Amseroedd Gwresogi a Dŵr Poeth

 

 

 

Dewisiwch eich llety isod i weld amserau gwresogi a dŵr poeth:

Cwrt Mawr, Pantycelyn, Penbryn, Rosser G, Trefloyne a Fferm Penglais

Gwresogi:

Rydym yn ceisio cynnal tymheredd gwres cyfforddus rhwng 7yb ac 11yh. Bydd y rheiddiaduron yn dod ymlaen pan fydd y synwyryddion tymheredd yn dangos bod galw am wres. Yn ystod y nos - rhwng 11yh a 7yb - bydd y gwres yn cael ei osod ar dymheredd is.

Ar gyfer y cyfnod cyntaf yn y bore, mae gan neuaddau’r brifysgol system dechrau cynnar o’r enw ‘dechrau optimwm’. Bydd rheolydd yn cyfrifo’r amseroedd y bydd angen i’r gwres ddod ymlaen er mwyn rhag-wresogi’r adeilad i’r tymereddau arferol. Mae’r cyfrifiadau’n seiliedig ar y tymereddau allanol. Felly, ar ddiwrnodau oer, mae’n bosibl y daw'r gwres ymlaen yn gynharach.

Mae’r tymheredd allanol yn rheoli tymheredd y dŵr sy’n llifo i’r rheiddiaduron – os yw’n oer y tu allan, bydd y rheiddiadur yn rhedeg ar dymheredd poethach. Mae hyn oherwydd bod y gwres y mae ystafell yn ei golli’n amrywio yn ôl y tymheredd y tu allan. O ganlyniad, weithiau gall y rheiddiaduron deimlo’n llugoer neu’n oer.

Rheolyddion gwresogi:

Tra bo’r gwres ymlaen gallwch reoleiddio'r tymheredd yn eich ystafell wely a’r gegin drwy addasu'r FRT (Falf Rheiddiadur Thermostatig) sydd wrth ochr eich rheiddiadur (gweler y llun isod).

 

Dŵr Poeth:

Darperir dŵr poeth 24/7.

Rosser C, D, E & F

Gwresogi:

Rydym yn ceisio cynnal tymheredd gwres cyfforddus rhwng 7yb ac 11yh. Bydd y rheiddiaduron yn dod ymlaen pan fydd y synwyryddion tymheredd yn dangos bod galw am wres. Yn ystod y nos - rhwng 11yh a 7yb - bydd y gwres yn cael ei osod ar dymheredd is.

Mae’r gwres yn Rosser yn cael ei reoli gan system dechrau awtomatig. Mae’r system yn mesur tymheredd yr ystafell trwy gydol y dydd a bydd ond yn troi’r gwres ymlaen pan fydd yn gostwng o dan y tymheredd sydd wedi ei osod.

Rheolyddion gwresogi:

Gwnewch yn siwr for y rheiddiadur wedi ei droi ymlaen.
Mae gan pob ystafell wely a chegin reolydd gwres y gellir ei addasu i gynyddu neu leihau’r tymheredd. (Gweler y lluniau isod i adnabod eich rheolydd chi).

Reolyddion Gwres 1Reolyddion Gwres 2Reolyddion Gwres 3

Dŵr Poeth:

Darperir dŵr poeth 24/7

Pentre Jane Morgan

Amseroedd gwresogi:

• Dydd Llun – dydd Gwener: 6.30yb – 9.30yb a 4.30yp – 10.30yh.
• Dydd Sadwrn a dydd Sul: 6.30yb – 9.30yb a 2.30yp – 10.30yh.

Rheolyddion Gwresogi:

Tra bo’r gwres ymlaen gallwch reoleiddio'r tymheredd yn eich ystafell wely a’r gegin drwy addasu'r FRT (Falf Rheiddiadur Thermostatig) sydd wrth ochr eich rheiddiadur (gweler y llun isod).

Mae yna thermostat ar y wal yn y cyntedd hefyd. Mae addasu’r tymheredd ar y thermostat yma yn newid y tymheredd drwy’r tŷ, felly byddwch yn ystyriol o breswylwyr eraill.

Dŵr Poeth:

Mae'r dŵr poeth ymlaen rhwng 6.30yb a 10.30yh. Yn ystod y cyfnod yma bydd y boeler yn cylchredeg dŵr poeth drwy'r silindr dŵr yn barhaus er mwyn cadw'r dŵr yn gynnes. Mae'r silindrau dŵr poeth yn PJM yn fawr. Er bod y dŵr poeth yn diffodd am 10.30yh, dylai fod digon o ddŵr poeth wedi'i storio yn y silindr i bara tan o leiaf 6.30yb pan fydd y dŵr poeth yn cael ei droi ymlaen eto.