Pantycelyn
Mae Pantycelyn yn adeilad carreg urddasol ar Riw Penglais, o fewn cyrraedd rhwydd i’r prif gampws. Mae’r llety yn gymysgedd o ystafelloedd sengl, dwbl a bwnc, pob un ohonynt â chysylltiadau â’r rhwydwaith, ond mae gofyn i rai myfyrwyr rannu ystafelloedd. Mae Neuadd Pantycelyn wedi’i phennu yn Llety Cymraeg cymysg lle bydd digon o siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd fel y prif gyfrwng cyfathrebu. Defnyddir prif lolfa’r neuadd fel canolfan ar gyfer cyfarfodydd cymdeithasau Cymraeg y Brifysgol.Mae Pantycelyn yn Llety Arlwyo ac mae’r Ffioedd Llety yn cynnwys tâl sefydlog i gwmpasu cost prydau sy’n cyfateb, fwy neu lai, i un pryd y dydd y gellir ei gael yn Ffreutur Pantycelyn neu yn unrhyw un o’r mannau arlwyo. Disgwylir i’r myfyrwyr ddarparu eu holl ddillad gwely eu hunain. Mae’r cyfleusterau cymunedol yn cynnwys ystafell gyfrifiaduron, ystafell deledu, golchdy ac ystafelloedd adnoddau.
Nifer y Myfyrwyr: 230
Derbynfa: (01970) 628663
