Pentre Jane Morgan
Mae pentre’r myfyrwyr yn cynnwys tai unigol sydd wedi’u cynllunio i gartrefu grwpiau o 5 a 6 myfyriwr mewn ystafelloedd gwely/astudio sengl, gan rannu cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi. Mae gan bob ystafell gysylltiadau cyfrifiadurol i rwydwaith ardal y Campws. Ar y safle hwn ceir cyfleusterau canolog lle ceir ystafell gyfrifiaduron a golchdy. Mae Lolfa PJM yn darparu gweithfannau cyhoeddus, mynediad rhwydwaith diwifr, byrddau ar gyfer gwaith grŵp neu astudio ar eich pen eich hun, dodrefn cyfforddus er mwyn ymlacio, a gwasanaeth gwerthu. Gellir cyrraedd y pentref o’r prif gampws drwy groesi pont droed. Mae disgwyl i fyfyrwyr ddarparu eu cyllyll a ffyrc, eu llestri a’r holl ddillad gwely eu hunain.
Nifer y Myfyrwyr: 996
Derbynfa: (01970) 622935