aros amdanynt yn eu llety pan gyrhaeddant.

Symud i mewn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu amser i ffwrdd o’r gwaith, os oes angen gwneud hynny, i ddod â’ch plentyn/gward i’r brifysgol. Gallant newid eu dyddiad ac amser cyrraedd (drwy fewngofnodi i’r porth llety a mynd i’r rhaglen ymgynefino) ond cofiwch na fydd modd iddynt

gyrraedd cyn dyddiad dechrau’r Drwydded heblaw eu bod wedi cael cadarnhad y cânt gyrraedd yn gynnar ar gyfer digwyddiad cymeradwy neu ymrwymiad academaidd. Cofiwch hefyd, os bydd eich plentyn/gward yn cyrraedd yn hwyrach, fod angen iddynt gysylltu â’r Swyddfa Llety i roi gwybod i ni oherwydd dim ond tan y dydd Mawrth ar ôl Penwythnos Mawr y Croeso y byddwn yn gallu cadw’r ystafell iddynt os na fyddant wedi gofyn i ni ei gadw am fwy na hynny. Er hynny, rydym yn annog myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i symud i mewn ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn Penwythnos Mawr y Croeso er mwyn gallu cymryd rhan yn yr holl weithgareddau a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr.

Yn fuan ar ôl symud i mewn, bydd eich plentyn/gward yn cael ebost yn gofyn iddynt lenwi rhestr gynnwys ar-lein. Dyma gyfle iddynt i roi gwybod i ni a oes rhywbeth ar goll neu a oes rhywbeth wedi’i farcio a/neu ei ddifrodi. Bydd ganddynt 7 diwrnod i wneud hyn, ac os na wnânt hynny byddwn yn nodi’n awtomatig fod popeth yn iawn ar y rhestr.

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd ei angen arnynt, beth i’w adael gartref, sut i gasglu allwedd eu llety a mwy o gyngor am fyw yn Llety’r Brifysgol, ewch i’n tudalen Symud i mewn neu ein Llawlyfr i Breswylwyr.

Mynd a dod

Gellir mynd a dod o’n llety gan ddefnyddio naill ai allwedd, ffob neu gerdyn mynediad (mae pob llety’n wahanol). Mae clo ar bob ystafell wely a drws fflat/tŷ. Mae system gloi hefyd ar rai o’r mannau cymunedol mwy o faint a gall eich plentyn/gward ddefnyddio’u cerdyn Aber i fynd a dod ohonynt.

Bydd angen allwedd blwch post arnynt mewn rhai neuaddau hefyd, ond mewn eraill mae’r post yn cael ei ddosbarthu’n syth drwy flwch postio’r fflat/tŷ. Sylwer: bydd rhai neuaddau lle nad oes angen allwedd, ffob neu allwedd blwch post am fod modd agor popeth â’r Cerdyn Aber.

Rydym yn darparu gwasanaeth diogelwch 24/7 sy’n cynnwys swyddogion ar droed ac mewn cerbydau o amgylch y campws a’r neuaddau. Mae ffôn mewnol ym mhob neuadd hefyd sy’n cysylltu’n awtomatig â Llinell Gymorth 24/7 Bywyd y Campws.

Os caiff eich plentyn/gward eu cloi allan, does dim angen poeni, oherwydd gallant gysylltu â’r Swyddfa Llety ar Linell Gymorth 24/7 Bywyd y Campws lle mae staff ar gael yn y dderbynfa 24/7 hefyd.

Cymorth Ychwanegol

Rydym yn deall efallai y bydd llawer o fyfyrwyr yn hiraethus a/neu’n nerfus wrth adael cartref am y tro cyntaf. Mae’n hollbwysig bod eich plentyn/gward yn gwybod y gallant siarad â chi os ydynt yn ei chael yn anodd. Ond rydym yn eich cynghori i beidio â’u gwahodd adref drwy’r amser oherwydd gallai hynny wneud pethau’n waeth; byddwch yn gefnogol a chynigiwch arweiniad ac ambell i air i gall i’w helpu i deimlo’n fwy cyfforddus.

Rhestrir isod rywfaint o’r cymorth ychwanegol sydd ar gael i’ch plentyn os bydd ei angen:

  • Swyddfa Llety – 01970 62284, accommodation@aber.ac.uk. Mae’r swyddfa ar agor o Dydd Llun i Dydd Lau 8.30-17.00 a Dydd Gwener 8.30-16:30.
  • Llinell Gymorth 24/7 Bywyd y Campws – 01970 622900, lle mae staff ar gael yn y dderbynfa 24/7 hefyd. * Cymorth i Fyfyrwyr – 01970 621761 neu 01970 622087, student-support@aber.ac.uk.
  • Lles Myfyrwyr – 01970 622087, studentwellbeing@aber.ac.uk.
  • Nawdd Nos – 01970 622166.

Fe ddylai eich plentyn/gward wybod hefyd nad oes raid iddynt yfed yn ystod yr wythnos ymgartrefu ac na ddylent deimlo pwysau i wneud hynny. Yn anad dim, diben yr wythnos ymgartrefu yw rhoi cyfle i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf i ddod i arfer â bywyd yn y Brifysgol, gwneud ffrindiau a dod i adnabod eu cartref newydd. Mae digonedd o weithgareddau ar gael iddynt – does dim rhaid yfed ym mhob un a bydd rhywbeth at ddant pawb.

Byw yn ein Llety

Ar ein tudalen Llety mae adran Byw yn un o’r Neuaddau sy’n rhoi gwybodaeth i’w helpu tra byddant yn byw yn Llety’r Brifysgol, er enghraifft: amseroedd gwres a dŵr, sut i ddefnyddio’r offer trydanol sydd yn y fflat/tŷ, dyddiadau archwiliadau, sut i ddefnyddio’r adnoddau glanhau dillad a sut i gofrestru ymwelydd.

Post:

Mae’r adran ar fyw yn un o’n neuaddau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau post. Mae’n dweud beth yw eu cyfeiriad postio a sut i gasglu llythyrau a pharseli. Yn anffodus, ni allwn dderbyn post ar eu rhan felly gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad iawn gennych wrth anfon post atynt.

Cofnodi Nam:

Pan fydd eich plentyn/gward yn symud i mewn i’w llety newydd, mawr obeithiwn y bydd popeth yn cyrraedd safon uchel. Er hynny, tra byddant yn byw gyda ni, mae’n bosib y byddant yn dechrau gweld ôl traul ar bethau. Os oes rhywbeth yn bod yn eu llety, mae angen i’ch plentyn/gward wybod sut i roi gwybod i ni am hynny. Gallant roi gwybod am unrhyw faterion cynnal a chadw drwy lenwi ffurflen cofnodi nam.

Gwneud Cais i Symud:

Gobeithiwn yn bydd eich plentyn/gward yn hapus yn eu llety. Er hynny, yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd, bydd modd iddynt wneud cais i symud i rywle arall os ydynt yn anhapus yn eu llety.

Symud allan

Bydd yn rhaid i’ch plentyn/gward sicrhau cyn gadael eu bod wedi glanhau eu hystafell i’r un safon ag yr oedd pan symudon nhw i mewn, ac mae hynny’n cynnwys y mannau cymunedol a’r cyfleusterau en-suite. Bydd angen sicrhau hefyd fod yr holl eitemau ar y rhestr gynnwys (gan gynnwys y gorchudd matres) yn dal yn yr ystafell/man cymunedol ac mae’n rhaid

iddynt fod mewn cyflwr da, heb eu difrodi. Ar ôl iddynt adael, cynhelir archwiliadau i weld pa mor lân yw’r ystafell/man cymunedol a beth yw cyflwr yr eitemau ar y rhestr gynnwys. Os byddwn yn meddwl bod rhywbeth yn fudr neu os gwelwn ddifrod, mae’n bosib y byddwn yn codi tâl am hynny.

Mae’n RHAID i’ch plentyn/gward gofnodi eu bod yn gadael p’un a oes ganddynt allwedd ai peidio. Mae’n rhaid iddynt ddychwelyd eu hallweddi os oes ganddynt rai, ond hyd yn oed os nad oes ganddynt allweddi, mae angen iddynt ddod i lofnodi i ddweud eu bod yn gadael er mwyn i ni wybod bod yr ystafell yn wag. Does dim angen iddynt roi gwybod i ni ymlaen llaw eu bod yn symud allan, dim ond iddynt ddod i’r Swyddfa Llety, y Sgubor, Fferm Penglais yn ystod oriau swyddfa (Dydd Llun i Dydd Lau 8.30-17.00 a Dydd Gwener 8.30-16:30) neu i Dderbynfa’r Campws, Campws Penglais, y tu allan i’r oriau hynny.

Bydd blaendal eich plentyn/gward yn cael ei ddychwelyd ymhen 28 diwrnod wedi i’r Drwydded ddod i ben. Bydd unrhyw daliadau a godwyd arnynt tra oeddent yn byw gyda ni neu ar ôl iddynt symud allan yn cael eu tynnu o’r blaendal hwn. Er mwyn derbyn y blaendal yn ôl, bydd angen i’ch plentyn/gward roi eu manylion banc i ni drwy eu cofnod myfyriwr. Anfonir ebost atynt cyn y dyddiad pan fo disgwyl iddynt adael yn eu hatgoffa i wneud hyn.

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ailgyfeirio post eich plentyn/gward ar ôl iddynt adael, felly mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn newid eu cyfeiriad neu’n gwneud trefniadau priodol megis drwy wasanaeth ailgyfeirio’r Post Brenhinol.

I gael gwybod mwy am symud allan, ewch i’n tudalen symud allan.

Llety Haf

Os na all eich plentyn/gward fynd adref dros yr haf, neu os nad yw eisiau gwneud hynny, mae gennym rai lleoedd yn ein Llety Haf.

I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Llety Haf.

Llety’r flwyddyn nesaf

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn falch o gynnig llety’r Brifysgol, neu lety a reolir gan y Brifysgol, i’n holl fyfyrwyr, p’un a ydynt ym mlwyddyn 1af eu hastudiaethau, neu’r 2il, y 3edd neu hyd yn oed y 4edd – heb orfod talu blaendal arall!*

Yn draddodiadol, mae myfyrwyr yn dechrau chwilio am rywle i fyw o fis Tachwedd ymlaen yn barod at fis Medi y flwyddyn wedyn, sy’n rhoi digon o amser i chi i benderfynu ble i fyw a gyda phwy.

Unwaith y byddwch wedi llofnodi cytundeb llety (ac wedi talu unrhyw flaendal sy’n ddyledus) mae’n anodd iawn, ac weithiau’n amhosib, newid eich meddwl, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth cyn penderfynu.

* Os ydych eisoes wedi talu blaendal i ni byddwn yn cadw beth bynnag sy’n weddill ohono ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf – ond os yw’r swm sy’n weddill yn is na’r £100 angenrheidiol bydd angen i chi dalu’r gweddill.

Pam ddylai eich plentyn/gward ddod yn ôl atom i fyw?

  • Hyd yn oed os byddant yn gwneud cais, fyddan nhw ddim wedi ymrwymo i’r drwydded hyd nes iddynt gadarnhau eu lle yn nes ymlaen.
  • Mae’r biliau ynni i gyd wedi’u cynnwys, ynghyd â chyswllt gwifredig a di-wifr cyflym â’r we ac yswiriant eiddo personol.
  • Fe gânt aelodaeth blatinwm yn rhad ac am ddim o’r ganolfan chwaraeon i hybu eu hiechyd a’u lles!
  • Fe gânt fyw gyda’u ffrindiau mewn fflat/tŷ 2-10 ystafell wely, heb fod yn gymysg â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf.
  • Llety ar/ger y campws ac yn y dref.
  • Adnoddau golchi dillad ar y safle, cymorth 24/7 gan gynnwys derbynfa lle mae staff ar gael a chanolfannau dysgu lle y gall eich plentyn/gward fynd i weithio, ymlacio a chymdeithasu.
  • Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety.
  • Cytundebau un drwydded – nid ar y cyd ac unigol.
  • Does dim angen ‘gwarantwyr’ – ac felly fyddwch chi ddim yn atebol os na fydd eich plentyn/gward yn talu’r rhent.
  • Gwahanol gyfnodau ar gael ar gyfer y drwydded ynghyd â Llety Haf.

Gallwch gymharu prisiau Llety’r Brifysgol â phrisiau’r sector preifat drwy ddefnyddio ein tabl cymharu!

I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Myfyrwyr Presennol.

Dyddiadau Allweddol

Cyfeiriwch at Dyddiadau i'ch Dyddiadur ar gyfer eich adran Dyddiadur ar ein gwefan

Gwybodaeth Ychwanegol

Gweler y Canllawiau i Rieni Israddedigion hefyd am ragor o wybodaeth a chanllawiau am ddechrau yn y Brifysgol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sydd heb eu hateb am Lety’r Brifysgol, gweler ein Cwestiynau Cyffredin neu ffoniwch 01970 622984.

Am y newyddion diweddaraf am bopeth sy’n ymwneud â llety, dilynwch ein tudalen ar Facebook.