Cwrt Mawr

Mae Cwrt Mawr wedi’i leoli ar bwynt uchaf Campws y Brifysgol ac mae gan lawer o’r ystafelloedd olygfeydd gwych o’r dref. Ceir deuddeg bloc ar wahân sy’n cynnwys chwe fflat hunanarlwyo hunangynhwysol a fydd yn gartref i rhwng naw ac un ar ddeg myfyriwr. Mae’r rhan fwyaf o ystafelloedd yn ystafelloedd gwely/astudio sengl. Ceir offer helaeth ym mhob fflat ond mae disgwyl i fyfyrwyr ddarparu eu cyllyll a ffyrc, eu llestri a’u holl ddillad gwely eu hunain. Mae gan bob ystafell gysylltiadau cyfrifiadurol â rhwydwaith ardal y campws. Yn y bloc cymunedol ceir lolfa fawr, bar a lolfeydd teledu a cheir golchdy sy’n llawn offer pwrpasol.

Nifer y Myfyrwyr: 592

Derbynfa: (01970) 622935

Bar Available Washing Facilities Parking Available Sea View Internet Access

Cofnodi Nam

Cofrestru Ymwelydd