Israddedigion Newydd

Gwarant o Lety’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn Gyntaf!

Disgwylir i geisiadau am lety Prifysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 ar agor nawr.

29 Mawrth - Cofrestrwch eich manylion ar y porth llety, cyn i geisiadau agor, gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost personol a'ch dyddiad geni.

13 Ebrill – Porth llety ar agor i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Aberystwyth yn ddewis Cadarn

19 Ebrill – Porth llety ar agor i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Aberystwyth yn ddewis yswiriant.

Edrychwch ar ein tudalen Sut i wneud cais am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn â'r broses.

Sut i wneud cais

 

Llety Gwarantedig

Gwarentir llety yn un o'r neuaddau sy'n eiddo i'r Brifysgol neu a reolir gan y Brifysgol i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, cyn belled â'ch bod wedi gwneud cais erbyn y dyddiad cau perthnasol yn y flwyddyn mynediad:

  • Israddedigion newydd : 01 Medi
  • Os ydych yn gwneud cais i astudio yn y Brifysgol drwy'r broses Glirio : 01 Medi

I fod yn gymwys am le wedi'i warantu, mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn derbyn y cynnig o lety a wneir i chi erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig Llety. 

Er ein bod yn gwarantu lle mewn Llety sy'n eiddo i'r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu darparu math penodol o lety, na lleoliad penodol.

Gosodir telerau ac amodau - ewch i'n Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.

Pam byw gyda ni?

Mae byw yn llety'r Brifysgol yn gyfnod cyffrous iawn, sy'n roi'r cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau am oes mewn cymuned gefnogol, hwyliog a bywiog!

Does dim angen poeni am filiau amrywiol gan fod y ffioedd llety yn cynnwys cyfleustodau (e.e. dŵr, gwres, trydan), cysylltiad rhyngrwyd & Wi-Fi, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol ac aelodaeth platinwm y Ganolfan Chwaraeon am ddim!

 

 

Dewisiadau Llety

Rydyn ni'n cynnig llety o safon uchel, wedi'i leoli'n gyfleus yn Aberystwyth. O breswylfeydd arlwyo 'traddodiadol' ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn unig i lety en-suite neu hunan-arlwyo, gallwn ddarparu opsiwn sy'n addas ar gyfer eich gofynion. Mae gennym lety arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad neu'n dysgu Cymraeg a fyddai'n hoffi byw mewn amgylchedd lle siaredir Cymraeg. 

I ddarganfod pa lety sydd ar gael i chi, cymharwch ein preswylfeydd.

Pryd y gallaf wneud cais?

Unwaith y byddwch wedi dewis Aberystwyth fel eich dewis Cadarn neu ddewis Wrth Gefn, o ganol Mawrth ymlaen bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety. 

Os ydych yn gwneud cais i astudio yn y Brifysgol drwy'r broses Glirio, unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich lle bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety. 

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gweddalen Sut Mae Gwneud Cais.

Dewisiadau Llety Arall

Dewisiadau Llety Arall

Os nad ydych chi eisiau byw yn Llety’r Brifysgol, efallai y byddai'n well gennych fyw mewn Llety yn y Sector Preifat.

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch pob agwedd ar dai, boed hynny yn llety'r brifysgol neu'r sector preifat.