Cymorth

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau yn eich ystafell neu fflat, e.e. rydych wedi cloi’ch hun allan, nid ydych yn teimlo’n dda, mae angen atgyweirio rhywbeth, neu fod gennych broblem â chymydog, mae gennym staff ar gael 24 awr y dydd i’ch helpu.

Y Swyddfa Llety

Gall Tim y Swyddfa Llety eich helpu gyda unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch eich llety a gallwch gysylltu â ni drwy'r ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01970 622900 - Llinell Gymorth 24/7 Bywyd Campws -  mae ffôn ym mynedfa pob adeilad (neu yn y bloc cymunedol yn PJM) a fydd yn eich cysylltu â’r rhif hwn.

Ffôn: 01970 622984 yn ystod oriau swyddfa (8.30yb - 5.00yp dydd Llun i ddydd Iau a 8.30yb - 4.30yp dydd Gwener).

E-bost: llety@aber.ac.uk.

Yn bersonol: Ewch i’r Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais (Ar agor rhwng 8.30yb - 5.00yp dydd Llun i ddydd Iau a 8.30yb - 4.30yp dydd Gwener).

Y Tim Diogelwch

Y tu allan i’r oriau swyddfa gallwch gysylltu â’n tim diogelwch cyfeillgar drwy’r ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01970 622900 – Llinell Gymorth 24/7 Bywyd Campws -  mae ffôn ym mynedfa pob adeilad (neu yn y bloc cymunedol yn PJM) a fydd yn eich cysylltu â’r rhif hwn.

Yn bersonol: Ewch i'r Y Tim Diogelwch wedi’u lleoli yn Nerbynfa Campws Penglais (Ar agor 24/7).

Y Gwasanaethau Brys

Os byddwch chi angen Ambiwlans, yr Heddlu, y Frigâd Dân neu Wylwyr y Glannau dylech ffonio’r Gwasanaethau Brys ar unwaith ar:

Ffôn allanol - 999.

Ffôn mewnol - 222.

Yr ysbyty agosaf yw Ysbyty Cyffredinol Bronglais, ar Riw Penglais, tua 0.4 milltir o’r prif gampws.

Datganiad Preifatrwydd Data

Mae eich gwybodaeth bersonol yn werthfawr ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae Gwasanaethau’r Campws yn casglu, cofnodi, defnyddio, ac mewn rhai achosion, yn rhannu’r wybodaeth bersonol sydd gennym am ddefnyddwyr ein gwasanaethau amrywiol at y dibenion a fwriadwyd wrth gasglu’r wybodaeth. Mae Gwasanaethau’r Campws yn ymroddedig i ddiogelu a gwarchod preifatrwydd ein defnyddwyr drwy gydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth ewch i weddalen Gwybodaeth Diogelu Data Gwasanaethau’r Campws a Datganiad Preifatrwydd Proses Lety Prifysgol Aberystwyth.

Nid yw’r ffordd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel a saff wedi newid; ond mae ein polisïau’n ei gwneud hi’n haws i chi ddeall pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw a sut yr ydym yn ei defnyddio, er enghraifft:

• Yr wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi, gan gynnwys pryd a pham yr ydym yn gwneud hynny.
• Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth.
• Gan bwy y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi.
• Am ba hyd y cedwir eich gwybodaeth.
• Sut yr ydym yn gweithredu o fewn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn unig, wrth gasglu a phrosesu gwybodaeth.