Cais Trosglwyddo

 

Mae'r Broses Ymgeisio Trosglwyddo yn agor 10yb Dydd Llun, 9fed Hydref. Mae hwn yn wasanaeth am ddim felly nid oes ffi drosglwyddo, ond gall ffioedd llety newid yn dibynnu ar y math o lety rydych yn trosglwyddo iddo.  Cyfeiriwch at ein dudalen ffioedd llety

Manylion y trosglwyddiad

Os ydych chi'n dymuno trosglwyddo i llety arall yn y Brifysgol, mae'n ofynnol i chi lenwi ffurflen gais Trosglwyddo. Rhaid cwblhau a chyflwyno hyn, yn bersonol, i'r Swyddfa Llety a leolir yn Y Sgubor, Fferm Penglais. 

Nid yw llenwi’r ffurflen symud yn gwarantu y byddwch chi’n symud llety, ac mae’n rhaid i bob cais gael ei ystyried i ddechrau gan y Swyddfa Llety. Bydd y ffurflenni’n cael eu prosesu yn nhrefn y dyddiad a’r amser y’u cyflwynir, ond mae’n bosib y rhoddir blaenoriaeth mewn amgylchiadau arbennig. Yna, bydd symud llety yn amodol ar y ffaith bod lleoedd addas gwag ar gael yn y llety a ddewiswyd gennych. Felly, nid oes unrhyw raddfeydd amser ar ba mor hir y gallai eich trosglwyddiad ei gymryd.

Sut i wneud cais i symud llety:

  1. Lawr lwythwch Ffurflen Gais Trosglwyddo neu casglwch un o’r Swyddfa Llety
  2. Gofynnwn i chi atodi unrhyw ddogfennau ategol h.y. llythyr gan ddoctor, tiwtor personol, ac yn y blaen, i’r Ffurflen Cais i Symud Llety
  3. Ar ôl ei llenwi dychwelwch eich ffurflen cais i’r Swyddfa Llety yn bersonol. Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni a anfonir yn electronig.
  4. Os oes lle addas ar gael, bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost. Gofynnwn i chi edrych ar eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth yn rheolaidd.

Derbyn eich cais i drosglwyddo

Cam 1 - Cynnig Newydd

Symud i lety gwahanol - Cynnig llety newydd yn cael ei anfon i’ch cyfrif e-bost Aber

Symud i ystafell newydd yn yr un llety - Cynnig llety newydd yn cael ei anfon i’ch cyfrif e-bost Aber

Cam 2 - Derbyn eich cynnig

Symud i lety gwahanol - Bydd angen cwblhau Contract Meddiannaeth newydd.

Symud i ystafell newydd yn yr un llety - Nid oes angen i chi lenwi Contract Meddiannaeth newydd gan fod telerau ac amodau eich contract bresennol yn dal yn berthnasol. Gallwch weld eich Contract drwy fewngofnodi i’r Porth Llety

Cam 3 - Casglu eich goriad

Symud i lety gwahanol - Nôl allwedd eich ystafell newydd

 

Symud i ystafell newydd yn yr un llety - Derbyn eich cynnig newydd drwy gasglu allwedd eich ystafell newydd

Cam 4 - Dychwelyd eich goriad

Symud i lety gwahanol - Dychwelyd allwedd eich hen ystafell ar yr un diwrnod

 

Symud i ystafell newydd yn yr un llety - Dychwelyd allwedd eich hen ystafell ar yr un diwrnod

Gwybodaeth bwysig

  1. Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn e-bost gan y Swyddfa Llety yn cynnig ystafell arall i chi, mae gennych 48 awr i dderbyn y cynnig hwn. Bydd methiant i gadarnhau'r cynnig  o fewn yr amser,  yn golygu bod y Swyddfa Llety yn tynnu'r cynnig trosglwyddo yn ôl ac ni fyddwch yn cael eich ystyried am drosglwyddiad mwyach. Os ydych chi'n dal i fod eisiau trosglwyddo llety bydd angen i chi ail-ymgeisio.

  2. Nodwch mai dim ond o rhwng Dydd Llun a Dydd Iau 8:30yb - 5:00yp a dydd Gwener 8:30yb - 4:30yp.
  3. Pan fyddwch yn gadael eich ystafell mae'n rhaid i chi lanhau'r ystafell i safon foddhaol neu efallai y bydd rhaid i chi dalu costau glanhau ychwanegol. Byddwn yn cynnal archwiliad ar ôl i chi adael i sicrhau bod yr ystafell yr ydych yn symud allan ohoni yn lân ac nad ydy hi wedi cael ei difrodi mewn unrhyw ffordd. Os bydd rhaid i chi dalu costau difrod/glanhau byddwch yn cael anfoneb am y cyfanswm.
  4. Os nad ydych yn dychwelyd yr allwedd ar gyfer eich hen ystafell (5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau neu 4:30yp dydd Gwener) ar y diwrnod y byddwch yn symud, bydd rhaid ichi dalu’r gyfradd nosweithiol ar gyfer y ddwy ystafell. Gweler ein Ffioedd Llety am fanylion pellach.
  5. Os nad ydych yn dychwelyd allwedd eich hen ystafell bydd rhaid talu £30 am bob allwedd.
  6. Os nad ydych chi bellach eisiau symud, dylech roi gwybod i’r Swyddfa Llety ar y cyfle cyntaf.
  7. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr os hoffech drafod unrhyw faterion bugeiliol neu les â hwy cyn llenwi’r ffurflen ‘Cais i Symud Llety’.