Neuadd Alexandra
Mae'r llety myfyrwyr hanesyddol hwn ar y prom yn Aberystwyth, a gellir cerdded oddi yma i'r prif gampws ac i ganol y dref. Codwyd yr adeilad yn wreiddiol yn 1895, ac mae wrthi'n cael ei adnewyddu'n llwyr i gydymffurfio â safonau modern. Bellach mae'n cynnig dewis o ystafelloedd cyffredin ac ystafelloedd en-suite.
Mae'r ystafelloedd cysgu/astudio wedi'u casglu ynghyd i greu fflatiau i rhwng 4 ac 8 o fyfyrwyr, lle rhennir cyfleusterau cegin, ac mae dewis o fathau o ystafelloedd ar gael:
- Ystafell sengl, yn rhannu adnoddau ymolchi
- Ystafell sengl uwchraddol â golygfa o'r môr ac/neu en-suite
Mae gan yr holl ystafelloedd gyswllt â Rhwydwaith ardal y Campws.
Mae cyfleusterau golchi dillad hefyd ar gael yn yr adeilad.
Cyfanswm y myfyrwyr: 254
Derbynfa: (01970) 626097
