Uwchraddedigion Newydd

Gwarant o Lety’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig Blwyddyn Gyntaf!

Bydd y broses hunan-ddyrannu ar gyfer llety’r Brifysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25 yn agor ar y 18fed o Ebrill. Gallwch gofrestru ar y Porth Llety o’r 3ydd o Ebrill ymlaen.

Sicrwydd o Lety

Rhoddir sicrwydd o le mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, i fyfyrwyr uwchraddedig newydd am flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, os ydych chi’n gwneud cais cyn 1 Medi yn y flwyddyn mynediad.

I fod yn gymwys i gael sicrwydd o le yn llety’r Brifysgol, mae’n rhaid i chi hefyd ymateb i’r cynnig o lety erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig Llety.

Er ein bod yn rhoi sicrwydd o le mewn llety sy'n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu y bydd modd darparu math penodol o ystafell, na lleoliad penodol.

 

Pam byw gyda ni?

Mae byw yn llety’r Brifysgol yn ddechrau amser cyffrous iawn, a fydd yn gyfle i chi gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau am oes mewn cymuned gefnogol, fywiog a llawn hwyl!

Ni fydd angen poeni am filiau yn codi a gostwng gan fod y ffioedd yn cynnwys cyfleustodau (e.e. dŵr, gwresogi, trydan), y we a chyswllt di-wifr, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol ac aelodaeth blatinwm o’r Ganolfan Chwaraeon yn rhad ac am ddim! Gellir dod o hyd i fanteision ychwanegol ar ein gweddalen Pam byw gyda ni?

 

Opsiynau Llety

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau llety, gyda'r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith cerdded fer i'r campws.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o lety hunanarlwyo gyda naill ai ystafelloedd en-suite, fflatiau gydag adnoddau a rennir, neu ein stiwdios hunan-gynhwysol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o steiliau, cyllidebau a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i'r llety sy'n addas i chi.

Rydym yn deall bod cyrsiau ôl-raddedig yn rhedeg yn hirach, felly mae ystafelloedd ar gael yn ein llety penodol i uwchraddedigion yn Rosser (ystafelloedd en-suite) am 50 wythnos, lle y gallwch fwynhau preswyliad parhaus mewn un lle.

Os nad ydych yn awyddus i goginio, efallai yr hoffech fanteisio ar ein cynllun prydau bwyd hyblyg.

Os ydych yn siaradwr neu'n ddysgwr Cymraeg ac yn awyddus i fyw mewn amgylchedd Cymraeg mae llety Cyfrwng Cymraeg penodedig ar gael i chi.

Pryd a sut i wneud cais am lety

Os ydych wedi cael cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth (a allai fod yn amodol), o ganol mis Mawrth ymlaen, bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost a thrwy’r post yn eich gwahodd i wneud cais am lety.

Mae ein tudalen Sut mae gwneud cais yn cynnig canllaw cam-wrth-gam defnyddiol ar sut i wneud cais ar-lein am le yn llety’r Brifysgol.  

Dewisiadau Llety Eraill

Os nad ydych eisiau byw yn llety’r Brifysgol, efallai yr hoffech fyw mewn Llety yn y Sector Preifat.

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bob agwedd ar lety’r Brifysgol a llety sector preifat.