Diogelwch Tân

Y perygl mwyaf i fyfyrwyr sy'n byw yn y neuadday yw tân. Dylech ymgyfarwyddo â'r arwydd tân yn eich ystafell cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd.

 

Profi'r larymau tân

Caiff y larymau tân eu profi'n wythnosol ym mhob adeilad er mwyn i ni wybod eu bod yn gweithio'n iawn. Mae amserlen y profion ar gael isod.

Yn ystod y prawf tân, bydd y larwm yn seinio am rai eiliadau - nid oes rhaid i chi adael yr adeilad ar yr adeg hyn. 

Amserlen Brawf

  • PJM Tai 1-89 Dydd Mercher rhwng 12yp – 3yp, Tai 90-178 Dydd Iau rhwng 12yp-3yp
  • Cwrt Mawr - Dydd Gwener rhwng  2yp – 3.30yp
  • Fferm Penglais - Dydd Gwener rhwng 12yp - 3yp
  • Pantycelyn - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp
  • Penbryn - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp
  • Rosser (yn cynnwys Rosser G) - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp
  • Trefloyne - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp

Mi fydd unrhyw newidiadau i’r amserlen profi larymau tân yn cael ei gyfleu i chi dros e-bost.

Os yw'r larwm yn seinio y tu allan i'r amseroedd a nodir, dylech adael yr adeilad. Os yw'r larwm yn seinio'n barhaus, hyd yn oed o fewn yr amser profi, rhaid i chi adael yr adeilad - peidiwch ag aros i gasglu unrhyw eitemau personol, ewch i'r man ymgynnull agosaf a pheidiwch â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad nes bod rhywun yn dweud wrthych am wneud. 

Os ydych chi'n darganfod tân, seiniwch y larwm ar unwaith trwy dorri'r gwydr, gadewch yr adeilad ac yna ffoniwch 999.

Larymau Ffug

Mae'r Gwasanaeth Tân a'r Brifysgol yn gweithio gyda'i gilydd i leihau nifer y larymau ffug sy'n digwydd ar y campws.

Gall larymau ffug achosi anghyfleustra i chi a'ch cyd-breswylwyr, yn arbennig os ydynt yn digwydd yng nghanol y nos. Yn fwy drifrifol, pan fydd y Gwasanaeth Tân yn cael eu galw i'ch neuadd chi, nid ydynt ar gael i fynychu argyfyngau go iawn yn rhywle arall.

Hyd yn oed os ydych chi'n gwybod mai chi sydd wedi achosi i'r larwm seinio a'ch bod yn gwybod nad oes perygl, mae'n rhaid i chi adae; yr adeilad o hyd.

Mae torri'r gwydr sy'n seinio'r larwm tân os nad oes tân yn cyfri fel gweithred faleisus. Bydd unrhyw un sy'n cael eu dal yn gwneud hynny yn debygol o gael dirwy ac wynebu camau disgyblaethol a allai arwain at gael eich eithrio o'r neuadd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y myfyriwr yn gorfod talu'r costau llawn ar gyer gwirio'r offer ac atgyweirio neu newid yr offer. Yn ychwanegol, mae hyn yn drosedd a gallech fod yn agored i erlyniad.

Gall y gwasanaeth tân gyhuddo neu erlyn unigolion os ydynt yn teimlo bod y larymau wedi'u seinio o ganlyniad i weithred faleisus neu esgeulus. Gall troseddwyr mynych wynebu dirwy o hyd at £6,000 a charchar am hyd at 6 mis. 

Archwiliadau Diogelwch Tân

Yn ystod eu hymweliadau patsh arferol, mi fydd eich Cynorthwyyd Preswyl (CP) yn cynnal archwiliad gweledol o’r offer diogelwch tân  yn ystafell wely eich bloc, ac ardaloedd cymunedol eich fflat/tŷ.

Bydd unrhyw problemau a nodwyd yn ystod yr ymweliad yn cael eu hadrodd i’r tîm cynnal a chadw i’w cywiro.

Cadwch lygad ar eich e-byst i gael cadarnhad o pryd y byddant yn galw heibio i’ch gweld ac i gynnal y archwiliadau gweledol hyn.