Preswylfeydd

Llety Arlwyo

Cyflwynwyd Cerdyn Teyrngarwch i roi dewis da o brydau mewn sawl man ar y campws am brisiau da, gan roi hyblygrwydd i fyfyrwyr fwyta pryd bynnag a lle bynnag. Mae ffioedd yr holl Lety Arlwyo yn cynnwys elfen benodol i dalu costau o leiaf un pryd bwyd y dydd sy'n rhoi i'r myfyriwr yr hyblygrwydd o ddewis ble a phryd i fwyta. Gall myfyrwyr ychwanegu at werth y Cerdyn Teyrngarwch os dymunant.

Llety Hunan-Arlwyo

Mae'r rhain yn rhoi'r rhyddid i chi drefnu'ch bywyd yn ôl eich blaenoriaethau'ch hun. Ystafelloedd gwely/astudio unigol sydd yn y neuaddau hyn ar y cyfan, ac mae adnoddau cegin ac ystafelloedd ymolchi'n cael eu rhannu.