Yswiriant

Yswirio eiddo personol

Fel rhan o’ch pecyn llety, bydd cynllun yswiriant neilltuol (polisi cyffredinol), a drefnwyd gydag Endsleigh, yn diogelu eich eiddo. Cafodd y polisi’i negodi’n arbennig gan Brifysgol Aberystwyth i sicrhau arbedion sylweddol o ran y premiwm. Mae’r holl fanylion am yr yswiriant a negodwyd gan Brifysgol Aberystwyth, ynghyd â manylion am sut i wneud hawliad a sut i gynyddu lefelau’r yswiriant os oes angen, ar gael yn: www.endsleigh.co.uk

Er bod ein polisi cyffredinol yn darparu yswiriant cynhwysfawr, efallai y byddwch yn sylwi ar gategorïau nad ydynt yn ddigonol i fodloni’ch gofynion arbennig chi. Os felly, gallwch gynyddu lefelau’r yswiriant drwy dalu premiwm ychwanegol i Endsleigh. Gallwch drefnu i wneud hyn ar-lein neu drwy ffonio 0800 0283571.



Mae llawer o Bolisïau Yswiriant Cartref yn cynnwys estyniadau i yswirio eiddo myfyrwyr pan fyddant oddi cartref yn y Brifysgol. Gallai Polisïau Yswiriant Cartref o’r fath “wneud iawn” am unrhyw ddiffygion o ran ein polisi cyffredinol. Dylech holi’r brocer neu’r yswiriwr sy’n ymdrin â’ch Polisi Yswiriant Cartref i weld a oes modd estyn yr yswiriant yn awtomatig pan fyddwch oddi cartref ac a oes angen cynyddu’r lefelau mewnol.