Cod Ymarfer Prifysgolion y DU
Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o God Ymarfer Prifysgolion y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr a Reolir gan Brifysgolion.
Bwriedir i’n haelodaeth o’r cod ymarfer gadarnhau ein hymrwymiad i arferion gorau o ran rheoli llety myfyrwyr a helpu Prifysgol Aberystwyth i fodloni’i gofynion cyfreithiol statudol. Mae’r cod ymarfer yn berthnasol i’r holl lety preswyl yr ydym yn berchen arno, yn ei brydlesu ac yn ei reoli.