Rhwydwaith

Ym mhob ystafell wely, mae cyswllt rhwydwaith ar gael sy’n sicrhau mynediad cyflym drwy rwydwaith academaidd JANET. Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu’n bennaf at ddibenion academaidd ac mae’r holl ddefnydd ohono’n cael ei reoli gan reoliadau a chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth:
http://www.inf.aber.ac.uk/cy/is/regulations/

Er mwyn cysylltu â’r rhwydwaith, bydd angen i chi sicrhau bod gan eich cyfrifiadur

  • gerdyn ethernet (fe’i darperir yn safonol fel rheol)
  • cebl rhwydwaith (RJ45) – mae’r rhain ar gael i’w prynu ar y campws am £2

Bydd angen i fyfyrwyr newydd roi eu cyfrif e-bost ym Mhrifysgol Aberystwyth ar waith, a byddwch yn derbyn e-bost yn ystod yr wythnosau cyn i chi gyrraedd gyda chyfarwyddiadau am sut i wneud hyn: https://myaccount.aber.ac.uk/open/activate/index.php

Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr osod eu cyfrifiaduron i’w defnyddio ar ein rhwydwaith. Mae’r holl gyfarwyddiadau ar gael ar y dudalen hon: http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/cymraeg/faq/138

Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg cyn i chi gyrraedd

Os nad chewch gyfle i osod eich cyfrifiadur ymlaen llaw, bydd cyfarwyddiadau ar gael yn nerbynfa eich neuadd pan fyddwch yn cyrraedd a bydd cymorth ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen os bydd angen: http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/faq/320/

Mae cyfrifiaduron ar gael i’w defnyddio mewn ystafelloedd cyfrifiaduron (gyda rhai ohonynt ar agor 24/7) ym:

  •  Mhentre Jane Morgan

  • Cwrt Mawr/Rosser/Trefloyne
 
  • Pantycelyn

  • Penbryn



Ymhlith y cyfleusterau mae:

  • Wi-Fi
  • Cyfrifiaduron gyda Windows 7 ac Office 2007 
  • Sgriniau fflat, gyriannau DVD a phyrth USB 
  • Peiriannau argraffu/copïo

Mae cyfleusterau ar gyfer gwaith grŵp a pheiriannau gwerthu ar gael yn y Lolfa @ Rosser a’r Lolfa @ PJM. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01970 62 2400 neu e-bostiwch is@aber.ac.uk.