Golchi Dillad

Nid yw golchi eich dillad yn neuaddau’r Brifysgol erioed wedi bod mor hawdd.

Am fwy o wybodaeth, fel sut i ddefnyddio'r peiriannau, gweler isod.

Mynediad i’r Golchdy

Gall holl breswylwyr PA ddefnyddio eu Cerdyn Aber i gael mynediad i’r golchdai. Ceir hyd i’r golchdai yn: Cwrt Mawr, Rosser C, Rosser G (ar gael i breswylwyr Rosser G yn unig), Bloc Cyfleusterau PJM, Pantycelyn-Penbryn (ar gael i breswylwyr Pantycelyn-Penbryn yn unig), Llawr Isaf Pumlumon (Glan y Môr) a Fferm Penglais (x3).

Ap golchdy Circuit

Gall golchi dillad fod yn hawdd os ydych chi’n lawrlwytho ap golchdy Circuit sy’n eich galluogi i ychwanegu arian heb orfod cael arian mân.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler www.circuit.co.uk.

I gael manylion ynghylch sut i gael ad-daliad o gredyd nad ydych wedi’i ddefnyddio ar yr ap golchi dillad,  ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Circuit - https://www.circuit.co.uk/help-support/faqs/

 

Golchi a Sychu

Gellir canfod prisiau golchi a sychu ar beiriannau unigol, ond i roi syniad ichi o’r costau, mae golchiad arferol yn costio £2.50, a sychiad arferol yn costio £1.30 am 60 munud.

Ar ôl i chi roi eich dillad a’ch powdr golchi yn y peiriant, daliwch eich cerdyn golchdy neu’r ap yn erbyn y darllenydd cardiau ar y peiriant, dewiswch y cylchred yr hoffech ac yna daliwch eich cerdyn golchdy neu’r ap yn erbyn y peiriant eto. Bydd y peiriant yn cychwyn yn awtomatig wedyn.

Os oes neges credyd isel yn ymddangos, mae’n golygu nad oes gennych ddigon o arian ac mae angen i chi ychwanegu credyd.

Ar ôl defnyddio’r sychwyr, glanhewch y ffilter – ceir hyd i gyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn ar y sychwyr.

Awgrym! Gallwch agor y sychwr dillad ganol y cylchred sychu i weld a yw eich dillad yn sych. Os ydych am sychu eich dillad am ragor o amser, daliwch eich cerdyn neu eich ap yn erbyn cod QR y peiriant i ychwanegu at yr amser sychu bod yn 10 munud.

Y Ffordd Orau o Olchi eich Dillad

  • Gwahanwch eich dillad yn gywir (yn bwysicach oll, gwahanwch y dillad lliw tywyll oddi wrth y dillad lliw golau!).
  • Dewiswch y cylchred mwyaf addas. Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, edrychwch ar label y dilledyn i weld y cyfarwyddiadau golchi a darllenwch yr Awgrymiadau.
  • Llenwch y drwm hyd at yr uchder sydd wedi’i nodi ar y peiriant. Gwnewch yn siŵr fod eich dillad yn cyrraedd rywle rhwng y llinell isaf a’r llinell uchaf nesaf at y drwm.
  • Glanhewch y ffilter edeifion ar flaen y sychwr i sicrhau bod eich dillad yn sychu’n gywir.
  • Defnyddiwch dabledi golchi dillad sy’n cynnwys hylif glanhau a meddalu a rhowch nhw ynghanol y drwm.

Cardiau Golchdy

Gellir prynu cardiau golchdy yn y golchdai canlynol; Cwrt Mawr, Rosser C, PJM, Pantycelyn-Penbryn a Pumlumon.

Pris y cardiau golchdy yw £2. Felly, os ydych chi’n rhoi £10 yn y peiriant byddwch yn cael cerdyn gyda £8 o gredyd. Gallwch naill ai roi £10 neu £20 yn y peiriant. Yn anffodus, nid yw’r peiriant yn rhoi newid.

I weld faint o gredyd sydd ar ôl ar eich cerdyn, pwyswch unrhyw rif ar y peiriant ychwanegu credyd a rhowch y cerdyn wrth y darllenydd, bydd eich credyd yn ymddangos ar y sgrin. Neu, bydd eich credyd yn ymddangos bob tro y bydd eich cerdyn yn cael ei ddal yn erbyn y darllenydd ar y peiriannau golchi neu’r peiriannau sychu.

Yn anffodus, os ydych chi’n colli eich cerdyn golchdy, nid oes modd ei amnewid na chael eich credyd yn ôl. Felly, bydd angen i chi brynu un newydd.

I gael manylion ynghylch sut i gael ad-daliad o gredyd nad ydych wedi’i ddefnyddio ar eich cerdyn golchi dillad, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Circuit - https://www.circuit.co.uk/help-support/faqs/

Ychwanegu credyd i’ch cerdyn

I ychwanegu credyd, ewch i wefan golchdy Circuit. Bydd angen i chi gofrestru i ddefnyddio ‘My Circuit’. Ar ôl gwneud hyn, gellir gwneud taliadau gyda cherdyn Debyd/Credyd neu drwy PayPal.

Os ydych chi’n teimlo bod gennych hawl i gael ad-daliad dylech ffonio Llinell Gymorth Circuit – 01422 820026.

Golwg o’r Golchdy

Mae Golwg o’r Golchdy yn galluogi defnyddwyr i weld faint o beiriannau sydd ar gael a faint sy’n cael eu defnyddio.

Gallwch hefyd wneud cais i gael neges pan fydd eich dillad yn barod.

Diffygion

Rhaid rhoi gwybod am ddiffygion trwy ffonio'r llinell gymorth rad ac am ddim ar 0800 092 4068 neu os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol, ffoniwch 01422 820040. Os oes ffôn yn eich golchdy, codwch y set law a bydd yn deialu desg gymorth Circuit yn uniongyrchol ac mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.

Gellir hefyd roi gwybod am ddiffygion ar-lein trwy ymweld â gwefan Circuit, clicio ar y tab 'Get in touch' a llenwi'r ffurflen 'Report a machine fault'. Wrth roi gwybod am nam, rhowch enw a rhif y safle, sydd ar y sticeri coch ar waliau'r golchdy.

Rhai Namau Cyffredin

Nid yw’r peiriannau’n gweithio

 

  • Mae Circuit yn gofyn inni roi gwybod iddynt am yr holl namau ar y peiriannau yn syth fel nad ydynt yn segur am gyfnodau hir. Wrth alw llinell gymorth Circuit ar 01422 820026, bydd gofyn ichi roi cyfeirnod y safle, (sydd i’w weld ar y sticer coch ger drws y golchdy), rhif y peiriant a disgrifiad byr o’r broblem. Ar ôl ichi sôn am y broblem, ymdrechwn i ddod i ddelio â’r mater o fewn 8 awr waith. Rhaid i Circuit gael gwybod am y namau er mwyn atgyweirio’r peiriannau.

 Mae’r dillad yn dal i ddod allan o’r peiriant yn wlyb

 

  • Mae’r holl beiriannau ar gampws Aberystwyth wedi’u cynllunio fel bod y llwyth yn cael ei ddosbarthu’n gytbwys drwy’r peiriant. Os yw’r peiriant wedi’i orlwytho neu ei danlwytho, gall hyn achosi problemau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau llwytho ar y sticeri sydd i’w gweld ar bob peiriant golchi. Hefyd, mae’r cylchredau ar rai rhaglenni peiriannau golchi yn troi’r dillad yn gynt nag eraill. Er enghraifft, mae cylchred ar gyfer dillad gwynion neu ddillad lliw yn troi’n llawer cynt na chylchred nad yw’n crychu’r dillad (près parhaol) neu gylchred ar gyfer dillad main.

Peiriannau sychu nad ydynt yn sychu’n iawn

 

  • Mae dewis y cylchred cywir ar beiriannau golchi a sychu yn hanfodol er mwyn i’ch dillad sychu’n effeithiol. Efallai nai fyddai cylchredau sychu 60 munud yn ddigon hir i sychu eitemau fel jîns, tywelion ac ati. Efallai y bydd yn rhaid ichi eu sychu am ryw 10 i 20 munud ychwanegol, a gallwch ychwanegu’r amser hwn yn ystod y cyfnod sychu.

Ychwanegu at Gredyd

 

  • Wrth ychwanegu at eich credyd, nid yw'r system yn derbyn llai na £5 ond gallwch ychwanegu at eich credyd bod yn 25 ceiniog dros y swm hwn.

Peiriannau’n llawn dŵr

 

  • Llieiniau dal lliw sy’n sownd yng nghrombil y pwmp draenio sydd fel rheol yn achosi’r broblem hon. Mae’r sticeri sydd ar y peiriannau yn gofyn ichi beidio â defnyddio’r llieiniau hyn am y rheswm hwn. Gall eitemau bychain, megis clipiau gwallt gyrraedd rhwng sêl y drws a'r drwm ac i mewn i’r pwmp draenio. Edrychwch drwy bocedi eich dillad bob tro cyn ichi eu rhoi yn y peiriant.

Nid yw’r ap yn gweithio

 

  • Yn debyg i’r rhan fwyaf o apiau, mae hwn yn rhedeg ar signal Wi-Fi 3G neu 4G, a rhaid i’r signal fod yn gryf er mwyn ichi allu ei ddefnyddio. Os nad oes signal neu Wi-Fi gennych chi, bydd angen cerdyn arnoch i gael y peiriannau i weithio. Rydym yn argymell bob tro eich bod wedi eich cysylltu â signal Wi-Fi cryf – hwn yw’r opsiwn gorau.

Neges nam EDL (Error Door Lock) i’w gweld ar y peiriant

 

  • Os oes neges nam EDL i’w gweld ar eich peiriant, nid yw clo ar y drws yn gweithio’n iawn. Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch gau’r drws yn dynn. Os yw’r neges nam EDL yn dal i ymddangos, cysylltwch â Circuit i sôn am y broblem a defnyddiwch beiriant arall.

 

 

 

 

 

 

 

  • Beth yw ‘Gweld y Golchdy’?