Myfyrwyr sydd â Dibynyddion
Mae’r Brifysgol yn berchen ar nifer fechan o fflatiau ar gyfer myfyrwyr sydd â theuluoedd: ceir rhestr aros ar gyfer y rhain fel arfer.
Am fwy o wybodaeth am yr eiddo hwn cysylltwch â’r Swyddfa Llety os gwelwch yn dda.
Y Sector Breifat.
Mae gan y Swyddfa Llety gronfa ddata o gyfeiriadau sy’n addas i fyfyrwyr, ac fe’i diweddarir yn gyson. Mae’r gronfa yn cynnwys lojins traddodiadol, a llety hunanarlwyo sef fflatiau, fflatiau un ystafell, tai a rennir ac ystafelloedd gwely astudio sengl gyda chyfleusterau coginio.