Myfyrwyr newydd – Beth fydd yn digwydd nesaf?

Myfyrwyr newydd – Beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl gwneud cais am Lety yn y Brifysgol?
Mae Llety yn cael ei rannu yn gyfrifiadurol ar sail y cyntaf i’r felin, yn nhrefn y dyddiad a’r amser y cyflwynoch eich cais am lety yn llwyddiannus ar-lein, yn nhrefn blaenoriaethau a nodir yn ein Polisi Blaenoriaethau.
Byddwn yn neilltuo lle i chi mewn neuadd, gan gymryd i ystyriaeth eich dewisiadau a byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig un o’ch prif ddewisiadau i chi. Fodd bynnag, oherwydd bod y neuaddau yn amrywio o ran y nifer o fyfyrwyr y gellir eu derbyn a bod rhai ohonynt yn fwy poblogaidd nag eraill, ni ellir sicrhau y byddwch yn cael lle yn un o’ch prif ddewisiadau. Os nad oes lle gwag yn eich dewis cyntaf o neuadd, byddwn yn ystyried pob un o’ch dewisiadau eraill yn nhrefn eu blaenoriaeth nes dod o hyd i le gwag.
Pa bryd byddaf yn gwybod pa fath o lety sydd wedi’i gynnig i mi?
Anfonir cynigion llety yn ddyddiol (dydd Llun - Gwener) cyhyd â’ch bod:
- wedi dewis Prifysgol Aberystwyth yn ddewis Cadarn
- wedi gwneud cais am lety Prifysgol
- wedi cael cynnig Di-amod ac wedi derbyn eich lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Os oes gennych gynnig Amodol fe fydd hwn yn datblygu’n gynnig Di-amod ar ôl ichi gael canlyniadau eich arholiadau, cyhyd â bod y canlyniadau hyn yn cwrdd â gofynion eich cynnig academaidd.
Dil'ynwch y canllaw cam wrth gam ar ôl i chi dderbyn eich cynnig llety:
Cam 1
Cam 2
Cam 3
Cam 4
*Diffiniadau
Beth yw’r Porthol Llety?
Gwasanaeth ar-lein er mwyn gwneud cais a sicrhau llety ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r Porthol Llety.
Beth yw Cynnig Llety?
Bydd eich cais am lety yn cael ei brosesu ac, os yw’n llwyddiannus, anfonir cynnig o lety atoch. Fe’i hanfonir atoch drwy e-bost a bydd yn cynnwys enw’r neuadd (e.e. Cwrt Mawr, Penbryn) a’r math o ystafell (e.e. sengl, en-suite) sydd wedi’i neilltuo ar eich cyfer, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â pha bryd a sut i dderbyn y cynnig.
Dylech nodi y byddwch yn derbyn dyddiad penodol ar gyfer ymateb i’ch cynnig a chwblhau’r Pecyn Trwydded Llety, fel arfer rhwng 7 a 14 diwrnod. Fodd bynnag, bydd yr amser yn dibynnu’n fawr ar adeg y flwyddyn felly gall fod disgwyl i rai cynigion gael eu derbyn ymhen cyn lleied â 24 awr, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n EDRYCH AR EICH NEGESEUON E-BOST YN RHEOLAIDD (eich cyfeiriad e-bost PA os ydych wedi ei gysylltu).
Beth yw Pecyn Trwydded Llety?
Ar ôl ichi dderbyn eich cynnig o lety, gofynnir ichi gwblhau’r Pecyn Trwydded Llety. Mae hwn yn cynnwys telerau ac amodau eich cytundeb llety (a welir yn y Llawlyfr Llety), ein system dalu ar-lein ar gyfer talu’r ffi dderbyn o £100 a sefydlu cynllun talu ar gyfer eich ffïoedd llety, yn ogystal â gwybodaeth am fyw yn neuaddau’r Brifysgol.