- Adref »
- Swyddfa Llety »
- Gwybodaeth Cyffredinol »
- Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin
-
Sut alla i dalu fy ffioedd llety?
Mae gennych ddau ddewis o ran talu eich Ffioedd Llety.
Gallwch wneud un taliad am y flwyddyn gyfan cyn dechrau’r sesiwn academaidd neu ar ddechrau’r cyfnod preswylio, yn unol â’r Cytundeb Trwydded, drwy gyfrwng arian parod, siec (yn daladwy i ‘Brifysgol Aberystwyth’), cerdyn credyd/debyd neu drosglwyddiad banc.
Gallwch wneud taliadau Debyd Uniongyrchol o gyfrif banc yn y DU naill ai:
- drwy 3 thaliad cyfartal ym mis Tachwedd, mis Ionawr a mis Ebrill, neu
- drwy 7 taliad misol o fis Tachwedd tan fis Mai. Bydd symiau’r taliadau misol yn seiliedig ar y ffi flynyddol wedi’i rhannu gan gyfanswm y taliadau (hyd at 7).
-
Beth ddylwn i ei wneud os nad oes modd i mi dalu'r ffioedd llety?
Os nad oes modd i chi dalu’ch ffioedd llety am unrhyw reswm, dylech gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ar unwaith drwy ffonio (01970) 621 583 neu e-bostio: fees@aber.ac.uk
-
Beth sydd wedi'i gynnwys yn y ffi llety?
Mae’r Ffi Llety’n cynnwys trydan, nwy a dŵr. Mae hefyd yn cynnwys cyswllt at rwydwaith cyfrifiadurol y Brifysgol ac Yswiriant Eiddo Personol i’r Myfyrwyr. O ran Penbryn a Phantycelyn, mae’r Ffi Llety’n cynnwys lwfans prydau bwyd a delir ymlaen llaw. Caiff hwn ei roi ar Gerdyn Lletygarwch y myfyriwr.
-
Oes angen yswiriant arnaf i?
Fel rhan o’ch pecyn llety, bydd eich eiddo personol yn cael ei ddiogelu gan gynllun yswiriant neilltuol (polisi cyffredinol) a drefnwyd gydag Endsleigh. Cafodd y polisi hwn ei negodi’n arbennig gan Brifysgol Aberystwyth i sicrhau arbedion sylweddol o ran y premiwm. Mae’r holl fanylion am y sicrwydd yswiriant a negodwyd gan Brifysgol Aberystwyth ar gael yn www.studentroomcover.co.uk (cliciwch ar “Cover Already Arranged by my Accommodation Provider”), ynghyd â manylion am sut i gyflwyno hawliad a sut i gynyddu lefelau’r yswiriant os ydych yn credu bod angen gwneud hynny. Er bod ein polisi cyffredinol yn darparu yswiriant cynhwysfawr, efallai y byddwch yn sylwi nad yw rhai categorïau’n bodloni’ch gofynion penodol chi. Os felly, gallwch ychwanegu at yr yswiriant drwy dalu premiwm ychwanegol i Endsleigh. Gallwch drefnu i wneud hyn ar-lein yn www.studentroomcover.co.uk neu drwy ffonio 0800 028 3571.
-
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn colli fy allweddi?
Cysylltwch â derbynfa eich Preswylfa cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli eich bod wedi colli’ch allweddi. Os byddwch wedi colli eich allweddi neu os na fyddwch yn gallu dod o hyd iddynt, bydd gofyn i chi dalu tâl safonol i gael allwedd newydd, sef £30.00 am bob allwedd ar hyn o bryd.
-
Allai i weld fy ystafell cyn dechrau'r tymor?
Yn anffodus, ni allwn ganiatáu i fyfyrwyr newydd weld eu hystafelloedd yn llety’r Brifysgol cyn iddynt gyrraedd ar ddechrau’r tymor.
-
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn colli fy ngherdyn teyrngarwch?
Rhowch wybod ar unwaith i’r Swyddfa Cardiau Teyrngarwch (01970) 621942 neu wrth Reolwr Lletygarwch sydd ar ddyletswydd.
Llenwch ffurflen Cerdyn Teyrngarwch newydd – mae’r rhain ar gael o Reolwyr Lletygarwch sydd ar ddyletswydd.
Os ydych wedi colli neu ddifrodi’ch Cerdyn Teyrngarwch, bydd gofyn i chi dalu ffi weinyddol o £5 i gael cerdyn newydd. Gallwch dalu’r ffi drwy arian parod neu gerdyn credyd ym mwyty Tamed Da.
Os oedd eich Cerdyn Teyrngarwch yn eich waled neu’ch pwrs pan gafodd ei ddwyn, rhaid i chi roi gwybod i’r heddlu a chael rhif trosedd/digwyddiad. Os cafodd eich Cerdyn Teyrngarwch ei ddwyn a bod gennych rif trosedd/digwyddiad dilys a’ch bod yn llenwi ffurflen gais, ni fydd rhaid i chi dalu’r ffi o £5 i gael cerdyn newydd.
-
Allaf i symud i neuadd/bloc/ystafell arall?
Rhaid i unrhyw breswyliwr sydd am symud i ystafell wag mewn unrhyw lety y mae’r Brifysgol yn berchen arno, neu’n ei reoli, drafod y mater gyda’r Swyddfa Llety.
- Rhaid i’r holl bobl berthnasol fynd gyda’i gilydd i’r Swyddfa Llety i lenwi’r ffurflenni gofynnol a llofnodi cytundeb trwydded newydd.
- Gall fod gofyn i’r myfyriwr dalu ffi weinyddol o £25.00.
-
Allaf i symud o'r breswylfa?
Os bydd preswyliwr am adael Preswylfa er mwyn symud i lety yn y sector preifat, rhaid iddo ddod o hyd i fyfyriwr addas sy’n dderbyniol i Brifysgol Aberystwyth i gymryd ei le, a hynny er mwyn trosglwyddo’r cytundeb trwydded â’r Brifysgol iddo.
- Rhaid i’r holl bobl berthnasol fynd gyda’i gilydd i’r Swyddfa Llety i lenwi’r ffurflenni perthnasol.
- Rhaid i’r myfyriwr sy’n symud i’r Neuadd dalu’r ffi dderbyn ofynnol a llofnodi cytundeb trwydded.
- Gall fod gofyn i’r sawl sy’n gadael yr ystafell dalu ffi weinyddol o £25.00.
-
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn gadael y Brifysgol?
Myfyriwr sy’n gadael ei gwrs:
Os ydych yn ystyried gadael y Brifysgol, boed hynny dros dro neu’n barhaol, mae’n bwysig eich bod yn pwyso a mesur pob opsiwn gyda’ch Adran a staff y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Os byddwch yn penderfynu gadael dylech:
- Roi gwybod i’r Swyddfa Llety eich bod yn bwriadu gadael y Neuadd Breswyl y mae’r Brifysgol yn berchen arni neu’n ei rheoli, llenwi’r ffurflenni ymadael gofynnol a darparu’r dogfennau priodol gan Swyddfeydd perthnasol y Brifysgol. Codir tâl hyd nes bod rhybudd o’r fath wedi dod i law.
-
Beth fydd ei angen arnaf?
Yn ychwanegol at eich eiddo personol, bydd angen i chi ddod â phethau gwely a thywelion. Dylai myfyrwyr mewn preswylfeydd hunanarlwyo hefyd ddod ag offer coginio (h.y. sosbenni ac ati) ac offer bwyta (h.y. cyllyll a ffyrc, cwpanau, platiau ac ati). Gall Click2Campus ddarparu a dosbarthu pecynnau dillad gwely, pecynnau cegin a phecynnau astudio. Efallai y bydd myfyrwyr mewn neuaddau arlwyo am ddod ag ychydig o bethau gyda nhw i baratoi byrbrydau (h.y. cyllyll a ffyrc, cwpanau a phlatiau).
-
Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd fy arhosiad?
Dylech adael eich llety erbyn 10am ar ddiwrnod olaf eich Trwydded. Cofiwch sicrhau eich bod yn gadael eich ystafell mewn cyflwr tebyg i’w chyflwr pan fu i chi gyrraedd, oherwydd gall fod gofyn i chi dalu tâl glanhau. Edrychwch o dan y gwely a’r fatres, ar ben y cwpwrdd dillad/droriau a thu mewn iddynt, i sicrhau nad oes unrhyw eiddo personol yno. Cewch wybod cyn diwedd y tymor i ble ddylech ddychwelyd eich allwedd.
-
Allaf i gael teledu yn fy ystafell?
Gallwch, ond mae’n rhaid i unrhyw un sy’n berchen ar set deledu, yn ei rhentu neu’n ei benthyg gael Trwydded Deledu bersonol yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn berthnasol i unigolion sydd wedi dod â setiau teledu o’u cartrefi i’w defnyddio yn eu hystafelloedd gwely neu mewn ardaloedd cyffredin. Mae methu â phrynu Trwydded Deledu yn drosedd droseddol. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn prynu Trwydded Deledu cyn gynted â phosib ar ôl i chi gyrraedd eich Preswylfa os oes gennych eich set deledu eich hun, neu os ydych yn rhentu neu’n benthyg set deledu.
-
Pwy sy'n gyfrifol am lanhau f'ystafell a fflat?
Mae cyfrifoldeb unigol ar breswylwyr fflatiau neu dai i gadw eu hystafelloedd gwely’u hunain yn lân ac yn ddiogel (gan gynnwys offer ystafell ymolchi mewn ystafelloedd gwely en-suite); ac mae cyfrifoldeb cyffredinol arnyn nhw a phreswylwyr eraill y fflat/tŷ i gadw’r holl ardaloedd cyffredin fel ceginau/ystafelloedd bwyta, ystafelloedd ymolchi a choridorau yn lân ac yn ddiogel, a hynny er mwyn cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a’r Cytundeb Trwydded Llety. Awgrymwn fod y myfyrwyr yn trefnu rotas glanhau ar gyfer ardaloedd cyffredin eu fflatiau neu’u tai. Ni ddylech gadw drysau tân ar agor na gosod rhwystrau o’u blaen, ac ni ddylech rwystro llwybrau ymadael mewn argyfwng ‘chwaith gyda sbwriel neu feiciau ac ati.
-
Allaf i goginio yn f'ystafell?
Ni chewch goginio yn eich ystafell o dan unrhyw amgylchiadau. Ni ddylech ddod â pheiriannau fel microdon, tostiwr, micro-bopty, sosban araf, ffrïwr dwfn, sosban reis, tostwyr brechdanau a thegell i’r neuadd i’w defnyddio yn eich ystafell neu’ch cegin.
-
Allaf i smygu yn f'ystafell/neuadd?
Mae smygu wedi’i wahardd o holl adeiladau’r Brifysgol, pob mynedfa sy’n rhannol gaeedig, yn union tu allan i bob mynedfa a mannau eraill lle gallai mwg fynd i mewn i adeilad. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r polisi hwn, bydd yn arwain at gamau disgyblu. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ystafelloedd gwely astudio wedi’u neilltuo ar gyfer smygwyr. Mae’r polisi uchod yn berthnasol i bob Preswylfa.
-
Pwy ddylwn i ei ffonio mewn argyfwng?
Ffoniwch y rhif argyfwng 24 awr (01970) 62 2900 (allanol / symudol) neu 2900 (mewnol) neu ffoniwch 999
-
Ble allaf i fyw y flwyddyn nesaf?
Preswylfeydd y Brifysgol
Rydym yn neilltuo nifer o welyau i fyfyrwyr sy’n dychwelyd ac sy’n bwriadu parhau i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth am flwyddyn arall. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i fyfyrwyr blwyddyn olaf. Mae’r ceisiadau’n agor diwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr bob blwyddyn a byddwn yn rhoi gwybod am yr union ddyddiadau a sut i ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein yn y negeseuon e-bost wythnosol i fyfyrwyr. Byddwn yn ystyried pob ffurflen gais gywir sy’n dod i law cyn y dyddiad cau ac yn ymateb iddynt, fel rheol rhwng diwedd mis Ionawr a dechrau mis Chwefror bob blwyddyn.
Llety’r Sector Preifat
Peidiwch â brysio i lofnodi contract am lety preifat hyd nes eich bod wedi sefydlu’ch grwpiau ffrindiau a mynd i un o’r sgyrsiau Chwilio am Dŷ. Cewch fanylion am y sgyrsiau hyn yn y negeseuon e-bost wythnosol.
Cewch hyd i’n cronfa ddata o lety cofrestredig yn y sector preifat yn:
Mae cyngor ar gael gan y Swyddfa Llety ar unrhyw fater sy’n ymwneud â Llety’r Sector Preifat.
-
Oes gennych gwestiwn arall?
Anfonwch eich cwestiwn atom mewn e-bost at y Swyddfa Llety; gallwn ateb eich cwestiwn a diweddaru’r dudalen Cwestiynau Cyffredin.