Parcio Beiciau'n Ddiogel
Cais am le diogel dan do i barcio beic yng Nghwrt Mawr, Rosser a Threfloyne ac ym Mhenbryn
Mae’r Brifysgol yn mynd ati i annog myfyrwyr preswyl i ddefnyddio beiciau fel dull o deithio ac mae wrthi’n datblygu’r ddarpariaeth o leoedd parcio beiciau dan do diogel. Mae’r ddwy storfa gyntaf ar gael erbyn hyn ym Mloc Cyffredin CMRT ac ym Mhenbryn. Os ydych yn byw yn CMRT neu Benbryn, mae croeso i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am un o’r nifer cyfyngedig o leoedd.
Os byddwch yn penderfynu dod â’ch beic i’r Brifysgol, cofiwch y bydd angen i chi drefnu yswiriant ar wahân, oherwydd ni fydd yswiriant Endsleigh ar gyfer cynnwys eich ystafell yn cwmpasu eich beic os caiff ei ddwyn neu’i ddifrodi. Yn unol â rheoliadau tân y Brifysgol a’ch trwydded llety, ni chaniateir i chi gadw beic yn eich ystafell wely, yn yr ardaloedd cyffredin ac ar hyd llwybrau ymadael mewn argyfwng, gan gynnwys coridorau, grisiau a mynedfeydd. Bydd staff y Gwasanaethau Preswyl a Chroeso yn symud unrhyw feic sy’n cael ei ganfod mewn unrhyw ran o’r Neuadd, a bydd rhaid talu ffi i’w gael yn ôl. Nid oes tâl am y cyfleuster hwn am y sesiwn a bydd y ddarpariaeth yn para hyd at ddiwedd cyfnod y drwydded ym mhob blwyddyn academaidd.
Sut i wneud cais
I wneud cais, gallwch lawrlwytho, argraffu a llenwi copi caled o’r ffurflen gais a’i rhoi/hanfon i Dderbynfa’r Swyddfa Llety ym Mhenbryn. Sylwch mai’r Swyddfa Llety ym Mhenbryn (ac nid Swyddfa CMRT) sy’n gweinyddu’r cynllun. Bydd angen gwneud trefniadau ar wahân i ddefnyddio’r storfeydd dros wyliau’r haf.