Cynllun Gosod Ystafell
Benthyciad di-log ar gael i staff sy'n rhan o'r Cynllun Gosod Ystafell
Yn syml, yr hyn yw cynllun gosod ystafell yw pan fo aelod o staff yn fodlon darparu ystafell wely yn eu tŷ i fyfyriwr am y sesiwn gyfan neu am ran o'r sesiwn.
Hoffai'r Brifysgol gynorthwyo staff sydd â diddordeb mewn darparu ystafell i fyfyriwr drwy sicrhau bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol er enghraifft desg, cwpwrdd dillad, lampau, hysbysfwrdd, gwely o faint addas ag ati. Er mwyn cefnogi staff i wneud hyn, mae'r Brifysgol yn cynnig benthyciad di-log hyd at £2,000 gyda'r ad-daliadau yn cael eu tynnu o'ch cyflog dros gyfnod o flwyddyn. Gall unigolion sy'n manteisio ar y Cynllun Gosod Ystafell hefyd elwa ar incwm o hyd at £4,250 yn ddi-dreth.
1. Hoffwn i roi llety i fyfyriwr ond mae angen cyngor arnaf.
Cysylltwch â'r Swyddfa Llety os gwelwch yn dda drwy ffonio 2984 neu e-bostio accommodation@aber.ac.uk, a gadewch eich rhif gan ddatgan eich diddordeb yn y Cynllun Gosod Ystafell a byddwn yn eich ffonio yn ôl. Gall y Swyddfa Llety roi ffurflen gofrestru i chi i ni ychwanegu eich llety i'r gronfa ddata a rhoi cyngor defnyddiol arall fel y rhestr o'r cynnwys sydd angen ar yr ystafell. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol a dogfennau i'w lawr lwytho ar www.aber.ac.uk/cy/accommodation/private-sector/.
2. Hoffwn i roi llety i fyfyriwr ond rwyf angen gwario arian er mwyn gwneud y ddarpariaeth yn dderbyniol.
Cysylltwch â'r Swyddfa Llety os gwelwch yn dda drwy ffonio 2984 neu e-bostio accommodation@aber.ac.uk, a gadewch eich rhif gan ddatgan eich diddordeb yn y Cynllun Gosod Ystafell a byddwn yn eich ffonio yn ôl. Gall y Swyddfa Llety roi ffurflen gais i chi ofyn am fenthyciad a gall rhoi cyngor am yr eitemau sydd eu hangen mewn ystafell er mwyn bodloni rhestr o gynnwys angenrheidiol. Os hoffech drafod y trefniadau ariannol gyda'r Swyddfa Gyllid yn uniongyrchol cysylltwch â Stephen Humphreys ar tsh@aber.ac.uk neu ffoniwch 8656. Gofynnir i chi wneud rhestr â chostau o'r holl gelfi ac addasiadau y credwch sydd eu hangen ar yr ystafell. Bydd y swm benthyg yn cael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Llety ac fe'i hanfonir ymlaen at y Swyddfa Gyllid. Telir y swm benthyg drwy'r Adran Taliadau drwy BACS i'r cyfrif banc a enwebwyd ar gofnodion Cyflogres yr ymgeisydd, ac fe ad delir y benthyciad drwy ddidynnu o'ch cyflog yn awtomatig dros gyfnod o ddeuddeg mis.
3. Rwy'n barod i gynnig ystafell gwely yn fy nhŷ, beth ddylwn i wneud nesaf?
Cysylltwch â'r Swyddfa Llety os gwelwch yn dda drwy ffonio 2984 neu e-bostio accommodation@aber.ac.uk, a gadewch eich rhif gan ddatgan eich diddordeb yn y Cynllun Gosod Ystafell a byddwn yn eich ffonio yn ôl. Gall y Swyddfa Llety roi ffurflen gofrestru i chi i ni ychwanegu eich llety i'r gronfa ddata a rhoi cyngor defnyddiol arall fel y rhestr o'r cynnwys sydd angen ar yr ystafell. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol a dogfennau i'w lawr lwytho ar www.aber.ac.uk/cy/accommodation/private-sector/.
4. Mae gennyf ddiddordeb mewn darparu ystafell am gyfnodau byr ond nid am y sesiwn academaidd gyfan.
Mae'r Brifysgol angen llety tymor byr ar gyfer myfyrwyr TAR. Os nad ydych am rentu ystafell am y sesiwn academaidd gyfan ond mae gennych ddiddordeb mewn gwneud incwm drwy gynnig ystafell am gyfnod(au) byr drwy'r flwyddyn yna efallai mai hyn sy'n addas i chi. Sylwer os gwelwch yn dda bod y cynnig o fenthyciad di-log gan y Brifysgol yn berthnasol i'r rheini sy'n cynnig ystafelloedd am y sesiwn academaidd gyfan yn unig. Er mwyn cofrestru ar gyfer cynnig llety byr dymor cysylltwch ag Ursula Byrne drwy e-bost - uub@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621678.
5. Rwy wedi clywed ei fod yn bosibl elwa yn ddi-dreth os ydw i'n rhentu ystafell yn fy eiddo. Ble ddylwn i edrych nesaf?
Bydd pobl sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Gosod Ystafell yn gallu bod yn gymwys i'w heithrio rhag talu treth hyd at uchafswm o £4,250 o'r Cynllun Gosod Ystafell (gweler.http://www.hmrc.gov.uk/manuals/pimmanual/pim4001.htm am fwy o fanylion).